Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

3.—(1Ac eithrio lle mae'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “athro neu athrawes gofrestredig” (“registered teacher”) yw person a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 12 i 18 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004;

ystyr “athro neu athrawes gyflenwi” (“supply teacher”) yw athro neu athrawes a gyflogir yn gyfan gwbl neu yn bennaf at ddibenion goruchwylio neu addysgu disgyblion nad yw eu hathro neu athrawes reolaidd ar gael i'w haddysgu;

ystyr “athro neu athrawes gyflenwi tymor byr” (“short term supply teacher”) yw athro neu athrawes gyflenwi a gyflogir am gyfnod o lai nag un tymor;

ystyr “athro neu athrawes gymwysedig” (“qualified teacher”) yw person sy'n bodloni'r gofynion sydd wedi'u pennu mewn rheoliadau sydd wedi'u gwneud o dan adran 132 o Ddeddf 2002(1);

ystyr “athro neu athrawes raddedig” (“graduate teacher”) yw person a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 5 i 11 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004;

ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod addysg lleol;

mae “blwyddyn ysgol” (“school year”) yn cynnwys blwyddyn academaidd coleg AB;

ystyr “coleg AB” (“FE college”) yw sefydliad yn y sector addysg bellach yn unol â'r diffiniad yn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(2);

mae i “corff llywodraethu” mewn perthynas â choleg AB yr un ystyr ag sydd i “governing body” yn adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;

ystyr “corff priodol” (“appropriate body”) yw'r corff priodol o dan reoliad 5;

mae “cyflogwr” (“employer”) yn cynnwys awdurdod, corff llywodraethu neu berson arall sy'n cymryd person ymlaen (neu'n gwneud trefniadau i'w gymryd ymlaen) er mwyn darparu ei wasanaethau fel athro neu athrawes heblaw o dan gontract cyflogaeth, ac mae “cyflogi” (“employed”), “cyflogaeth” (“employment”) ac unrhyw ymadroddion sy'n ymwneud â therfynu cyflogaeth i'w dehongli yn unol â hynny;

mae i “cyfnod allweddol” yr un ystyr ag sydd i “key stage” yn adran 103(1) o Ddeddf 2002;

ystyr “cyfnod ymsefydlu” (“induction period”) yw cyfnod ymsefydlu sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn;

ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;

ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw cynllun a sefydlwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 8 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(3);

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002(4);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc o fewn ystyr “bank holiday” yn Neddf Bancio a Deliadau Ariannol 1971(5);

ystyr “diwrnod ysgol” (“school day”) mewn perthynas ag ysgol yw unrhyw ddiwrnod pan fydd sesiwn ysgol yn yr ysgol honno, ac mewn perthynas â choleg AB unrhyw ddiwrnod pan fydd y coleg yn cyfarfod;

mae “pennaeth” (“head teacher”) yn cynnwys pennaeth coleg AB;

ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999(6);

ystyr “Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol” (“the School Teachers' Qualifications Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004(7);

ystyr “Rheoliadau Ymsefydlu Lloegr” (“England’s Induction Regulations”) yw rheoliadau a wneir o bryd i'w gilydd o dan adran 19 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(8) mewn perthynas ag athrawon yn Lloegr;

ystyr “sefydliad” (“institution”) yw ysgol berthnasol, ysgol annibynnol neu goleg AB lle ceir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu o dan y Rheoliadau hyn, yn ôl gofynion y cyd-destun;

mae i “sesiwn ysgol” (“school session”) yr un ystyr ag a roddir iddo yn rheoliadau 4 a 5 o Reoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003(9);

mae “tymor ysgol” (“school term”) yn cynnwys tymor coleg AB;

mae i “ysgol arbennig” yr un ystyr ag sydd i “special school” yn adran 337(1) o Ddeddf 1996(10);

ystyr “ysgol arbennig nas cynhelir” (“non-maintained special school”) yw ysgol arbennig nad yw'n ysgol arbennig gymunedol nac yn ysgol arbennig sefydledig; ac

ystyr “ysgol berthnasol” (“relevant school”) yw ysgol sy'n cael ei chynnal gan awdurdod neu ysgol arbennig nas cynhelir.

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu pan fydd y person hwnnw wedi gwasanaethu cyfnod ymsefydlu o —

(a)tri thymor ysgol, neu

(b)unrhyw hyd arall y mae'r corff priodol wedi penderfynu arno yn unol â rheoliad 8(2) (gan gynnwys dim ond cyfnodau cyflogaeth sy'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu o dan reoliad 9); a

phan fydd y corff priodol yn ymestyn y cyfnod ymsefydlu yn unol â rheoliad 10, cyfnod yr estyniad hwnnw.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at —

(a)rheoliad neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

(b)paragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddynt; ac

(c)is-baragraff â Rhif yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y paragraff y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddo.

(1)

Y Rheoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd o dan y ddarpariaeth hon yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004, O.S. 2004/1729 (Cy.173).

(8)

Y rheoliadau mewn grym ar gyfer Lloegr adeg gwneud y Rheoliadau hyn oedd Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cydgrynhoad) (Lloegr) 2001 (O.S. 2001/2897) fel y'u diwygiwyd gan O.S.2001/3938, O.S. 2002/2063 ac O.S. 2003/2148.

(10)

1996 p.56. Mae adran 337(1) wedi'i ddiwygio gan baragraff 80 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources