2005 Rhif 1810 (Cy.141)

PRIFFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gwaith Stryd (Adennill Costau) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 96 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 19911 ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o ran Cymru2, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Adennill Costau) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 8 Gorffennaf 2005.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn:

  • ystyr “canolfan gost” (“cost centre”) yw uned o atebolrwydd ariannol adnabyddadwy o fewn cyfrifon rheoli hawlydd ac sy'n gyfrifol am weithgareddau penodol o fewn sefydliad hawlydd;

  • ystyr “cost cyfalaf” (“cost of capital”) yw cost y cyfalaf a gyfrifir drwy gyfeirio at y gyfradd enillion a ragnodir naill ai gan ddeddfwriaeth, neu gan y rheoleiddiwr perthnasol o ran gweithgareddau rheoleiddiedig yr hawlydd (p'un a yw'r gwaith am dâl yn un o'r gweithgareddau hynny ai peidio) neu, os na ragnodir cyfradd o'r fath, drwy gyfeirio at gyfradd sy'n ddau y cant yn uwch na chyfradd ddisgownt y sector cyhoeddus fel a bennir gan y Trysorlys o bryd i'w gilydd;

  • ystyr “costau” (“costs”) yw costau neu dreuliau y cyfeirir atynt yn adran 96(1) o'r Ddeddf fel rhai y mae modd i awdurdod, corff neu berson eu hadennill o dan Ran III o'r Ddeddf;

  • ystyr “costau uniongyrchol” (“direct costs”) yw'r costau hynny a ddisgrifir yn rheoliad 5;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991;

  • ystyr “gorbenion” (“overheads”) yw'r costau hynny a ddisgrifir yn rheoliad 6;

  • ystyr “gwaith am dâl” (“chargeable job”) yw gwaith y mae modd adennill ei gostau o dan ddarpariaethau Rhan III o'r Ddeddf;

  • ystyr “gwasanaethau cymorth” (“support services”) yw gwasanaethau a ddarperir oddi fewn i sefydliad er mwyn cynorthwyo gweithgareddau sy'n mynd i gostau uniongyrchol;

  • ystyr “gweithgareddau rheoleiddiedig” (“regulated activities”) yw gweithgareddau a awdurdodir neu a reoleiddir gan drwydded ac a oruchwylir gan y rheoleiddiwr perthnasol;

  • ystyr “hawlydd” (“claimant”) yw awdurdod, corff neu berson sydd â'r hawl i adennill costau o dan Ran III o'r Ddeddf;

  • ystyr “rheoleiddiwr perthnasol” (“relevant regulator”) yw person, sy'n annibynnol ar yr hawlydd, ac sy'n gyfrifol am oruchwylio gweithgareddau rheoleiddiedig yr hawlydd a sicrhau bod yr hawlydd yn cydymffurfio â thelerau'r drwydded sy'n awdurdodi'r gweithgareddau hynny; ac

  • ystyr “trwydded” (“licence”) yw unrhyw ffurf ar awdurdodiad, caniatâd, neu benodiad sy'n awdurdodi'r hawlydd i gynnal gweithgareddau rheoleiddiedig.

Sail adennill3

Y sail y mae symiau o gostau i'w cyfrifo arni yw'r sail a roddir yn narpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.

Costau4

1

Y costau fydd costau uniongyrchol a gorbenion i'r graddau y mae'r costau uniongyrchol hynny a'r gorbenion hynny yn berthnasol i waith penodol am dâl a chyfrifir hwynt yn unol â'r polisïau ariannol a fabwysiedir gan yr hawlydd i ddatgan canlyniadau ariannol y canolfannau cost sy'n gyfrifol am y gwaith am dâl neu am ddarparu gwasanaethau cymorth i'r canolfannau hynny.

2

Pan fo modd adennill costau yn unol â Rheoliadau Gwaith Stryd (Rhannu Costau Gwaith) (Cymru) 20053 (“Rheoliadau 2005”) mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r graddau y mae'r costau yn “gostau caniatadwy” fel a ddiffinnir yn rheoliad 2(2) o Reoliadau 2005.

3

Bydd modd adennill y costau naill ai fel costau uniongyrchol o dan reoliad 5 neu fel gorbenion o dan reoliad 6, ond nid fel y ddau.

4

Bydd y costau'n glir o unrhyw ddisgownt neu ad-daliad a ganiateir i'r hawlydd.

Costau Uniongyrchol5

Mae costau uniongyrchol yn gostau yn unrhyw un o'r pum dosbarth a bennir isod—

a

cost staff (p'un a ydynt yn cael cyflog ai peidio) a gyflogir yn uniongyrchol gan yr hawlydd ac a gyfrifir yn unol â rheoliad 7;

b

y costau sy'n daladwy i gontractiwr y mae'r hawlydd yn ei gymryd ymlaen;

c

costau deunyddiau;

ch

cost hurio cyfarpar, peiriannau a cherbydau neu, pan fo'r cyfarpar, y peiriannau neu'r cerbydau yn cael eu lesio i'r hawlydd, y gost gyfatebol seiliedig ar raddfeydd perthnasol y farchnad; a

d

costau eraill sy'n berthnasol ac yn benodol briodoladwy i waith am dâl.

Gorbenion6

1

Gorbenion fydd canran briodol o'r costau uniongyrchol y cyfeirir atynt yn rheoliad 5, wedi'u cyfrifo a'u cymhwyso ar wahân ar gyfer pob dosbarth ar y costau hynny.

2

Ystyr canran briodol at ddibenion y rheoliad hwn yw'r ganran a gyfrifir drwy gymhwyso'r fformwla:

(b/a×100)plws(c/a×100)plws(ch/a×100)math

pan fo:

a

cyfanswm costau uniongyrchol pob gwaith am dâl, a gwaith heblaw gwaith am dâl, y codir ar y ganolfan gost neu'r canolfannau cost amdano, a'r ganolfan gost honno neu'r canolfannau cost hynny yn gyfrifol am y gwaith am dâl yn ystod y cyfnod diweddaraf y mae cyfrifon cyhoeddedig ar gael ar ei gyfer;

b

cost, yn ystod y cyfnod hwnnw, gwasanaethau cymorth a ddarperir o fewn y ganolfan gost neu'r canolfannau cost sy'n gyfrifol am y gwaith am dâl;

c

cost, yn ystod y cyfnod hwnnw, y gwasanaethau cymorth a ddarperir i'r ganolfan gost neu'r canolfannau cost sy'n gyfrifol am y gwaith am dâl gan ganolfannau cost eraill o fewn sefydliad yr hawlydd; a

ch

cost, yn ystod y cyfnod hwnnw, cyfalaf a dibrisiant asedau a ddefnyddir ynghyswllt costau uniongyrchol yr aeth y ganolfan gost neu'r canolfannau cost iddynt a'r ganolfan gost honno neu'r canolfannau cost hynny yn gyfrifol am y gwaith am dâl, neu gost yr aed iddi yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol wrth ddarparu gwasanaethau cymorth i'r ganolfan gost honno neu i'r canolfannau cost hynny.

Cyfrifo Costau Staff ac Oriau Cynhyrchiol7

1

At ddibenion rheoliad 5(a), cyfrifir costau staff drwy gyfeirio at y gyfradd y cyflogir person arni fesul awr gan rannu amcangyfrif rhesymol o gost flynyddol cyflogi person ag oriau cynhyrchiol y person hwnnw yn ystod yr un cyfnod blynyddol.

2

Ym mharagraff (1) uchod, ystyr “oriau cynhyrchiol” yw'r oriau hynny pryd yr amcangyfrifir yn rhesymol y bydd person wrthi'n gwneud gwaith am dâl neu waith o fath tebyg o fewn sefydliad yr hawlydd, ond nid yw'n cynnwys unrhyw gyfnodau o salwch, gwyliau, hyfforddiant neu absenoldeb arall.

Eithriadau8

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gostau na threuliau y mae modd eu hadennill o ran unrhyw weithred yr ymgymerir â hi o ran trwydded o dan adran 50 o'r Ddeddf.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r sail dros gyfrifo costau neu dreuliau y caiff awdurdod, corff neu berson eu hadennill o dan Ran III o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991.

Mae Rhan III o'r Ddeddf honno yn cynnwys nifer o ddarpariaethau sy'n rhoi hawl i awdurdod, corff neu berson gyflawni gweithredoedd ac adennill oddi wrth bartïon eraill y costau neu'r treuliau sy'n dod o ymgymryd â'r gweithredoedd hynny. Er enghraifft, os ymddengys i awdurdod strydoedd bod ymgymerwr wedi methu â chydymffurfio â'i ddyletswyddau i adfer stryd a bod y methiant hwnnw'n achosi perygl i'r sawl sy'n defnyddio'r stryd, caiff yr awdurdod wneud y gwaith y mae angen ei wneud a chaiff adennill oddi wrth yr ymgymerwr y costau yr aeth iddynt yn rhesymol wrth wneud y gwaith hwn. Mae'r Rheoliadau yn rhagnodi mai'r costau fydd costau uniongyrchol a gorbenion, ac maent yn diffinio pa ddosbarthau ar gostau uniongyrchol y gellir eu hawlio. Maent hefyd yn rhagnodi sut y mae cyfrifo gorbenion.

Nid yw'r Rheoliadau yn gymwys i gostau na threuliau y mae modd eu hadennill o ran unrhyw weithred yr ymgymerir â hi o ran trwydded a roddwyd o dan adran 50 o'r Ddeddf.