Search Legislation

Rheoliadau Pasbortau Ceffylau (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, rhychwantu a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pasbortau Ceffylau (Cymru) 2005.

(2Mae'r Rheoliadau yn gymwys mewn perthynas â Chymru ac yn dod i rym ar 9 Chwefror 2005.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

ystyr “ceffyl” (“horse”) yw anifail o rywogaeth y ceffyl neu'r asyn neu groesfridau o'r rhywogaethau hynny, ond nid yw'n cynnwys sebras;

ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw person sydd wedi'i benodi gan y perchennog i fod â gofal y ceffyl o ddydd i ddydd;

mae i “corff sy'n dyroddi pasbortau” (“passport-issuing organisation”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 3;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys unrhyw drosglwyddo perchenogaeth;

ystyr “pasbort” (“passport”) yw—

(a)

dogfen adnabod i geffyl a ddyroddwyd gan gorff sy'n dyroddi pasbortau sy'n cynnwys yr holl wybodaeth sy'n ofynnol gan reoliad 8(2) neu 8(3); neu

(b)

yn achos dogfen adnabod o'r fath a ddyroddwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym ond nad yw'n cynnwys y tudalennau yn Adran IX o'r pasbort, y ddogfen honno gyda thudalennau Adran IX ynghlwm yn unol â rheoliad 9,

ac ystyr “tudalennau Adran IX” yw'r tudalennau hynny.

Cyrff a awdurdodwyd i ddyroddi pasbortau

3.—(1Mae'r cyrff canlynol (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel “cyrff sy'n dyroddi pasbortau”) wedi'u hawdurdodi i ddyroddi pasbortau —

(a)cyrff a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn i ddyroddi pasbortau;

(b)cyrff sy'n cynnal neu'n sefydlu llyfrau gre i gofrestru ceffylau ac a gydnabyddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 3 o Reoliadau Ceffylau (Safonau Sootechnegol) 1992(1) neu gan unrhyw awdurdod arall yn y Deyrnas Unedig â'r cymhwysedd i gydnabod cyrff o'r fath yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 90/427/EEC ar 26 Mehefin 1990 ar amodau sootechnegol sy'n llywodraethu masnach rhyng-Gymunedol mewn ceffyleg(2);

(c)cyrff a gydnabyddir mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig neu Aelod-wladwriaeth arall o dan ddeddfwriaeth sy'n gweithredu naill ai —

(i)Penderfyniad y Comisiwn 92/353/EEC (sy'n nodi'r meini prawf ar gyfer cymeradwyo neu gydnabod cyrff a chymdeithasau sy'n cynnal neu'n sefydlu llyfrau gre ar gyfer ceffylau cofrestredig(3)); neu

(ii)Penderfyniad y Comisiwn 2000/68/EC (sy'n diwygio Penderfyniad y Comisiwn 93/623/EEC a sefydlwyd ar gyfer adnabod ceffylau ar gyfer bridio a chynhyrchu (4)); ac

(ch)cymdeithasau neu gyrff rhyngwladol sy'n rheoli neu'n rheoleiddio ceffylau ar gyfer cystadlu neu rasio ac a gofrestrwyd gyda'r Cynulliad Cenedlaethol i ddyroddi pasbortau neu a gofrestrwyd o dan ddarpariaethau statudol cyfatebol sydd mewn grym yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol drwy hysbysiad ysgrifenedig dynnu awdurdodiad yn ôl o dan baragraff (1)(a) neu gofrestriad o dan baragraff (1)(ch) os yw wedi'i fodloni ar sail resymol nad yw cymdeithas neu gorff yn cydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliadau hyn.

(3Ni chaiff neb ddyroddi dogfen sy'n honni drwy dwyll ei bod yn basbort.

Pwerau a dyletswyddau cyrff sy'n dyroddi pasbortau

4.—(1Y corff sy'n dyroddi pasbortau yw'r “awdurdod cymwys” at ddibenion y pasbort.

(2Caiff corff sy'n dyroddi pasbortau ddileu pasbort a ddyroddwyd ganddo os yw wedi'i fodloni ar sail resymol —

(a)na chydymffurfiwyd â darpariaethau'r Rheoliadau hyn, neu

(b)na chafodd y pasbort ei gwblhau yn briodol neu a ffugiwyd mewn unrhyw fodd.

(3Pan dychwelir pasbort am fod y ceffyl wedi marw, rhaid i'r corff sy'n dyroddi pasbortau farcio'r pasbort yn unol â hynny ond caiff wedyn ei ddychwelyd i'r perchennog os yw ei reolau'n caniatáu hynny.

Cofnodion

5.—(1Rhaid i gorff sy'n dyroddi pasbortau gadw cofnodion —

(a)o'r wybodaeth a geir mewn ceisiadau am basbortau a thudalennau Adran IX;

(b)o unrhyw newid ym mherchenogaeth ceffyl; ac

(c)o farwolaeth ceffyl.

(2Rhaid iddo gadw'r cofnod hwn am dair blynedd ar ôl marwolaeth y ceffyl.

(3Rhaid i gorff sy'n dyroddi pasbortau roi gwybodaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol o'i gofnodion yn y ffurf a chyda'r mynychder y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad ysgrifenedig.

Gwneud cais am basbort

6.—(1Rhaid gwneud cais am basbort —

(a)gan berchennog y ceffyl;

(b)yn ysgrifenedig i gorff sy'n dyroddi pasbortau; ac

(c)yn y fformat a bennir gan y corff hwnnw.

(2Ni chaiff neb wneud cais am fwy nag un pasbort (heblaw am basbort yn lle un arall) ar gyfer ceffyl.

Terfynau amser ar gyfer cael pasbort

7.—(1Rhaid i berchennog ceffyl a anwyd ar neu cyn 30 Tachwedd 2004 nad oes ganddo basbort eisoes ar gyfer y ceffyl hwnnw wneud cais am basbort iddo cyn 14 Chwefror 2005, neu erbyn chwe mis ar ôl ei eni, p'un bynnag yw'r diweddaraf.

(2Rhaid i berchennog ceffyl a anwyd ar ôl 30 Tachwedd 2004 gael pasbort iddo ar neu cyn 31 Rhagfyr ym mlwyddyn ei eni, neu erbyn chwe mis ar ôl ei eni, p'un bynnag yw'r diweddaraf.

Dyroddi pasbort

8.—(1Pan ddaw cais i law'r corff sy'n dyroddi pasbortau, ar yr amod y cydymffurfir â'i ofynion, rhaid iddo ddyroddi pasbort wedi'i gwblhau'n briodol yn y fformat a nodir yn yr Atodlen.

(2Yn achos ceffyl sydd naill ai wedi'i gofrestru neu sy'n gymwys i'w gofnodi mewn llyfr gre corff cydnabyddedig yn unol ag Erthygl 2(c) o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/426/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu symud a mewnforio ceffylau o drydydd gwledydd(5), rhaid i'r pasbort gynnwys yr holl adrannau a bennir yn yr Atodlen.

(3Ym mhob achos arall rhaid i'r pasbort gynnwys o leiaf Adrannau I i IV a IX ond caiff gynnwys mwy o Adrannau neu'r holl Adrannau

Tudalennau Adran IX mewn pasbortau sydd eisoes ar gael

9.—(1Yn achos ceffyl a anwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym ac y mae ganddo eisoes ddogfen adnabod a ddyroddwyd gan gorff sy'n dyroddi pasbortau sy'n cynnwys yr holl wybodaeth sy'n ofynnol gan reoliad 8(2) neu 8(3) ac eithrio tudalennau Adran IX, caiff pasbort gynnwys y ddogfen adnabod honno ynghyd â'r tudalennau Adran IX a gafodd y perchennog oddi wrth gorff sy'n dyroddi pasbortau, ar yr amod bod y ceisydd —

(a)yn gwneud cais amdanynt cyn 14 Chwefror 2005, a

(b)yn eu rhwymo wrth y ddogfen adnabod.

(2Mae rheoliad 6 yn gymwys i gais am dudalennau Adran IX fel y mae'n gymwys i gais am basbort.

(3Rhaid i dudalennau Adran IX gynnwys yr un Rhif neu'r un cod alffaniwmerig ag sydd yn Adran II o'r ddogfen adnabod wreiddiol.

Adnabod

10.—(1Rhaid i'r corff sy'n dyroddi pasbortau pan fydd yn dyroddi pasbort ddynodi'r ceffyl â Rhif neu god alffaniwmerig nas defnyddiwyd cyn hynny gan y corff hwnnw.

(2Rhaid iddo gofnodi'r Rhif neu'r cod alffaniwmerig yn Adran II o'r pasbort.

Iaith pasbortau

11.—(1Rhaid i Adrannau I i VIII o'r pasbortau a ddyroddir yng Nghymru fod yn Saesneg a Ffrangeg.

(2Rhaid i Adran IX fod yn Saesneg.

(3Caiff pasbort neu unrhyw ran ohono hefyd fod mewn iaith ychwanegol.

Ceffylau sy'n dod i Gymru

12.—(1Rhaid i berchennog ceffyl (neu, yn achos perchennog sy'n byw y tu allan i Gymru, y ceidwad) y daethpwyd â'r ceffyl i mewn i Gymru heb basbort (neu gyda dogfen a fyddai'n basbort oni bai am y ffaith nad yw'n cynnwys tudalennau Adran IX) wneud cais am basbort neu am dudalennau Adran IX o fewn 30 diwrnod ar ôl dod â'r ceffyl i mewn i Gymru.

(2Rhaid i basbort neu dudalennau Adran IX a ddyroddwyd yn dilyn cais a wnaed o dan baragraff (1) ddatgan na fwriedir cigydda'r ceffyl er mwyn ei fwyta gan bobl.

(3Ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â cheffyl sy'n aros yng Nghymru am lai na 30 diwrnod.

Datganiad ynghylch cigydda ceffylau i'w bwyta gan bobl

13.—(1Rhaid i berchennog ceffyl neu gynrychiolydd y perchennog, pan ddaw pasbort neu dudalennau Adran IX i law, lofnodi'r datganiad yn Adran IX, Rhan II neu III—A, a fwriedir cigydda'r ceffyl i'w fwyta gan bobl neu beidio.

(2Pan werthir y ceffyl, rhaid i'r datganiad gael ei lofnodi gan bob perchennog dilynol neu gynrychiolydd y perchennog.

(3Os llofnodir y datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) na fwriedir cigydda'r ceffyl er mwyn ei fwyta gan bobl, yna ni ellir newid y datganiad hwnnw.

Gwaharddiadau

14.—(1Ni chaiff neb —

(a)difetha neu ddifwyno pasbort;

(b)newid unrhyw gofnod a wnaed yn Adran I o'r pasbort;

(c)newid unrhyw fanylion yn Adran II neu III o'r pasbort onis awdurdodwyd hynny'n ysgrifenedig gan gorff sy'n dyroddi pasbortau;

(ch)gwneud cofnod yn Adran IV o'r pasbort ac eithrio ei fod yn unol â rheolau a rheoliadau'r corff sy'n dyroddi pasbortau, ac ni chaiff neb newid unrhyw gofnod; neu

(d)newid unrhyw fanylion yn Adran V, VI, VII, VIII neu IX o'r pasbort; neu

(dd)newid datganiad yn Adran IX na fwriedir cigydda ceffyl er mwyn ei fwyta gan bobl (ond os yw'r datganiad yn dangos y bwriedir cigydda'r ceffyl er mwyn ei fwyta gan bobl, caiff perchennog rywbryd wedyn ddatgan na fwriedir cigydda'r ceffyl er mwyn ei fwyta gan bobl, ac yn yr achos hwnnw ni fwriedir cigydda'r ceffyl er mwyn ei fwyta gan bobl).

(2Ni chaiff neb fod â dogfen yn ei feddiant sydd drwy dwyll yn honni ei bod yn basbort.

(3Mewn achosion yn erbyn person am dramgwydd o fethu cydymffurfio â pharagraff (2) mae'n amddiffyniad i'r person hwnnw brofi nad oedd yn ymwybodol nad oedd y ddogfen yn basbort.

Rhoi pasbort o'r newydd yn lle un a gollwyd neu a ddifrodwyd

15.—(1Os cafodd pasbort ei golli neu ei ddifrodi rhaid i berchennog y ceffyl, o fewn 30 diwrnod o ddarganfod y golled neu'r difrod, wneud cais am basbort o'r newydd ar gyfer y ceffyl hwnnw —

(a)os yw'r corff a ddyroddodd y pasbortau yn wreiddiol yn hysbys i'r perchennog, i'r corff hwnnw; neu

(b)os nad yw'r corff a ddyroddodd y pasbortau yn wreiddiol yn hysbys, i unrhyw gorff sy'n dyroddi pasbortau.

(2Rhaid i'r corff sy'n dyroddi pasbortau y gwneir cais iddo yn unol â pharagraff (1) ddyroddi pasbort o'r newydd wedi'i farcio â'r gair “Duplicate”.

(3Os yw'r holl wybodaeth wreiddiol yn Adran IX yn ddarllenadwy rhaid i'r pasbort o'r newydd ailadrodd yr wybodaeth honno.

(4Os yw unrhyw wybodaeth yn Adran IX yn annarllenadwy rhaid i'r corff sy'n dyroddi pasbortau ddangos yn y pasbort o'r newydd na fwriedir cigydda'r ceffyl i'w fwyta gan bobl drwy gwblhau Rhan II o'r Adran honno.

Cyfyngiadau ar y defnydd o geffylau heb basbortau

16.  Os dylid bod wedi dyroddi pasbort ar gyfer ceffyl, ar ôl 28 Chwefror 2005 ni chaiff neb —

(a)defnyddio'r ceffyl at ddibenion cystadlu neu fridio;

(b)symud y ceffyl allan o'r Deyrnas Unedig; neu

(c)symud y ceffyl i fangre ceidwad newydd,

oni bai fod pasbort gyda'r ceffyl.

Gofynion gan bersonau sy'n rhoi cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol

17.—(1Os yw cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol i gael ei roi i geffyl, rhaid i'r person y mae pasbort y ceffyl yn ei feddiant drefnu ei fod ar gael i'r llawfeddyg milfeddygol neu berson arall sy'n rhoi'r cynnyrch.

(2Rhaid i'r llawfeddyg milfeddygol neu berson arall sy'n rhoi'r cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol —

(a)ei fodloni ei hun mai'r ceffyl a ddisgrifir yn y pasbort yw'r ceffyl;

(b)os yw'r pasbort yn cynnwys Adrannau V a VI, gofnodi yn yr adran briodol unrhyw frechlyn a roddir, ac os yw'n cynnwys Adran VII, gofnodi canlyniadau o unrhyw brofion iechyd labordy a wnaed ar gyfer clefyd trosglwyddadwy; ac

(c)os yw'r pasbort yn dangos y bwriedir cigydda'r ceffyl er mwyn ei fwyta gan bobl, gwblhau Rhan III—B o Adran IX o'r pasbort os yw'r cynnyrch a roir yn cynnwys sylwedd nas ceir yn Atodiadau I, II, III neu IV o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2377/90 (6) i'w roi i geffylau.

(3Mewn achos ceffyl na chafwyd pasbort hyd yn hyn mewn perthynas ag ef neu nad yw ar gael am unrhyw reswm, neu os nad yw'r llawfeddyg milfeddygol mewn perthynas ag ef neu berson arall sy'n rhoi'r cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol wedi'i fodloni mai'r ceffyl yw'r un a ddisgrifir yn y pasbort, rhaid i'r llawfeddyg milfeddygol neu'r person arall sy'n rhoi'r cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol roi i'r ceidwad —

(a)cofnod ysgrifenedig o'r driniaeth o unrhyw gynnyrch sy'n cynnwys sylwedd nas ceir yn Atodiadau I, II, III neu IV i Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2377/90 i'w roi i geffylau, a hysbysiad ysgrifenedig fod yn rhaid ei gofnodi yn y pasbort; a

(b)os yw'r cynnyrch a roir yn cynnwys sylwedd a bennir yn Atodiad IV i Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2377/90 wedi cael ei roi, lofnodi'r datganiad yn y pasbort na fwriedir cigydda'r ceffyl er mwyn ei fwyta gan bobl.

(4Rhaid i'r ceidwad gofnodi unrhyw wybodaeth a gafwyd o dan baragraff (3) yn y pasbort pan ddaw'r pasbort i law'r ceidwad.

Dyletswyddau perchenogion

18.—(1Ar ôl 28 Chwefror 2005 ymlaen ni chaiff neb werthu ceffyl heb basbort.

(2Pan werthir ceffyl, rhaid i'r gwerthwr roi'r pasbortau i'r prynwr neu, mewn arwerthiannau, rhaid i'r arwerthwr roi'r pasbort i'r prynwr.

(3Rhaid i'r perchennog newydd neu gynrychiolydd y perchennog, o fewn 30 diwrnod o'r prynu anfon at y corff sy'n dyroddi pasbortau a ddyroddodd y pasbort —

(a)enw a chyfeiriad y perchennog newydd; a

(b)enw a Rhif adnabod neu god alffaniwmerig adnabod y ceffyl yn ôl y cofnod yn Adran II o'r pasbort,

(c)a rhaid iddo gwblhau Adran I o'r pasbort yn unol â rheolau'r corff sy'n dyroddi pasbortau.

(4Rhaid i berson sydd â phasbort yn ei feddiant ei ddangos ar archiad rhesymol i'r corff sy'n dyroddi pasbortau a'i dyroddodd, ac ar archiad rhesymol rhaid iddo ei roi i'r corff hwnnw.

(5Rhaid i berchennog ceffyl sy'n marw neu sy'n cael ei gigydda anfon y pasbort i'r awdurdod sy'n dyroddi pasbortau o fewn 30 diwrnod ar ôl iddo farw.

Cigydda ceffyl er mwyn ei fwyta gan bobl

19.  Ar ôl 28 Chwefror 2005 ni chaiff neb gigydda ceffyl i'w fwyta gan bobl neu ei draddodi ar gyfer cigydda o'r fath onid yw ei basbort gydag ef a bod y datganiad yn Adran IX yn dangos y bwriedir cigydda'r anifail i'w fwyta gan bobl.

Pwerau mynediad

20.—(1Rhaid i arolygydd, wrth ddangos dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos ei awdurdod, gael hawl ar bob adeg resymol, i fynd i unrhyw fangre (ac eithrio unrhyw fangre lle nad oes unrhyw geffyl yno ac a ddefnyddir fel annedd yn unig) at ddibenion gweinyddu a gorfodi'r Rheoliadau hyn; ac yn y rheoliad hwn mae “mangre” yn cynnwys unrhyw gerbyd neu gynhwysydd.

(2Caiff arolygydd —

(a)gofyn am gael gweld pasbort;

(b)cyflawni unrhyw ymholiadau;

(c)cael gafael ar ac archwilio a chopïo unrhyw gofnod a gedwir (ym mha ffurf bynnag y cedwir hwy) o dan y Rheoliadau hyn;

(ch)symud y cyfryw gofnodion er mwyn gwneud copïau ohonynt;

(d)cael gafael ar, archwilio a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi'i ddefnyddio mewn cysylltiad â'r cofnodion; ac at y diben hwn caiff ofyn i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, i roi i'r arolygydd unrhyw gymorth y bydd yn rhesymol i'r arolygydd ofyn amdano ac, os cedwir cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ofyn i'r cofnodion gael eu cyflwyno ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno;

(dd)marcio unrhyw anifail neu beth arall at ddibenion eu hadnabod; ac

(e)mynd â'r personau canlynol gydag ef —

(i)y personau eraill y mae'r arolygydd hwnnw'n barnu eu bod yn angenrheidiol; a

(ii)unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd sydd â buddiant priodol mewn gweinyddu'r Rheoliadau hyn.

(3Ni chaiff neb ddifwyno, difodi neu ddileu unrhyw farc a roddwyd o dan baragraff (2) ac eithrio o dan awdurdod ysgrifenedig arolygydd.

(4Os bydd arolygydd yn mynd i unrhyw fangre nad yw wedi'i meddiannu, rhaid i'r arolygydd ei gadael wedi'i diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno gyntaf.

(5Yn y rheoliad hwn ystyr “arolygydd” yw person a benodwyd at y diben gan awdurdod lleol neu'r Cynulliad Cenedlaethol i orfodi'r Rheoliadau hyn.

Rhwystro

21.  Ni chaiff neb —

(a)rhwystro'n fwriadol unrhyw berson sydd, wrth ei waith, yn gweithredu'r Rheoliadau hyn;

(b)heb achos rhesymol, fethu â rhoi i unrhyw berson sydd, wrth ei waith, yn gweithredu'r Rheoliadau hyn, unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'r person hwnnw yn rhesymol ofyn amdano neu amdani er mwyn i'r person hwnnw gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn;

(c)rhoi i unrhyw berson sydd, wrth ei waith, yn gweithredu'r Rheoliadau hyn, unrhyw wybodaeth y mae'r person hwnnw sy'n rhoi'r wybodaeth yn gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol; neu

(ch)methu â dangos cofnod, pan ofynnir iddo wneud hynny, i unrhyw berson sydd, wrth ei waith, yn gweithredu'r Rheoliadau hyn.

Tramgwyddau

22.—(1Tramgwydd yw i unrhyw berson neu gorff fethu â chydymffurfio â'r canlynol —

(a)rheoliad 3(3) (dyroddi dogfen sy'n honni ei bod yn basbort);

(b)rheoliad 6(2) (gwneud cais am fwy nag un pasbort ar gyfer ceffyl);

(c)rheoliad 7 (terfynau amser ar gyfer cael pasbort);

(ch)rheoliad 12(1) (dod â cheffyl i Gymru);

(d)rheoliad 13(1), 13(2) neu 13(3) (llofnodi'r datganiad ynghylch cigydda ceffyl i'w fwyta gan bobl);

(dd)rheoliad 14(1) (addasu pasbort) neu 14(2) (bod â meddiant dogfen yr honnir ei bod yn basbort);

(e)rheoliad 15(1) (gwneud cais am basport yn lle un arall);

(f)rheoliad 16 (cyfyngiadau ar y defnydd o geffyl heb basbort);

(ff)rheoliad 17 (rhoi cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol);

(g)rheoliad 18 (dyletswyddau perchenogion);

(ng)rheoliad 19 (cigydda ceffyl i'w fwyta gan bobl);

(h)rheoliad 21 (rhwystro).

(2Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran —

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn cymryd arno ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,

bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(3At ddibenion paragraff (2), ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

(4Os bydd corff nad yw'n gorff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a phrofir bod y tramgwydd hwnnw wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw swyddog o'r corff hwnnw, bydd y swyddog hwnnw yn ogystal â'r corff yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

Cosbau

23.—(1Bydd person sy'n euog o dramgwydd o fethu cydymffurfio â rheoliad 3(3) (dyroddi dogfen sy'n honni ei bod yn basbort), rheoliad 17(2)(c) neu 17(4) (cwblhau pasbort ar ôl rhoi cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol) neu reoliad 19 (cigydda ceffyl i'w fwyta gan bobl) yn atebol —

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis, neu'r ddau; neu

(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu'r ddau.

(2Bydd person sy'n euog o unrhyw dramgwydd arall o dan y Rheoliadau hyn yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Gorfodi

24.—(1Yr awdurdod lleol fydd yn gorfodi'r Rheoliadau hyn.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, fod dyletswydd i orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn i'w chyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan yr awdurdod lleol.

Dirymu

25.  Dirymir Gorchymyn Pasbortau Ceffylau 1997(7) a Gorchymyn Pasbortau Ceffylau (Diwygio) 1998(8) i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Chwefror 2005

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources