Offerynnau Statudol Cymru
2005 Rhif 1814 (Cy.144) (C.75)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2005
Wedi'i wneud
5 Gorffennaf 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 270(4)(a), (5)(c), (5)(f) a (7) o Ddeddf Tai 2004(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2005.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Tai 2004; ac
ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw 14 Gorffennaf 2005.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar y dyddiad cychwyn
2. Mae darpariaethau canlynol Deddf 2004 yn dod i rym ar y dyddiad cychwyn —
(a)adran 191;
(b)adran 227;
(c)adran 228;
(ch)adran 265(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau o Atodlen 15 i Ddeddf 2004 a bennir ym mharagraff (dd) isod;
(d)Atodlen 12; ac
(dd)yn Atodlen 15 —
(i)paragraff 1;
(ii)paragraff 7(1), (2), (3)(a), (3)(c), (4)(a) a 5;
(iii)paragraff 35;
(iv)paragraff 37(1), (2)(a), (2)(b) a (3);
(v)paragraff 45(1), (2)(b), (2)(c), (2)(d) a (3); a
(vi)paragraff 46
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2005
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â ddarpariaethau amrywiol Deddf Tai 2004 (“Deddf 2004”) i rym o ran Cymru.
Daw darpariaethau Deddf 2004 a restrir o dan erthygl 2 i rym ar 14 Gorffennaf 2005. Maent yn darparu ar gyfer y canlynol:
(a)seiliau newydd dros wrthod cydsynio ag aseinio tenantiaeth ddiogel (mae adran 191 o Ddeddf 2004 yn mewnosod Sail 2A newydd yn Atodlen 3 o Ddeddf Tai 1985);
(b)dileu'r ddyletswydd sydd ar awdurdodau tai lleol o dan adran 167 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i anfon adroddiadau blynyddol at denantiaid (adran 227 o Ddeddf 2004); ac
(c)creu swydd Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru (mae adran 228 o Ddeddf 2004 yn mewnosod adrannau 51A, 51B a 51C yn Neddf Tai 1996 ac mae Atodlen 12 o Ddeddf 2004 yn mewnosod Atodlen 2A newydd yn y ddeddf 1996 honno).
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn dod â newidiadau canlyniadol i rym (mae erthygl 2(dd) yn cyfeirio at y rhain).