- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dim ond yn y canlynol y ceir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu —
(a)ysgol berthnasol yng Nghymru heblaw ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig sydd wedi ei sefydlu mewn ysbyty; neu
(b)o dan yr amgylchiadau a ragnodir ym mharagraff (3) ysgol annibynnol yng Nghymru; neu
(c)o dan yr amgylchiadau a ragnodir ym mharagraff (4) coleg AB yng Nghymru; neu
(ch)ysgol neu goleg AB yn Lloegr y ceir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu ynddynt o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr.
(2) Ni cheir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu yn y canlynol —
(a)ysgol yng Nghymru y mae'r amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 15(6)(a) a (b) o Ddeddf 1998 yn gymwys mewn perthynas â hi, oni bai —
(i)bod y person o dan sylw wedi dechrau ei gyfnod ymsefydlu neu wedi'i gyflogi fel athro neu athrawes raddedig neu athro neu athrawes gofrestredig neu ar gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn yr ysgol ar adeg pan nad oedd amgylchiadau o'r fath yn gymwys, neu
(ii)bod un o Arolygwyr Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru wedi ardystio yn ysgrifenedig ei fod yn fodlon bod yr ysgol yn addas at ddibenion darparu goruchwyliaeth a hyfforddiant ymsefydlu; neu
(b)uned cyfeirio disgyblion.
(3) Dyma'r amgylchiadau pan gaiff person wasanaethu cyfnod ymsefydlu mewn ysgol annibynnol —
(a)yn achos person sy'n cael ei gyflogi i addysgu disgyblion yng nghyfnod allweddol tri neu bedwar, bod cwricwlwm yr ysgol ar gyfer disgyblion y cyfnodau allweddol hynny yn cynnwys yr holl bynciau craidd a'r holl bynciau sylfaen eraill a bennwyd mewn perthynas â chyfnodau allweddol tri a phedwar yn adran 105(2) a (3) ac adran 106(2) a (3) o Ddeddf 2002 y mae'r person hwnnw wedi'i gyflogi i'w haddysgu; a
(b)ym mhob achos, bod y cwricwlwm ar gyfer yr holl ddisgyblion cofrestredig yng nghyfnodau allweddol un a dau yn bodloni gofynion adran 105(1) o Ddeddf 2002 (Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru), heblaw mewn perthynas â threfniadau asesu; ac
(c)ym mhob achos, cyn i'r cyfnod ymsefydlu ddechrau, bod perchennog yr ysgol a naill ai awdurdod neu'r personau neu'r corff y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 5(1)(c) wedi cytuno bod yr awdurdod neu'r personau neu'r corff, yn ôl fel y digwydd, i weithredu fel y corff priodol mewn perthynas â'r ysgol.
(4) Ni chaiff person wasanaethu cyfnod ymsefydlu mewn coleg AB yng Nghymru oni bai bod corff llywodraethu'r coleg ac awdurdod wedi cytuno, cyn i'r cyfnod ymsefydlu ddechrau, fod yr awdurdod i weithredu fel y corff priodol mewn perthynas â'r coleg.
(5) Ni chaiff person wasanaethu cyfnod ymsefydlu mewn dau neu fwy o sefydliadau ar yr un pryd oni bai bod penaethiaid yr holl sefydliadau wedi cytuno, cyn i'r cyfnod ymsefydlu ddechrau, p'un ohonynt sydd i weithredu fel y pennaeth arweiniol.
(6) Yn y rheoliad hwn, mae “cyfnod ymsefydlu” (“induction period”) yn cynnwys rhan o gyfnod ymsefydlu.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: