Search Legislation

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2005

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 256 (Cy.22)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2005

Wedi'u gwneud

8 Chwefror 2005

Yn dod i rym

25 Chwefror 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2), ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o ran Cymru, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 25 Chwefror 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993(3).

Diwygio'r prif Reoliadau

3.—(1Diwygir paragraff 1 o Ran I o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau fel a ganlyn:

(2Yn y nodyn sy'n dwyn y teitl “Rateable Value”, yn lle “1st April 2000”, rhodder “1 April 2005” ac, yn lle “1st April 1998”, rhodder “1 April 2003”.

(3Yn lle'r nodyn sy'n dwyn y teitl “Backdating of proposals and appeals”, rhodder y canlynol—

Proposals and Appeals

  • There are important changes being made to the rules surrounding the making of proposals for appeals under the new rateable values for 1 April 2005.

  • Information about the circumstances in which a change in rateable value may be proposed and how such a proposal may be made is available from the local valuation office shown above. Further information about the new appeal arrangements may be obtained from name of billing authority, or from the National Assembly for Wales, Local Taxation Team, Cathays Park, Cardiff CF10 3NQ or the Valuation Office Agency, whose website is www.voa.gov.uk.

  • A leaflet is available giving detailed information on the revaluation and appeals arrangements. A copy is available on the National Assembly for Wales website at www.wales.gov.uk or alternatively a copy can be requested from the National Assembly for Wales, Local Taxation Team, Cathays Park, Cardiff CF10 3NQ..

(4Ar ôl y nodyn sy'n dwyn y teitl “Proposals and appeals”, mewnosoder y canlynol—

2005 Revaluation

  • Please note with effect from 1 April 2005 new rateable values will be used to calculate business rates. A draft rating list containing the Rateable Values of each business has been available for public inspection since September 2004. This can be viewed on the Valuation Office Agency website www.voa.gov.uk or by contacting your billing authority at insert billing authority address..

(5Yn y nodyn sy'n dwyn y teitl “Charitable and discretionary relief”, mewnosoder y canlynol ar ddiwedd y nodyn hwnnw—

  • In addition to this, and with effect from 1 April 2004, a mandatory rate relief of 80 percent will be granted to community amateur sport clubs, provided that clubs are defined and registered as such with the Inland Revenue. For more information you should contact insert Inland Revenue address, their website is http://www.inlandrevenue.gov.uk/..

(6Dileer y paragraff sy'n dwyn y teitl “Transitional arrangements”.

(7Dileer y paragraff sy'n dwyn y teitl “Small property relief”.

4.—(1Diwygir paragraff 1 o Ran II o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau fel a ganlyn:

(2Yn y nodyn sy'n dwyn y teitl “Gwerth Trethiannol”, yn lle “1 Ebrill 2000”, rhodder “1 Ebrill 2005” ac, yn lle “1 Ebrill 1998”, rhodder “1 Ebrill 2003”.

(3Yn lle'r nodyn sy'n dwyn y teitl “Ôl-ddyddio cynigion ac apelau”, rhodder y canlynol—

Cynigion ac Apelau

  • Gwneir newidiadau pwysig i'r rheolau ynghylch gwneud cynigion am apelau o dan y gwerthoedd ardrethol newydd ar gyfer 1 Ebrill 2005.

  • Mae gwybodaeth am yr amgylchiadau y gellir cynnig newid yn y gwerth ardrethol oddi tanynt, ac am sut y gellir gwneud cynnig o'r fath ar gael gan eich swyddfa brisio leol, a welir uchod. Gellir cael gwybodaeth bellach am y trefniadau apelio newydd oddi wrth enw'r awdurdod bilio neu oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, y Tîm Trethiant Lleol, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, neu Asiantaeth y Swyddfa Brisio; ei gwefan yw: www.voa.gov.uk.

  • Mae taflen ar gael sy'n rhoi gwybodaeth fanwl am y trefniadau ailbrisio ac apelio. Mae copïau ar gael oddi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn: http://www.cymru.gov.uk/ neu, fel arall, gellir mynnu copi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, y Tîm Trethiant Lleol, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ..

(4Ar ôl y nodyn sy'n dwyn y teitl “Cynigion ac apelau” mewnosoder y canlynol—

Ailbrisio yn 2005

  • Sylwer y defnyddir gwerthoedd ardrethol newydd i gyfrifo ardrethi busnes o 1 Ebrill 2005 ymlaen. Mae rhestr ardrethi ddrafft, sy'n cynnwys gwerthoedd ardrethol pob busnes, wedi bod ar gael i'r cyhoedd ei gweld ers mis Medi 2004. Gellir ei gweld ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, www.voa.gov.uk, neu drwy gysylltu â'ch awdurdod bilio yn [cyfeiriad yr awdurdod bilio]..

(5Ar ddiwedd y nodyn sy'n dwyn y teitl “Rhyddhad Elusennol a Dewisol”, mewnosoder y canlynol—

  • Yn ogystal â hynny, ac yn effeithiol o 1 Ebrill 2004 ymlaen, rhoddir rhyddhad ardrethi gorfodol o 80 y cant i glybiau chwaraeon amatur cymunedol, ar yr amod bod y clybiau hynny wedi'u diffinio ac wedi'u cofrestru felly gyda Chyllid y Wlad. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â [cyfeiriad Cyllid y Wlad], a'i wefan yw:

  • http://www.inlandrevenue.gov.uk/cymraeg/index.htm.

(6Dileer y paragraff sy'n dwyn y teitl “Trefniadau Trosiannol”.

(7Dileer y paragraff sy'n dwyn y teitl “Rhyddhad Rhag Trethi i Eiddo Bach”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Chwefror 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 (“y prif Reoliadau”) yn darparu ynghylch cynnwys hysbysiadau sy'n galw am dalu ardrethi ac a ddyroddir gan awdurdodau bilio yng Nghymru. Maent yn darparu hefyd ynghylch rhoi gwybodaeth esboniadol yn yr iaith briodol ar y cyd â'r hysbysiadau hynny.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r wybodaeth esboniadol y mae'n rhaid i awdurdodau bilio yng Nghymru ei rhoi fel ei bod:

  • yn cyfeirio at newidiadau i'r rheolau o ran gwneud cynigion neu apelau o dan y gwerthoedd ardrethol newydd;

  • yn esbonio y bydd gwerthoedd ardrethol newydd yn cael eu defnyddio i gyfrifo ardrethi busnes;

  • yn cyfeirio at gyflwyno'r rhyddhad ar ardrethi gorfodol i glybiau chwaraeon amatur cymunedol a gofrestrir gyda Chyllid y Wlad; ac

  • yn dileu gwybodaeth a ddisodlwyd am “Trefniadau Trosiannol” a “Rhyddhad Rhag Trethi i Eiddo Bach”.

(1)

1988 p.41. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(2)

1993 p.38. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources