Rheoliadau Ombwdsmon Tai Cymdeithasol (Cymru) 2005

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “achwynydd”; (“complainant”) yw person sy'n honni ei fod wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi oherwydd mater y mae gan OTCC hawl i ymchwilio iddo o dan y Rheoliadau hyn a hwnnw'n berson nad yw'n landlord cymdeithasol sy'n gweithredu yn rhinwedd ei swyddogaeth fel landlord o'r fath;

  • mae “camau”; (“action”) yn cynnwys methiant i weithredu (a rhaid dehongli ymadroddion cysylltiedig yn unol â hynny);

  • ystyr “camau perthnasol”; (“relevant action”) yw'r camau a gymerir gan y landlord cymdeithasol yn ei swyddogaeth fel landlord cymdeithasol;

  • ystyr “gwasanaeth perthnasol”; (“relevant service”) yw unrhyw wasanaeth y mae'n swyddogaeth y landlord cymdeithasol i'w ddarparu yn rhinwedd ei swydd fel landlord cymdeithasol;

  • mae i “landlord cymdeithasol”; (“social landlord”) yr ystyr a roddir i “social landlord in Wales”; fel y'i diffinnir yn adran 51C(1) o Ddeddf Tai 1996(1); ac

  • ystyr “OTCC”; (“SHOW”) yw Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru(2).

(1)

1996 p. 52. Gweler adran 51C(1)

(2)

Gweler adran 51A (Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru) o Ddeddf Tai 1996 (p.52) — bydd y person sydd yn Gomisiynydd Lleol Cymru hefyd yn Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru.