2005 Rhif 1814 (Cy.144) (C.75)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2005

Wedi'i wneud

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 270(4)(a), (5)(c), (5)(f) a (7) o Ddeddf Tai 20041, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, dehongli a chymhwyso1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2005.

2

Yn y Gorchymyn hwn —

  • ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Tai 2004; ac

  • ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw 14 Gorffennaf 2005.

3

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar y dyddiad cychwyn2

Mae darpariaethau canlynol Deddf 2004 yn dod i rym ar y dyddiad cychwyn —

a

adran 191;

b

adran 227;

c

adran 228;

ch

adran 265(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau o Atodlen 15 i Ddeddf 2004 a bennir ym mharagraff (dd) isod;

d

Atodlen 12; ac

dd

yn Atodlen 15 —

i

paragraff 1;

ii

paragraff 7(1), (2), (3)(a), (3)(c), (4)(a) a 5;

iii

paragraff 35;

iv

paragraff 37(1), (2)(a), (2)(b) a (3);

v

paragraff 45(1), (2)(b), (2)(c), (2)(d) a (3); a

vi

paragraff 46

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19982.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â ddarpariaethau amrywiol Deddf Tai 2004 (“Deddf 2004”) i rym o ran Cymru.

Daw darpariaethau Deddf 2004 a restrir o dan erthygl 2 i rym ar 14 Gorffennaf 2005. Maent yn darparu ar gyfer y canlynol:

a

seiliau newydd dros wrthod cydsynio ag aseinio tenantiaeth ddiogel (mae adran 191 o Ddeddf 2004 yn mewnosod Sail 2A newydd yn Atodlen 3 o Ddeddf Tai 1985);

b

dileu'r ddyletswydd sydd ar awdurdodau tai lleol o dan adran 167 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i anfon adroddiadau blynyddol at denantiaid (adran 227 o Ddeddf 2004); ac

c

creu swydd Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru (mae adran 228 o Ddeddf 2004 yn mewnosod adrannau 51A, 51B a 51C yn Neddf Tai 1996 ac mae Atodlen 12 o Ddeddf 2004 yn mewnosod Atodlen 2A newydd yn y ddeddf 1996 honno).

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn dod â newidiadau canlyniadol i rym (mae erthygl 2(dd) yn cyfeirio at y rhain).