Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1812 (Cy.142)

PRIFFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofnodion) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

5 Gorffennaf 2005

Yn dod i rym

1 Rhagfyr 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 79 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991(1) ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o ran Cymru(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofnodion) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn:

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991;

ystyr “gwaith brys” (“urgent works”) yw gwaith stryd, ar wahân i waith mewn argyfwng, y mae'n ofynnol ei gyflawni ar yr adeg y mae'n cael ei gyflawni (neu y mae'r person sy'n gyfrifol am y gwaith yn credu ar sail resymol ei fod yn ofynnol):—

ac y mae'n cynnwys gwaith na ellir yn rhesymol ei wahanu o'r fath waith;

ystyr “pibellau a llinellau cyswllt” (“service pipes and lines”) yw cyfarpar o unrhyw hyd sy'n cyfateb i un o'r disgrifiadau a geir ym mharagraff 7(3)(a), (b) neu (c) o Atodlen 4 i'r Ddeddf; ac

ystyr “system gwybodaeth ddaearyddol” (“a geographical information system”) yw system gyfrifiadurol sy'n cipio, storio, gwirio, integreiddio, trin, dadansoddi ac arddangos data sy'n ymwneud â lleoliadau gofodol.

Ffurf y cofnodion a dull eu cofnodi

3.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 5, rhaid i ymgymerwr gofnodi bob eitem o gyfarpar sy'n perthyn iddo ac sy'n cael ei rhoi yn y stryd a'i chofnodi ar bapur, neu, yn ddarostyngedig i reoliad 4, ar ffurf cofnod electronig neu gyfuniad o'r ddau, a rhaid i'r cofnod gael ei baratoi ar ffurf :

(a)map o'r lleoliad neu'r llwybr wedi'i gofnodi ar gefndir map, sydd:

(i)yn ymwneud â Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans, yn ddarostyngedig i baragraff (2); a

(ii)wedi'i baratoi hyd at lefel o gywirdeb sy'n cyfateb o leiaf i raddfa map gan yr Arolwg Ordnans sydd agosaf at raddfa'r cefndir map hwnnw; neu

(iii)datganiad o gyfesurynnau'r Grid Cenedlaethol sy'n deillio o system wybodaeth ddaearyddol.

(2Dim ond i gofnodi'r map o'r lleoliad neu'r llwybr am gyfnod heb fod yn fwy na phum mlynedd o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym (“y cyfnod trosiannol”) y caniateir defnyddio Mapio Cyfres Siroedd yr Arolwg Ordnans, a rhaid trosglwyddo cofnodion sy'n cael eu gwneud yn y modd hwn i un o'r ffurfiau eraill a ragnodir gan baragraff (1) erbyn diwedd y cyfnod trosiannol fan bellaf.

(3Wrth baratoi'r cofnod, rhaid cofnodi'r map o leoliad a llwybr y cyfarpar fel y bydd y safle a fesurwyd o fewn 300mm i'r gwir safle, a bydd y safle a gofnodwyd o fewn 500mm i'r gwir safle.

Cofnodion Electronig

4.  Pan fo cofnod electronig yn cael ei gadw, yn unol â rheoliad 3 uchod, rhaid bod modd ei atgynhyrchu ar ffurf sy'n ddigon darllenadwy i gydymffurfio â'r ddyletswydd a osodir gan adran 79(3) o'r Ddeddf (dyletswydd i roi cofnodion ar gael i'w harchwilio).

Eithriadau

5.  Ni fydd y ddyletswydd yn adran 79(1) o'r Ddeddf i gadw cofnod o leoliad pob eitem o gyfarpar yn gymwys:-

(a)pan fyddai cydymffurfio yn arwain at ddatgelu'r mathau canlynol o wybodaeth gyfyngedig:

(i)gwybodaeth a ardystiwyd gan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol neu gyda'i awdurdod ef ei bod yn wybodaeth gyfyngedig er lles diogelwch y wlad;

(ii)gwybodaeth a ardystiwyd gan awdurdod ymgymerwr neu gyda'i awdurdod ef ei bod yn wybodaeth gyfyngedig yn unol â buddiannau masnachol yr ymgymerwr;

(b)i unrhyw gyfarpar a roddwyd gan ymgymerwr yn y stryd o fewn ei gyfarpar presennol lle y cofnodwyd lleoliad y cyfarpar presennol yn barod ar ffurf a ragnodir gan reoliad 3;

(c)i unrhyw gyfarpar a roddwyd ar y stryd cyn y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym;

(ch)i unrhyw gyfarpar sy'n perthyn i ymgymerwr ac y mae'n dod o hyd iddo yn y stryd yn ystod gwaith mewn argyfwng neu waith brys y mae ef yn ei wneud;

(d)i unrhyw gyfarpar sydd heb ei osod dan ddaear; a

(dd)i bibellau a llinellau cyswllt.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Gorffennaf 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi ffurf y cofnodion o gyfarpar a roddir mewn strydoedd y mae ymgymerwyr i'w cadw yn unol â darpariaethau adran 79 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn darparu bod rhaid cadw'r cofnodion hynny ar ffurf map lleoliad neu fap o'r llwybr neu ddatganiad o'r cyfesurynnau, a chânt fod un ai ar bapur, ar ffurf cofnod electronig neu gyfuniad o'r ddau (rheoliad 3). Maent yn gwneud darpariaethau ar ddefnyddio cofnodion electronig (rheoliad 4). Rhagnodir eithriadau i'r ddyletswydd i gadw cofnod mewn rhai achosion (rheoliad 5).

(2)

Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/ 672).