Search Legislation

Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2005

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Diwygio Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003

2.—(1Mae Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003(1) wedi'u diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5).

(2Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) —

(a)yn lle'r diffiniad o “Penderfyniad y Comisiwn” rhoddir y diffiniad canlynol —

ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2005/85/EC sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau pistasio a chynhyrchion penodol sy'n deillio o gnau pistasio sy'n tarddu o Iran, neu sydd wedi'u traddodi oddi yno(2);”; a

(b)

yn lle'r diffiniad o “Cyfarwyddeb 98/53/EC” rhoddir y diffiniad canlynol —

ystyr “Cyfarwyddeb 98/53/EC” (“Directive 98/53/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 98/53/EC sy'n pennu'r dulliau samplu a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheolaeth swyddogol ar lefelau halogion penodol mewn bwydydd(3), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/43/EC(4);;

(3Yn lle paragraff (1) o reoliad 3 (gwahardd mewnforio), rhoddir y paragraff canlynol —

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb fewnforio i Gymru unrhyw gnau pistasio Iranaidd oni bai —

(a)bod yr amodau a bennir yn Erthygl 1.1, 3, 5 ac (i'r graddau y mae'n yn gymwys yn y man mewnforio) 7 o Benderfyniad y Comisiwn wedi'u bodloni mewn perthynas â'r cnau pistasio hynny; a

(b)bod y costau, sy'n deillio o'r samplu, y dadansoddi a'r storio ac o ddyroddi'r dogfennau swyddogol sy'n mynd gyda'r cnau pistasio hynny a chopïau o dystysgrifau iechyd a'r dogfennau sy'n mynd gyda'r tystysgrifau hynny yn unol ag Erthygl 1.4 i 7 o Benderfyniad y Comisiwn, wedi'u talu..

(4Yn lle paragraff (4) o reoliad 4 (gorfodi), rhoddir y paragraff canlynol —

(4) Y gofynion yw'r gofynion a bennir yn —

(a)Erthygl 1.4 o Benderfyniad y Comisiwn (sy'n ymwneud â gwirio'r dogfennau sy'n berthnasol i lwythi o gnau pistasio Iranaidd);

(b)Erthygl 1.5 ac 1.6 o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud â samplu a dadansoddi'r llwythi hynny), ac eithrio'r gofyniad o dan Erthygl 1.5 i roi gwybodaeth benodedig i'r Comisiwn; ac

(c)Erthygl 1.7 o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud ag achosion o hollti llwythi)..

(5Yn lle rheoliad 6 (ailanfon neu ddinistrio mewnforion anghyfreithlon), rhoddir y rheoliad canlynol —

6.(1) Wedi arolygu neu archwilio unrhyw gnau pistasio Iranaidd, os yw'n ymddangos i swyddog awdurdodedig awdurdod iechyd porthladd neu, yn ôl y digwydd, awdurdod bwyd, eu bod wedi'u mewnforio yn groes i baragraff (1) neu (2) o reoliad 3, wedi iddo ymgynghori'n briodol â pherson y mae'n ymddangos iddo mai ef yw mewnforiwr y cnau pistasio, caiff gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad sy'n gorchymyn —

(a)ailanfon y cnau pistasio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd o fewn y cyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad os yw'r holl gostau, sy'n gysylltiedig â'r mesurau swyddogol a gymerwyd mewn perthynas â'r cnau pistasio hynny ac sydd wedi'u nodi yn yr hysbysiad hwnnw, wedi'u talu; neu

(b)os —

(i)byddai'r ailanfon hwnnw yn ei farn ef yn creu peryglon difrifol i iechyd pobl, neu

(ii)nad yw'r costau hynny wedi'u talu,

dinistrio'r cnau pistasio o fewn y cyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.

(2) Os yw hysbysiad wedi'i gyflwyno o dan is-baragraff (a) o baragraff (1) ac nad yw'r cnau pistasio o dan sylw wedi'u hailanfon y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, caiff swyddog awdurdodedig yr awdurdod iechyd porthladd neu'r awdurdod bwyd y cyflwynwyd yr hysbysiad gan ei swyddog awdurdodedig ef, ar ôl ymgynghori'n briodol â'r person y mae'n ymddangos iddo mai ef yw mewnforiwr y cnau pistasio, gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddinistrio'r cnau pistasio o fewn y cyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.

(3) Mae hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) neu (2) i nodi:

(a)hawl i apelio i lys ynadon; a

(b)y cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl.

(4) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) neu (2) apelio i lys ynadon, a fydd yn penderfynu a ddylid cadarnhau neu ddiddymu'r hysbysiad.

(5) Chwe diwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad ac eithrio Sadyrnau, Suliau a gwyliau cyhoeddus yw'r cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl a grybwyllwyd ym mharagraff (4) ac, at ddibenion y paragraff hwn, bernir bod gwneud yr achwyniad yn gyfystyr â dwyn yr apêl.

(6) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (4), mae'r weithdrefn i fod ar ffurf achwyniad er mwyn cael gorchymyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(5) yn gymwys i'r achos.

(7) Os bydd y llys yn caniatáu apêl a ddygir o dan baragraff (4), rhaid i'r awdurdod o dan sylw dalu iawndal i berchennog y cnau pistasio Iranaidd o dan sylw am unrhyw ddibrisiant yn eu gwerth sy'n deillio o'r camau a gymerir gan y swyddog awdurdodedig.

(8) Penderfynir unrhyw gwestiwn y mae dadl yn ei gylch o dan baragraff (7), o ran yr hawl i gael iawndal neu swm unrhyw iawndal sy'n daladwy, drwy gymrodeddu.

(9) Bydd unrhyw berson sy'n torri amodau hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) neu (2) yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am gyfnod heb fod yn fwy na thri mis..

(2)

OJ Rhif L30, 3.2.2005, t.12.

(3)

OJ Rhif L201, 17.7.98, t.93.

(4)

OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.14.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources