- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/2288 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/245 ac O.S. 2004/1804). Rhoddodd y Rheoliadau hynny ar waith Benderfyniad y Comisiwn 97/830/EC sy'n diddymu Penderfyniad y Comisiwn 97/613/EC ac sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau pistasio a chynhyrchion penodol sy'n deillio o gnau pistasio sy'n tarddu o Iran, neu sydd wedi'u traddodi oddi yno (OJ Rhif L343, 13.12.97, t.30) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2004/429/EC (OJ Rhif L154, 30.04.2004 t.20). Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith Benderfyniad y Comisiwn 2005/85/EC, a elwir “y Penderfyniad newydd”, sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau pistasio a chynhyrchion penodol sy'n deillio o gnau pistasio sy'n tarddu o Iran, neu sydd wedi'u traddodi oddi yno (OJ Rhif L30, 3.2.2005, t.12). Diddymodd y Penderfyniad newydd Benderfyniad y Comisiwn 97/830/EC.
2. Y gwahaniaethau pwysig rhwng y Penderfyniad newydd a Phenderfyniad y Comisiwn 97/830/EC yw —
(a)bod Erthygl 1.1 o'r Penderfyniad newydd yn darparu bod y dystysgrif iechyd y mae'n ofynnol iddi fynd gyda llwyth o “cnau pistasio Iranaidd” (fel y'u diffinnir yn rheoliad 2(1) o O.S. 2003/2288) i fod yn ddilys ar gyfer mewnforio a wnaed heb fod yn hwy na 4 mis ar ôl dyddiad dyroddi'r dystysgrif iechyd; a
(b)bod Erthygl 3 o'r Penderfyniad newydd yn darparu bod costau penodol, sy'n ymwneud â'r rheolaethau mewnforio ar gnau pistasio Iranaidd a osodir gan y Penderfyniad a'r costau ynglyn â mesurau swyddogol a gymerir yn erbyn llwythi o gnau pistasio Iranaidd nad ydynt yn cydymffurfio â'r Penderfyniad, i'w talu gan y person sy'n gyfrifol am y llwyth.
3. Mae'r newid a ddisgrifiwyd ym mharagraff 2(a) uchod wedi'i gyflawni drwy roi diffiniad o'r Penderfyniad newydd yn lle'r diffiniad o Benderfyniad y Comisiwn 97/830/EC yn rheoliad 2(1) o O.S. 2003/2288 a gwneud newidiadau canlyniadol i reoliadau 3(1) a 4(4) o'r offeryn hwnnw (rheoliad 2(2)(a), (3) a (4)).
4. Mae'r newid a ddisgrifiwyd ym mharagraff 2(b) uchod wedi'i gyflawni drwy ddiwygio rheoliadau 3(1) a 6(1) o O.S. 2003/2288 i'w gwneud yn amod ar gyfer mewnforio bod y costau sy'n ymwneud â rheolaethau mewnforio wedi'u talu ac yn amod ar gyfer ailanfon llwythi nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheoliadau bod y costau sy'n ymwneud â mesurau swyddogol a gymerwyd yn eu herbyn wedi'u talu (rheoliad 2(3) a (5)).
5. Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod diffiniad diwygiedig o Gyfarwyddeb y Comisiwn 98/53/EC yn rheoliad 2(1) o O.S. 2003/2288 i adlewyrchu'r diwygiadau a wnaed i'r Gyfarwyddeb honno (rheoliad 2(2)(b)).
6. Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod paragraff (2) newydd yn rheoliad 6 o O.S. 2003/2288, sy'n darparu y caniateir dinistrio mewnforion anghyfreithlon o gnau pistasio Iranaidd os na chânt eu hailanfon o fewn y cyfnod a bennir mewn hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu hailanfon (rheoliad 2(5)).
7. Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ynglŷn â'r Rheoliadau hyn
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: