- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
20.—(1) Rhaid i arolygydd, wrth ddangos dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos ei awdurdod, gael hawl ar bob adeg resymol, i fynd i unrhyw fangre (ac eithrio unrhyw fangre lle nad oes unrhyw geffyl yno ac a ddefnyddir fel annedd yn unig) at ddibenion gweinyddu a gorfodi'r Rheoliadau hyn; ac yn y rheoliad hwn mae “mangre” yn cynnwys unrhyw gerbyd neu gynhwysydd.
(2) Caiff arolygydd —
(a)gofyn am gael gweld pasbort;
(b)cyflawni unrhyw ymholiadau;
(c)cael gafael ar ac archwilio a chopïo unrhyw gofnod a gedwir (ym mha ffurf bynnag y cedwir hwy) o dan y Rheoliadau hyn;
(ch)symud y cyfryw gofnodion er mwyn gwneud copïau ohonynt;
(d)cael gafael ar, archwilio a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi'i ddefnyddio mewn cysylltiad â'r cofnodion; ac at y diben hwn caiff ofyn i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, i roi i'r arolygydd unrhyw gymorth y bydd yn rhesymol i'r arolygydd ofyn amdano ac, os cedwir cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ofyn i'r cofnodion gael eu cyflwyno ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno;
(dd)marcio unrhyw anifail neu beth arall at ddibenion eu hadnabod; ac
(e)mynd â'r personau canlynol gydag ef —
(i)y personau eraill y mae'r arolygydd hwnnw'n barnu eu bod yn angenrheidiol; a
(ii)unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd sydd â buddiant priodol mewn gweinyddu'r Rheoliadau hyn.
(3) Ni chaiff neb ddifwyno, difodi neu ddileu unrhyw farc a roddwyd o dan baragraff (2) ac eithrio o dan awdurdod ysgrifenedig arolygydd.
(4) Os bydd arolygydd yn mynd i unrhyw fangre nad yw wedi'i meddiannu, rhaid i'r arolygydd ei gadael wedi'i diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno gyntaf.
(5) Yn y rheoliad hwn ystyr “arolygydd” yw person a benodwyd at y diben gan awdurdod lleol neu'r Cynulliad Cenedlaethol i orfodi'r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: