Dehongli3

1

Ac eithrio lle mae'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “athro neu athrawes gofrestredig” (“registered teacher”) yw person a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 12 i 18 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004;

  • ystyr “athro neu athrawes gyflenwi” (“supply teacher”) yw athro neu athrawes a gyflogir yn gyfan gwbl neu yn bennaf at ddibenion goruchwylio neu addysgu disgyblion nad yw eu hathro neu athrawes reolaidd ar gael i'w haddysgu;

  • ystyr “athro neu athrawes gyflenwi tymor byr” (“short term supply teacher”) yw athro neu athrawes gyflenwi a gyflogir am gyfnod o lai nag un tymor;

  • ystyr “athro neu athrawes gymwysedig” (“qualified teacher”) yw person sy'n bodloni'r gofynion sydd wedi'u pennu mewn rheoliadau sydd wedi'u gwneud o dan adran 132 o Ddeddf 20026;

  • ystyr “athro neu athrawes raddedig” (“graduate teacher”) yw person a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 5 i 11 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004;

  • ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod addysg lleol;

  • mae “blwyddyn ysgol” (“school year”) yn cynnwys blwyddyn academaidd coleg AB;

  • ystyr “coleg AB” (“FE college”) yw sefydliad yn y sector addysg bellach yn unol â'r diffiniad yn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 19927;

  • mae i “corff llywodraethu” mewn perthynas â choleg AB yr un ystyr ag sydd i “governing body” yn adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;

  • ystyr “corff priodol” (“appropriate body”) yw'r corff priodol o dan reoliad 5;

  • mae “cyflogwr” (“employer”) yn cynnwys awdurdod, corff llywodraethu neu berson arall sy'n cymryd person ymlaen (neu'n gwneud trefniadau i'w gymryd ymlaen) er mwyn darparu ei wasanaethau fel athro neu athrawes heblaw o dan gontract cyflogaeth, ac mae “cyflogi” (“employed”), “cyflogaeth” (“employment”) ac unrhyw ymadroddion sy'n ymwneud â therfynu cyflogaeth i'w dehongli yn unol â hynny;

  • mae i “cyfnod allweddol” yr un ystyr ag sydd i “key stage” yn adran 103(1) o Ddeddf 2002;

  • ystyr “cyfnod ymsefydlu” (“induction period”) yw cyfnod ymsefydlu sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn;

  • ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;

  • ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw cynllun a sefydlwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 8 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19988;

  • ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 20029;

  • ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc o fewn ystyr “bank holiday” yn Neddf Bancio a Deliadau Ariannol 197110;

  • ystyr “diwrnod ysgol” (“school day”) mewn perthynas ag ysgol yw unrhyw ddiwrnod pan fydd sesiwn ysgol yn yr ysgol honno, ac mewn perthynas â choleg AB unrhyw ddiwrnod pan fydd y coleg yn cyfarfod;

  • mae “pennaeth” (“head teacher”) yn cynnwys pennaeth coleg AB;

  • ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 199911;

  • ystyr “Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol” (“the School Teachers' Qualifications Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 200412;

  • ystyr “Rheoliadau Ymsefydlu Lloegr” (“England’s Induction Regulations”) yw rheoliadau a wneir o bryd i'w gilydd o dan adran 19 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 199813 mewn perthynas ag athrawon yn Lloegr;

  • ystyr “sefydliad” (“institution”) yw ysgol berthnasol, ysgol annibynnol neu goleg AB lle ceir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu o dan y Rheoliadau hyn, yn ôl gofynion y cyd-destun;

  • mae i “sesiwn ysgol” (“school session”) yr un ystyr ag a roddir iddo yn rheoliadau 4 a 5 o Reoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 200314;

  • mae “tymor ysgol” (“school term”) yn cynnwys tymor coleg AB;

  • mae i “ysgol arbennig” yr un ystyr ag sydd i “special school” yn adran 337(1) o Ddeddf 199615;

  • ystyr “ysgol arbennig nas cynhelir” (“non-maintained special school”) yw ysgol arbennig nad yw'n ysgol arbennig gymunedol nac yn ysgol arbennig sefydledig; ac

  • ystyr “ysgol berthnasol” (“relevant school”) yw ysgol sy'n cael ei chynnal gan awdurdod neu ysgol arbennig nas cynhelir.

2

At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu pan fydd y person hwnnw wedi gwasanaethu cyfnod ymsefydlu o —

a

tri thymor ysgol, neu

b

unrhyw hyd arall y mae'r corff priodol wedi penderfynu arno yn unol â rheoliad 8(2) (gan gynnwys dim ond cyfnodau cyflogaeth sy'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu o dan reoliad 9); a

phan fydd y corff priodol yn ymestyn y cyfnod ymsefydlu yn unol â rheoliad 10, cyfnod yr estyniad hwnnw.

3

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at —

a

rheoliad neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

b

paragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddynt; ac

c

is-baragraff â Rhif yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y paragraff y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddo.