xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 5
1. Mae Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) 1991(1) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
2. Yn rheoliad 2(2)(a) yn lle “European Waste Catalogue” rhodder “List of Waste (Wales) Regulations 2005”.
3. Mae Rheoliadau Tirlenwi (Cymru a Lloegr) 2002(2) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
4. Ym mharagraff 5(1)(f) o Atodlen 1, yn lle “European Waste Catalogue” rhodder “List of Waste (Wales) Regulations 2005”.
5. Mae Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004(3) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
6. Yn rheoliad 2(1), mae'r diffiniad o “Catalog Gwastraff Ewropeaidd” yn cael ei hepgor.
7. Yn rheoliad 6(2)(b) yn lle “y Catalog Gwastraff Ewropeaidd” rhodder “Rheoliadau'r Rhestr Gwastraffoedd (Cymru) 2005”.
8. Yn rheoliad 7(1)(b) yn lle “y Catalog Gwastraff Ewropeaidd” rhodder “Rheoliadau'r Rhestr Gwastraffoedd (Cymru) 2005”.
O.S. 1991/2839; mae'r diwygiadau perthnasol yn O.S. 2002/1559.
O.S. 2002/1959; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1375.