xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1820 (Cy.148)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

5 Gorffennaf 2005

Yn dod i rym

16 Gorffennaf 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran mesurau sy'n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd sy'n cael ei achosi gan wastraff, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 16 Gorffennaf 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

(a)ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff” (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC(3) ar wastraff fel y'i diwygiwyd gan—

(i)Cyfarwyddebau'r Cyngor 91/156/EEC(4) a 91/692/EEC(5);

(ii)Penderfyniad y Comisiwn 96/350/EC(6); a

(iii)Rheoliad (EC) Rhif 1882/2003(7);

(b)ystyr “Cyfarwyddeb 67/548/EEC” (“Directive 67/548/EEC”) (y Gyfarwyddeb Sylweddau Peryglus, y cyfeirir ati yn y Cyflwyniad i'r Rhestr) yw Cyfarwyddeb 67/548/EEC(8) ar gyd-ddynesiad y cyfreithiau, y rheoliadau a'r darpariaethau gweinyddol o ran dosbarthu, pecynnu a labelu sylweddau peryglus fel y'i diwygiwyd diwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/73/EC(9); ac

(c)ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus” (“the Hazardous Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 91/689/EEC(10) 31 Rhagfyr 1991 ar wastraff peryglus, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 94/31/EC(11), ac mae cyfeiriad at—

(i)atodiad o'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus yn gyfeiriad at yr atodiad hwnnw fel y'i nodir am y tro yn yr atodlen berthnasol i'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus; a

(ii)nodweddion peryglus yn gyfeiriad at y nodweddion a nodir yn Atodiad III.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “Penderfyniad y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2000/532/EC(12) 3 Mai 2000 sy'n disodli Penderfyniad 94/3/EC(13) sy'n sefydlu rhestr wastraffoedd yn unol ag Erthygl 1(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff a Phenderfyniad y Cyngor 94/904/EC(14) sy'n sefydlu rhestr o wastraff peryglus yn unol ag Erthygl 1(4) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/689/EEC ar wastraff peryglus, fel y'i diwygiwyd gan—

(i)Penderfyniad y Comisiwn 2001/118/EC(15);

(ii)Penderfyniad y Comisiwn 2001/119/EC(16); a

(iii)Penderfyniad y Cyngor 2001/573/EC(17));

(b)ystyr “y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes”) yw'r rhestr wastraffoedd sydd yn yr Atodiad i Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd, sef rhestr a lunnir—

(i)o ran gwastraffoedd sy'n perthyn i'r categorïau a restrir yn Atodiad I (Categorïau o Wastraff) o Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff, gan y Comisiwn, ac yntau'n gweithredu'n unol â'r weithdrefn a osodwyd yn Erthygl 18 o'r Gyfarwyddeb honno;

(ii)o ran gwastraff peryglus, yn unol â'r weithdrefn a osodwyd yn Erthygl 18 o Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff ar sail—

(aa)Atodiad I (Categorïau neu fathau generig o wastraff peryglus a restrir yn unol â'u natur neu'r gweithgaredd a'u cynhyrchodd) i'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus; a

(bb)Atodiad II (Cyfansoddion gwastraffoedd yn Atodiad 1.B. sy'n eu gwneud yn beryglus pan fydd iddynt y nodweddion a ddisgrifir yn Atodiad III) i Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus,

ac mae cyfeiriad at y Rhestr Wastraffoedd yn cynnwys cyfeiriad at y Cyflwyniad iddi (“y Cyflwyniad i'r Rhestr”).

(3Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “y Rheoliadau Gwastraff Peryglus” (“the Hazardous Waste Regulations”) yw Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(18);

(b)mae i “gwastraff peryglus” (“hazardous waste”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 6 o'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus;

(c)mae i “gwastraff” (“waste”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 2(1)(b) o'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus; ac

(ch)ystyr “sylwedd peryglus” (“dangerous substance”), er gwaethaf paragraff 5 o'r Cyflwyniad i'r Rhestr, yw sylwedd sydd am y tro yn sylwedd peryglus o fewn yr ystyr a roddir i “dangerous substance” yn rheoliad 2 o Reoliadau Cemegion (Gwybodaeth am Beryglon a Phecynnu ar gyfer Cyflenwi) 2002(19).

Effaith y Rhestr Wastraffoedd

3.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 2(3)(ch) ac yn sgil darpariaethau'r rheoliad hwn, mae'r Rhestr Wastraffoedd yn effeithiol at ddibenion sy'n gysylltiedig â rheoleiddio gwastraff a gwastraff peryglus, ac yn benodol at ddibenion —

(a)penderfynu a yw deunydd neu sylwedd yn wastraff neu'n wastraff peryglus, yn ôl y digwydd;

(b)dosbarthu a chodio gwastraffoedd a gwastraff peryglus,

ac yn unol â hynny y mae'r Rhestr Wastraffoedd a'r codau a'r penawdau penodau i'w cydnabod a'u defnyddio at y dibenion hynny.

(2Nid yw paragraff (1) yn lleihau effaith rheoliadau a wneir o dan adran 62A(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(20) neu unrhyw benderfyniad o dan reoliadau 8 neu 9 o'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus.

(3Yn ddarostyngedig i reoliad 2(3)(c), mae'r nodiadau yn y Cyflwyniad i'r Rhestr yn effeithiol at ddibenion—

(a)dehongli'r Rhestr Wastraffoedd;

(b)penderfynu a yw deunydd neu sylwedd yn wastraff neu'n wastraff peryglus, yn ôl y digwydd; ac

(c)adnabod gwastraff neu wastraff peryglus, yn ôl y digwydd.

(4Diffinnir yn llawn y gwahanol fathau o wastraff yn y Rhestr Wastraffoedd gan y cod chwe digid ar gyfer y gwastraff a chan benawdau pennod dau ddigid a phedwar digid yn eu trefn, ac yn unol â hynny, at ddibenion sy'n gysylltiedig â rheoli gwastraff neu wastraff peryglus—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at wastraff drwy ei god chwe digid fel a bennir yn y Rhestr Wastraffoedd i'w drin fel cyfeiriad at y gwastraff hwnnw; a

(b)mae cyfeiriad at wastraffoedd gan bennawd pennod dau ddigid neu pedwar digid yn gyfeiriad at y deunyddiau gwastraff a restrir yn y Rhestr Wastraffoedd o dan bennawd y bennod honno.

(5Pan fo unrhyw ddarpariaeth (sut bynnag y caiff ei mynegi) o ddeddfiad yn gosod gofyniad bod cod chwe digid i'w roi, neu pan fo'n awdurdodi cyflawni unrhyw weithred neu'n awdurdodi hepgor unrhyw ofyniad ar yr amod y rhoddir y cod chwe digid, bernir na chydymffurfiwyd â'r gofyniad hwnnw neu â'r amod hwnnw onid y cod a roddir yw'r cod ar gyfer y gwastraff, neu wastraff peryglus, yn ôl y digwydd, yn y Rhestr Wastraffoedd.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (7), bernir bod gwastraff a farciwyd â seren yn y Rhestr Wastraffoedd wedi ei restru yn y Rhestr Wastraffoedd fel gwastraff peryglus at ddibenion rheoliad 6(a) o'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus.

(7Pan fo gwastraff a farciwyd â seren yn y Rhestr Wastraffoedd yn un neu ragor o sylweddau peryglus neu'n cynnwys un neu ragor o sylweddau peryglus, bernir ei fod yn wastraff peryglus—

(a)oni bo'r disgrifiad yn y Rhestr Wastraffoedd yn cyfeirio at sylwedd peryglus, ni waeth beth fo gwir grynodiad unrhyw sylwedd peryglus a fo'n bresennol neu beth fo nodweddion y gwastraff neu'r sylwedd hwnnw;

(b)os adnabyddir gwastraff yn beryglus gan gyfeiriad penodol neu gyffredinol (sut bynnag y caiff ei fynegi) yn sylweddau peryglus, os yw crynodiadau'r sylweddau hynny o'r fath (hynny yw, canran yn ôl pwysau) fel bod y gwastraff-—

(i)yn dangos un neu ragor o nodweddion peryglus; a

(ii)yn achos unrhyw un o'r nodweddion peryglus H3 i H8, H10 neu H11, yn bodloni gofynion rheoliad 4.

Nodweddion a phriodoleddau sylweddau peryglus a ddosbarthwyd yn wastraff peryglus

4.  Mae gwastraff yn bodloni gofynion y rheoliad hwn o ran unrhyw un o'r priodoloeddau H3 i H8, H10(21) ac H11 o Atodiad III, pan fo'n arddangos un neu ragor o'r priodoleddau canlynol—

(a)fflachbwynt ≤ 55 °C,

(b)un neu ragor o sylweddau a ddosbarthwyd(22) yn wenwynig iawn mewn cyfanswm crynodiad ≥ 0,1 %,

(c)un neu ragor o sylweddau a ddosbarthwyd yn wenwynig mewn cyfanswm crynodiad ≥ 3 %,

(ch)un neu ragor o sylweddau a ddosbarthwyd yn niweidiol mewn cyfanswm crynodiad ≥ 25 %,

(d)un neu ragor o sylweddau cyrydol a ddosbarthwyd yn R35 mewn cyfanswm crynodiad ≥ 1 %,

(dd)un neu ragor o sylweddau cyrydol a ddosbarthwyd yn R34 mewn cyfanswm crynodiad ≥ 5 %,

(e)un neu ragor o sylweddau llidiol a ddosbarthwyd yn R41 mewn cyfanswm crynodiad ≥ 10 %,

(f)un neu ragor o sylweddau llidiol a ddosbarthwyd yn R36, R37, R38 mewn cyfanswm crynodiad ≥ 20 %,

(ff)un sylwedd y gwyddys ei fod yn garsinogenig o gategori 1 neu 2 mewn crynodiad ≥ 0,1 %,

(g)un sylwedd y gwyddys ei fod yn garsinogenig o gategori 3 mewn crynodiad ≥ 1 %

(ng)un sylwedd gwenwynig ar gyfer atgynhyrchu categori 1 neu 2 a ddosbarthwyd yn R60, R61 mewn crynodiad ≥ 0,5 %,

(h)un sylwedd gwenwynig ar gyfer atgynhyrchu categori 3 a ddosbarthwyd yn R62, R63 mewn crynodiad ≥ 5 %,

(i)un sylwedd mwtagenig o gategori 1 neu 2 a ddosbarthwyd yn R46 mewn crynodiad ≥ 0,1 %,

(j)un sylwedd mwtagenig o gategori 3 a ddosbarthwyd yn R68 mewn crynodiad ≥ 1 %.

Diwygiadau canlyniadol

5.  Mae Atodlen 2 (sy'n gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth) yn effeithiol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(23)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol.

5 Gorffennaf 2005

Rheoliad 2(2)(b)

ATODLEN 1THE LIST OF WASTES — THE ANNEX TO THE LIST OF WASTES DECISION

ANNEXList of wastes pursuant to Article 1(a) of Directive 75/442/EEC on waste and Article 1(4) of Directive 91/689/EEC on hazardous waste

Introduction

1.  The present list is a harmonised list of wastes. It will be periodically reviewed on the basis of new knowledge and, in particular, of research results, and if necessary revised in accordance with Article 18 of Directive 75/442/EEC. However, the inclusion of a material in the list does not mean that the material is a waste in all circumstances. Materials are considered to be waste only where the definition of waste in Article 1(a) of Directive 75/442/EEC is met.

2.  Wastes included in the list are subject to the provisions of Directive 75/442/EEC except where Article 2(1)(b) of this Directive applies.

3.  The different types of wastes in the list are fully defined by the six-digit code for the waste and the respective two-digit and four-digit chapter headings. This implies that the following steps should be taken to identify a waste in the list.

(3.1) Identify the source generating the waste in chapters 01 to 12 or 17 to 20 and identify the appropriate six-digit code of the waste (excluding codes ending with 99 of these chapters). A specific production unit may need to classify its activities in several chapters. For instance, a car manufacturer may find its wastes listed in chapters 12 (wastes from shaping and surface treatment of metals), 11 (inorganic wastes containing metals from metal treatment and the coating of metals) and 08 (wastes from the use of coatings), depending on the different process steps.

Note: separately collected packaging waste (including mixtures of different packaging materials) shall be classified in 15 01, not in 20 01.

(3.2) If no appropriate waste code can be found in chapters 01 to 12 or 17 to 20, the chapters 13, 14 and 15 must be examined to identify the waste.

(3.3) If none of these waste codes apply, the waste must be identified according to chapter 16.

(3.4) If the waste is not in chapter 16 either, the 99 code (wastes not otherwise specified) must be used in the section of the list corresponding to the activity identified in step one.

4.  Any waste marked with an asterisk (*) is considered as a hazardous waste pursuant to Directive 91/689/EEC on hazardous waste, and subject to the provisions of that Directive unless Article 1(5) of that Directive applies.

5.  For the purpose of this Decision, 'dangerous substance' means any substance that has been or will be classified as dangerous in Directive 67/548/EEC and its subsequent amendments; 'heavy metal' means any compound of antimony, arsenic, cadmium, chromium(VI), copper, lead, mercury, nickel, selenium, tellurium, thallium and tin, as well as these materials in metallic form, as far as these are classified as dangerous substances.

6.  If a waste is identified as hazardous by a specific or general reference to dangerous substances, the waste is hazardous only if the concentrations of those substances are such (i.e. percentage by weight) that the waste presents one or more of the properties listed in Annex III to Council Directive 91/689/EEC. As regards H3 to H8, H10 and H11, Article 2 of this Decision shall apply. For the characteristics H1, H2, H9 and H12 to H14 Article 2 of the present Decision does not provide specifications at present.

7.  In line with Directive 1999/45/EC (OJ No. L200, 30.7.1999, p.1), which states in its preamble that the case of alloys has been considered to need further assessment because the characteristics of alloys are such that it may not be possible accurately to determine their properties using currently available conventional methods, the provisions of Article 2 would not apply to pure metal alloys (not contaminated by dangerous substances). This will be so pending further work that the Commission and Member States have taken the commitment to undertake on the specific approach of the classification of alloys. The waste materials which are specifically enumerated in this list, shall remain classified as at present.

8.  The following rules for numbering of the items in the list have been used: For those wastes that were not changed, the code numbers from Commission Decision 94/3/EC have been used. The codes for wastes that were changed have been deleted and remain unused in order to avoid confusion after implementation of the new list. Wastes added have been given a code that has not been used in Commission Decision 94/3/EC and Commission Decision 2000/532/EC.

INDEX

Chapters of the list

01Wastes resulting from exploration, mining, quarrying, physical and chemical treatment of minerals
02Wastes from agriculture, horticulture, aquaculture, forestry, hunting and fishing, food preparation and processing
03Wastes from wood processing and the production of panels and furniture, pulp, paper and cardboard
04Wastes from the leather, fur and textile industries
05Wastes from petroleum refining, natural gas purification and pyrolytic treatment of coal
06Wastes from inorganic chemical processes
07Wastes from organic chemical processes
08Wastes from the manufacture, formulation, supply and use (MFSU) of coatings (paints, varnishes and vitreous enamels), adhesives, sealants and printing inks
09Wastes from the photographic industry
10Wastes from thermal processes
11Wastes from chemical surface treatment and coating of metals and other materials; non-ferrous hydro-metallurgy
12Wastes from shaping and physical and mechanical surface treatment of metals and plastics
13Oil wastes and wastes of liquid fuels (except edible oils, 05 and 12)
14Waste organic solvents, refrigerants and propellants (except 07 and 08)
15Waste packaging; absorbents, wiping cloths, filter materials and protective clothing not otherwise specified
16Wastes not otherwise specified in the list
17Construction and demolition wastes (including excavated soil from contaminated sites)
18Wastes from human or animal health care and/or related research (except kitchen and restaurant wastes not arising from immediate health care)
19Wastes from waste management facilities, off-site waste water treatment plants and the preparation of water intended for human consumption and water for industrial use
20Municipal wastes (household waste and similar commercial, industrial and institutional wastes) including separately collected fractions

Rheoliad 5

ATODLEN 2

Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) 1991

1.  Mae Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) 1991(24) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

2.  Yn rheoliad 2(2)(a) yn lle “European Waste Catalogue” rhodder “List of Waste (Wales) Regulations 2005”.

Rheoliadau Tirlenwi (Cymru a Lloegr) 2002

3.  Mae Rheoliadau Tirlenwi (Cymru a Lloegr) 2002(25) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

4.  Ym mharagraff 5(1)(f) o Atodlen 1, yn lle “European Waste Catalogue” rhodder “List of Waste (Wales) Regulations 2005”.

Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004

5.  Mae Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004(26) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

6.  Yn rheoliad 2(1), mae'r diffiniad o “Catalog Gwastraff Ewropeaidd” yn cael ei hepgor.

7.  Yn rheoliad 6(2)(b) yn lle “y Catalog Gwastraff Ewropeaidd” rhodder “Rheoliadau'r Rhestr Gwastraffoedd (Cymru) 2005”.

8.  Yn rheoliad 7(1)(b) yn lle “y Catalog Gwastraff Ewropeaidd” rhodder “Rheoliadau'r Rhestr Gwastraffoedd (Cymru) 2005”.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu (ac eithrio Erthygl 3) yng Nghymru Benderfyniad y Comisiwn 2000/532/EC (“Penderfyniad y Rhestr Wastraffoedd”, fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniadau 2001/118/EC, 2001/119/EC a 2001/573/EC) a fabwysiadodd y Rhestr Wastraffoedd. Mae testun wedi'i gydgrynhoi o'r penderfyniad ar gael yn:

Mae Erthygl 1(a) o'r Gyfarwyddeb Gwastraff (75/442/EEC), y mae testun wedi'i gydgrynhoi ohoni ar gael yn:

ac indent cyntaf Erthygl 1(4) o Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus (91/689/EEC), y mae testun wedi'i gydgrynhoi ohoni ar gael yn :

yn ei gwneud yn ofynnol i lunio rhestr wastraffoedd yn unol â'r weithdrefn yn Erthygl 18 o'r Gyfarwyddeb Gwastraff. Y rhestrau ym Mhenderfyniadau 94/3/EC a 94/904 a fabwysiadwyd yn unol ag Erthygl 1(a) o'r Gyfarwyddeb Gwastraff ac Erthygl 1(4) o Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus oedd y Catalog Gwastraff Ewropeaidd; ni throswyd y rhestri yn ffurfiol erioed.

Mae'r Rhestrau Gwastraff, a ddisodlodd “Catalog Gwastraff Ewropeaidd”, yn darparu ar gyfer dosbarthu gwastraffoedd ac yn penderfynu, yn ddarostyngedig i'r canlynol, a ydynt yn wastraffoedd peryglus.

Mae rheoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 (“y Rheoliadau Gwastraff Peryglus”) yn diffinio gwastraff peryglus at ddibenion gweithredu'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus yng Nghymru. Mae paragraff (a) o'r rheoliad hwnnw yn darparu bod gwastraff yn beryglus os yw'n cael ei restru yn wastraff peryglus yn y Rheoliadau hyn. Defnyddir y diffiniad hefyd mewn Cyfarwyddebau eraill (er enghraifft, Cyfarwyddeb 1999/31/EC ar dirlenwi gwastraff a Chyfarwyddeb 1996/61/EC ynghylch dulliau integredig o atal a rheoli llygredd). Cynhwysir diwygiadau canlyniadol i ymgorffori'r rhestr hon yn y Rheoliadau hyn yn y ddeddfwriaeth weithredu berthnasol yn Atodlen 11 i'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus.

Mae rheoliad 3(1) o'r Rheoliadau hyn yn darparu bod y Rhestr Wastraffoedd yn effeithiol at ddibenion sy'n gysylltiedig â rheoleiddio gwastraff a gwastraff peryglus, ac yn enwedig ar gyfer—

(a)penderfynu a yw deunydd neu sylwedd yn wastraff neu'n wastraff peryglus (is-baragraff (1)(a); a

(b)dosbarthu a chodio gwastraffoedd (is-baragraff (1)(b)). Mae rheoliad 3(3) yn darparu bod y Cyflwyniad i'r Rhestr Wastraffoedd yn effeithiol at ddibenion dehongli'r rhestr, at benderfynu a yw gwastraff yn beryglus ac at adnabod y gwastraff.

Mae rheoliad 3(4) yn rhoi effaith, at ddibenion rheoleiddio gwastraff a gwastraff peryglus, i'r codau chwe digid a'r penawdau penodau dau ddigid a phedwar digid yn y Rhestr Wastraffoedd.

Mae rheoliad 3(5) yn darparu na chydymffurfir ag unrhyw ofyniad (neu na fodlonir unrhyw amod) yn unrhyw ddeddfwriaeth bod y cod chwe digid cywir i'w roi ond os yw'r cod yn y Rhestr Wastraffoedd ar gyfer y gwastraff dan sylw yn cael ei roi. Mae rheoliad 3(6) yn darparu bod y seren yn y Rhestr Wastraffoedd i nodi bod y gwastraff dan sylw yn beryglus. Mae rheoliad 3(7) yn darparu pan fo gwastraff yn cael ei adnabod yn beryglus drwy gyfeirio at sylweddau peryglus, nid yw'r gwastraff ond yn beryglus pan fo'r gwerth terfyn yn rheoliad 4, neu Atodlen III o'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus, wedi'i fodloni. Mae rheoliad 4 yn nodi'r gwerthoedd terfyn crynodiad a geir yn Erthygl 2 o Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd.

Mae'r Rhestr Wastraffoedd yn cyfeirio at sylweddau fel rhai peryglus os ydynt yn cynnwys sylweddau peryglus. Mae sylwedd yn sylwedd peryglus os yw'n sylwedd peryglus yn unol â Rheoliadau Cemegion (Gwybodaeth am Beryglon a Phecynnu ar gyfer Cyflenwi) 2002 (O.S.2002/1689, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/3386) sy'n gweithredu Cyfarwyddeb y Sylweddau Peryglus (67/548/EEC) ym Mhrydain Fawr.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi. Gellir cael copi ohono oddi wrth Is-adran yr Amgylchedd — Diogelu ac Ansawdd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

S.I. 2005/850.

(3)

OJ Rhif L 194, 25.7.1975, t.39.

(4)

OJ Rhif L 78, 26.3.1991, t.32.

(5)

OJ Rhif L 377, 31.12.1991, t.48.

(6)

OJ Rhif L 135, 6.6.1996, t.32.

(7)

OJ Rhif L 284, 31.10.2003, t.1.

(8)

OJ Rhif L 196, 16.8.1967, t.1.

(9)

OJ Rhif L152, 30.4.2004, t.1.

(10)

OJ Rhif L 377, 31.12.1991, t.20.

(11)

OJ Rhif L 168, 2.7.1994, t.28.

(12)

OJ Rhif L 226, 6.9.2000, t.3.

(13)

OJ Rhif L 5, 7.1.1994, t.15.

(14)

OJ Rhif L 356, 31.12.1994, t.14.

(15)

OJ Rhif L 47, 16.2.2001, t.1.

(16)

OJ Rhif L 47, 16.2.2001, t.32.

(17)

(10) OJ Rhif L 203, 28.7.2001, t.18.

(19)

O.S. 2002/1689, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/3384.

(20)

1990 p.43.

(21)

Yng Nghyfarwyddeb 92/32/EEC sy'n diwygio am y seithfed gwaith Gyfarwyddeb 67/548/EEC cyflwynwyd y term 'toxic for reproduction'. Yn lle'r term 'teratogenic' rhoddwyd y term cyfatebol 'toxic for reproduction'. Ystyrir bod y term hwn yn unol â nodwedd H10 yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 91/689/EEC.

(22)

Yng Nghyfarwyddeb 92/32/EEC sy'n diwygio am y seithfed gwaith Gyfarwyddeb 67/548/EEC cyflwynwyd y term 'toxic for reproduction'. Yn lle'r term 'teratogenic' rhoddwyd y term cyfatebol 'toxic for reproduction'. Ystyrir bod y term hwn yn unol â nodwedd H10 yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 91/689/EEC.

(23)

1998 p.38.

(24)

O.S. 1991/2839; mae'r diwygiadau perthnasol yn O.S. 2002/1559.

(25)

O.S. 2002/1959; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1375.

(27)

For the purpose of this list of wastes, PCBs will be defined as in Directive 96/59/EC.

(28)

Hazardous components from electrical and electronic equipment may include accumulators and batteries mentioned in 16 06 and marked as hazardous; mercury switches, glass from cathode ray tubes and other activated glass, etc. Back [28]

(29)

For the purpose of this entry, transition metals are: scandium, vanadium, manganese, cobalt, copper, yttrium, niobium, hafnium, tungsten, titanium, chromium, iron, nickel, zinc, zirconium, molybdenum and tantalum. These metals or their compounds are dangerous if they are classified as dangerous substances. The classification of dangerous substances shall determine which among those transition metals and which transition metal compounds are hazardous.

(30)

Stabilisation processes change the dangerousness of the constituents in the waste and thus transform hazardous waste into non-hazardous waste. Solidification processes only change the physical state of the waste (e.g. liquid into solid) by using additives without changing the chemical properties of the waste.

(31)

A waste is considered as partly stabilised if, after the stabilisation process, dangerous constituents which have not been changed completely into non-dangerous constituents could be released into the environment in the short, middle or long term.

(32)

Hazardous components from electrical and electronic equipment may include accumulators and batteries mentioned in 16 06 and marked as hazardous; mercury switches, glass from cathode ray tubes and other activated glass etc.

(33)

As far as the landfilling of waste is concerned, Member States may decide to postpone the entry into force of this entry until the establishment of appropriate measures for the treatment and disposal of waste from construction material containing asbestos. These measures are to be established according to the procedure referred to in Article 17 of Council Directive 1999/31/EC on the landfill of waste (OJ L 182, 16.7.1999, p.1) and shall be adopted by 16 July 2002 at the latest.