Penderfynu
8.—(1) Ar ôl cwblhau ymchwiliad i gŵyn, rhaid i OTCC wneud penderfyniad ysgrifenedig ynglŷn â hi.
(2) Os bydd OTCC mewn penderfyniad yn casglu bod yr achwynydd wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad i'r mater yr ymchwilir iddo, rhaid i'r landlord cymdeithasol ystyried y penderfyniad ac unrhyw argymhellion sydd ynddo a hysbysu OTCC yn ysgrifenedig cyn diwedd cyfnod o un mis ar ôl y dyddiad y daw'r penderfyniad i law'r landlord cymdeithasol (neu unrhyw gyfnod hwy y caiff OTCC ei ganiatáu'n ysgrifenedig) o'r canlynol:
(a)y camau y mae wedi eu cymryd neu'n bwriadu eu cymryd wrth ymateb i'r penderfyniad, a
(b)o fewn pa gyfnod y mae'n bwriadu cymryd y camau hynny (os nad yw eisioes wedi'u cymryd).
(3) Os na fydd OTCC wedi cael yr hysbysiad sy'n ofynnol o dan baragraff (2) cyn diwedd y cyfnod a bennir yn y paragraff hwnnw, neu os bydd wedi cael yr hysbysiad ond nad yw'n fodlon naill ai:
(a)ar y camau y mae'r landlord cymdeithasol wedi eu cymryd neu'n bwriadu eu cymryd,
(b)ar hyd y cyfnod y mae'n bwriadu cymryd y camau hynny o'i fewn,
(c)bod y landlord cymdeithasol wedi cymryd y camau yr oedd yn bwriadu eu cymryd o fewn y cyfnod perthnasol,
caiff OTCC baratoi adroddiad arbennig yn unol â pharagraff (4).
(4) Rhaid i adroddiad arbennig gynnwys y canlynol:
(a)y penderfyniad ynglŷn â'r ymchwiliad; a
(b)ymateb y landlord cymdeithasol i'r penderfyniad hwnnw; ac
(c)unrhyw argymhellion, os oes rhai, y gwêl OTCC yn dda eu gwneud o ran y camau y dylai'r landlord cymdeithasol eu cymryd ym marn OTCC:
(i)i wneud iawn am yr anghyfiawnder neu'r caledi i'r achwynydd; a
(ii)i atal anghyfiawnder neu galedi tebyg rhag cael ei achosi yn y dyfodol.
(5) Os yw penderfyniad neu adroddiad arbennig –
(a)yn crybwyll enw unrhyw berson heblaw'r landlord cymdeithasol y gwnaed y gŵyn amdano, neu
(b)yn cynnwys unrhyw fanylion sydd, ym marn OTCC, yn debyg o ddangos pwy yw unrhyw berson o'r fath a'r rheini'n fanylion y gellid eu hepgor, ym marn OTCC, heb amharu ar effeithiolrwydd y penderfyniad neu'r adroddiad arbennig,
rhaid peidio â chynnwys yr wybodaeth honno mewn fersiwn o'r penderfyniad neu'r adroddiad arbennig a anfonir at berson o dan reoliad 11(1), neu a gyhoeddir o dan reoliad 11(2), a hynny'n ddarostyngedig i baragraff (6).
(6) Nid yw paragraff (5) yn gymwys o ran fersiwn o'r penderfyniad neu'r adroddiad arbennig os yw OTCC, ar ôl cymryd i ystyriaeth fuddiannau'r achwynydd ac unrhyw bersonau eraill y mae OTCC yn meddwl eu bod yn briodol, yn barnu y byddai er lles y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o'r penderfyniad neu'r adroddiad arbennig.