2005 Rhif 1860 (Cy.152)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Ffioedd mewn Sefydliadau Addysg Uwch (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau yn adran 26(4) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19981, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd mewn Sefydliadau Addysg Uwch (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 8 Gorffennaf 2005.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn —

  • mae i “cwrs rhyngosod” yr ystyr a roddir i “sandwich course” yn y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

  • ystyr “y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr” (“the Student Support Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 20052 fel y'u diwygir o dro i dro, ac unrhyw reoliadau o dan adran 22 o'r Ddeddf sy'n disodli'r rheoliadau hynny gydag addasiadau neu hebddynt.

Dosbarth rhagnodedig o bersonau3

Y dosbarth o bersonau a ragnodir at ddibenion adran 26(4) o'r Ddeddf yw'r dosbarth o'r personau hynny a bennir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr onid ydynt —

a

yn bersonau nad ydynt yn gymwys ar gyfer cymorth o dan y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr oherwydd rheoliad 4(3) o'r rheoliadau hynny;

b

yn bersonau nad ydynt yn gymwys ar gyfer grant ar gyfer ffioedd o dan y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr oherwydd rheoliad 11(3) o'r rheoliadau hynny; ac

c

yn bersonau nad ydynt, cyn neu yn ystod y flwyddyn academaidd o dan sylw, yn gwneud cais am gymorth yn unol â rheoliadau 8 a 9 o'r Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr mewn cysylltiad â mynychu cwrs sy'n cynnwys y flwyddyn academaidd honno.

Disgrifiad rhagnodedig o gyrsiau4

1

Y disgrifiad o gyrsiau a ragnodir at ddibenion adran 26(4) o Ddeddf 1998 yw cyrsiau sy'n gyrsiau dynodedig o fewn ystyr y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr ac a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru.

2

At ddibenion paragraff (1) dehonglir cyfeiriad at sefydliad yng Nghymru yn unol ag adran 62(7) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 19923.

Swm rhagnodedig5

1

O ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006, y swm rhagnodedig at ddibenion adran 26(4) yw

a

yn achos cwrs neu flwyddyn academaidd nad ymdrinnir â hwy gan unrhyw is-baragraff arall o'r paragraff hwn, £1200;

b

am flwyddyn olaf cwrs y gofynnir ei gwblhau fel arfer ar ôl ei fynychu am lai na 15 wythnos, £600;

c

am flwyddyn academaidd cwrs rhyngosod pan fydd cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos, £600;

ch

am flwyddyn academaidd cwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon, gan gynnwys cwrs o'r fath sy'n arwain at radd gyntaf, pan fydd cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos, £600;

d

am flwyddyn academaidd cwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor pan fydd cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser mewn sefydliad yng Ngymru yn llai na 10 wythnos, £600; ac

dd

yn achos cwrs rhyngosod neu gwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor pan fydd cyfnodau astudio llawnamser mewn sefydliad yng Nghymru yn 10 wythnos neu fwy ond, o ran y flwyddyn academaidd ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol o'r fath, pan fydd cyfanswm unrhyw un cyfnod o bresenoldeb neu ddau nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos, £600.

Dirymu6

Dirymir Rheoliadau Addysg (Ffioedd Sefydliadau Addysg Uwch) 19994 o ran Cymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi symiau'r ffi y gellir eu codi am gyrsiau mewn sefydliadau addysg uwch pan fydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn gosod amod ar gyllido sefydliadau o'r fath yn unol ag adran 26(4) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998. Maent hefyd yn rhagnodi'r dosbarth o bersonau a'r disgrifiad o'r cyrsiau y mae amod o dan adran 26(4) o Ddeddf 1998 yn gymwys iddynt.