xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
PRIFFYRDD, CYMRU
Wedi'u gwneud
5 Gorffennaf 2005
Yn dod i rym
15 Gorffennaf 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 28(2) (fel y'i cymhwysir gan adran 121(2)), 118B(9) a (10) a 119B(12) a (13) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (“y Ddeddf”)(1) a pharagraffau 1(1) a (3)(b)(iv), 3(1), (2) a (3)(b), 4(1) a 6 o Atodlen 6 iddi, sef pwerau sydd bob un yn awr yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol(2), a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Priffyrdd (Ysgolion) (Gorchmynion Dileu Arbennig a Gwyro Arbennig) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
ystyr “Awdurdod” yw'r awdurdod priffyrdd perthnasol;
ystyr “gorchymyn” yw—
mae cyfeiriad at ffurf neu hysbysiad a ragnodir gan y Rheoliadau hyn yn cynnwys cyfeiriad at y ffurf honno neu'r hysbysiad hwnnw yn Gymraeg neu yn Saesneg (neu yn y ddwy iaith) ac at ffurf neu hysbysiad sy'n sylweddol yr un fath â'r rhai a ragnodir o ran ei heffaith neu ei effaith.
3.—(1) Os ymddengys i Awdurdod ei bod yn ofynnol i briffordd berthnasol sy'n croesi tir sy'n cael ei feddiannu at ddibenion ysgol —
(a)gael ei chau at ddiben a bennir yn adran 118B(1)(b) o'r Ddeddf gan orchymyn dileu arbennig, rhaid i'r gorchymyn fod ar y ffurf a geir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn;
(b)gael ei gwyro at ddiben a bennir yn adran 119B(1)(b) o'r Ddeddf gan orchymyn gwyro arbennig, rhaid i'r gorchymyn fod ar y ffurf a geir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i'r map y mae'n ofynnol ei gynnwys mewn gorchymyn fod ar raddfa nad yw'n llai nag 1/2,500 neu, os nad oes map o'r fath ar gael, fod ar y raddfa fwyaf sydd ar gael.
(3) Yn achos gorchymyn dileu arbennig, rhaid i'r map y cyfeirir ato ym mharagraff (2) ddangos unrhyw lwybr amgen sy'n rhesymol gyfleus.
4.—(1) Rhaid i hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi o dan baragraff 1(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf mewn cysylltiad â gwneud gorchymyn fod ar y ffurf a geir yn Ffurf 1 yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff 4(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf mewn cysylltiad â chadarnhau gorchymyn fod ar y ffurf a geir yn Ffurf 2 yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.
(3) Rhaid i hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff 4(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf mewn cysylltiad â gwneud gorchymyn gan y Cynulliad Cenedlaethol fod ar y ffurf a geir yn Ffurf 3 yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.
(4) Rhaid i hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff 1(3)(b)(iv)(5) neu 4(1)(a)(6) o Atodlen 6 i'r Ddeddf gael ei gyflwyno, yn ychwanegol, i'r personau a ragnodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn.
5.—(1) Rhaid bod dau gopi ar gael o orchymyn.
(2) Os cyflwynir gorchymyn i'r Cynulliad Cenedlaethol i'w gadarnhau, rhaid i'r gorchymyn a'r ail gopi gael eu hanfon at y Cynulliad Cenedlaethol, ynghyd â—
(a)dau gopi arall o'r gorchymyn;
(b)copi o'r hysbysiad a roddir o dan baragraff 1(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf;
(c)unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau sy'n ymwneud â'r gorchymyn, a wnaed yn briodol ac na chawsant eu tynnu'n ôl;
(ch)unrhyw sylwadau sydd gan yr Awdurdod ar y sylwadau neu'r gwrthwynebiadau hynny; a
(d)datganiad yn nodi ar ba seiliau, ym marn yr Awdurdod, y dylid cadarnhau'r gorchymyn.
(3) Caniateir cynnal unrhyw drafodion sy'n rhagarweiniol i gadarnhau gorchymyn dileu arbennig ar yr un pryd ag unrhyw drafodion sy'n rhagarweiniol i gadarnhau gorchymyn creu llwybr cyhoeddus(7), gorchymyn gwyro llwybr cyhoeddus(8), gorchymyn gwyro croesfan reilffordd(9) neu orchymyn gwyro arbennig.
(4) Ar ôl i benderfyniad i beidio â chadarnhau gorchymyn gael ei wneud, rhaid i'r Awdurdod, cyn gynted ag y cydymffurfir â gofynion paragraff 4(3) o Atodlen 6 i'r Ddeddf, roi ardystiad ysgrifenedig o'r ffaith honno i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(5) Ar ôl i orchymyn gael ei gadarnhau gan y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i'r Awdurdod, cyn gynted ag y cydymffurfir â gofynion paragraff 4(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf, roi ardystiad ysgrifenedig o'r ffaith honno i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(6) Ar ôl i orchymyn gael ei gadarnhau, rhaid i'r Awdurdod anfon copi o'r gorchymyn, fel y'i cadarnhawyd, at yr Arolwg Ordnans.
6.—(1) Rhaid i hawliad a wneir yn unol ag adran 28 o'r Ddeddf (digollediad am golled a achosir gan orchymyn creu llwybr cyhoeddus), fel y'i cymhwysir gan adran 121(2) o'r Ddeddf(10), a hynny o ganlyniad i weithredu gorchymyn, gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid iddo gael ei gyflwyno i'r Awdurdod neu, yn achos gorchymyn a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol, ei gyflwyno i'r Awdurdod a enwebir gan y Cynulliad Cenedlaethol, fel a ddarperir gan adran 28(3) o'r Ddeddf, a hynny drwy ei ddanfon i swyddfeydd yr Awdurdod neu'r awdurdod a enwebir gan y Cynulliad Cenedlaethol (yn ôl y digwydd), wedi'i gyfeirio at Brif Weithredwr yr awdurdod, neu drwy ei anfon yn rhagdaledig drwy'r post wedi'i gyfeirio felly.
(2) Rhaid i hawliad a wneir o dan baragraff (1) gael ei gyflwyno fel ei fod yn dod i law heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl y dyddiad y daeth y gorchymyn y gwneir yr hawliad mewn cysylltiad ag ef i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2005
Rheoliad 3(1)(a)
Rheoliad 3(1)(b)
Rheoliad 4(1) i (3)
Rheoliad 4(4)
ACU Motorcycling GB
Yr awdurdod sy'n cyflawni swyddogaethau awdurdod tân o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ar gyfer yr ardal lle y mae'r tir y mae'r Gorchymyn yn ymwneud ag ef wedi'i leoli
British Horse Society
Byways and Bridleways Trust
Cyclists Touring Club
Open Spaces Society
Cymdeithas y Cerddwyr
Cynghorau tref a chynghorau cymuned ar gyfer yr ardal lle y mae'r tir y mae'r gorchymyn yn ymwneud ag ef wedi'i leoli
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mewnosodwyd adrannau 118B a 119B o Ddeddf Priffyrdd 1980 (“Deddf 1980”) gan baragraffau 8 a 12 o Atodlen 6 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn y drefn honno. Maent yn galluogi gorchmynion i gael eu gwneud i gau (drwy gyfrwng “gorchymyn dileu arbennig”) a gwyro (drwy gyfrwng “gorchymyn gwyro arbennig”) briffyrdd penodol at ddibenion atal troseddu neu er mwyn amddiffyn disgyblion neu staff ysgolion.
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 15 Gorffennaf 2005, yn rhagnodi'r ffurfiau a'r hysbysiadau, ac yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn, ar gyfer gorchmynion dileu arbennig a gorchmynion gwyro arbennig sy'n ymwneud â phriffyrdd sy'n croesi tir sy'n cael ei feddiannu at ddibenion ysgol, ac sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn disgyblion neu staff. Bydd cymhwyso'r mathau hyn o orchmynion at ddibenion atal troseddu yn dod yn weithredol yn nes ymlaen.
Mae rheoliad 3 ac Atodlenni 1 a 2 yn rhagnodi ffurf gorchymyn dileu arbennig a gorchymyn gwyro arbennig yn y drefn honno.
Mae rheoliad 4(1) i (3) ac Atodlen 3 yn rhagnodi ffurf yr hysbysiadau sydd—
(a)i'w rhoi unwaith y bydd gorchymyn wedi'i wneud gan yr awdurdod priffyrdd perthnasol;
(b)i'w cyflwyno unwaith y bydd gorchymyn wedi'i gadarnhau; ac
(c)i'w cyflwyno unwaith y bydd gorchymyn wedi'i wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae rheoliad 4(4) ac Atodlen 4 yn rhagnodi personau ychwanegol y mae'r hysbysiadau a bennir yn y rheoliad hwnnw i'w cyflwyno iddynt.
Mae rheoliad 5 yn nodi'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn wrth gyflwyno ac wrth gadarnhau'r gorchmynion.
Mae rheoliad 6 yn rhagnodi'r gofynion o ran cyflwyno hawliadau am ddigollediad o dan adran 28 o Ddeddf 1980 a hynny am ddibrisiant neu aflonyddwch a ddaw yn sgil gorchymyn ac mae'n ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw hawliad o'r fath i'w gyflwyno fel ei fod yn dod i law o fewn 6 mis i'r dyddiad y daw'r gorchymyn i rym.
1980 p.66; mewnosodwyd adrannau 118B a 119B gan baragraffau 8 a 12 o Atodlen 6 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37); diwygiwyd adran 121(2) gan baragraff 14(3) o Atodlen 6 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37); gwnaed diwygiadau perthnasol i Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980 gan baragraff 23 o Atodlen 6 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i hestynnwyd gan adran 99 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
Gweler adran 118B(5) o'r Ddeddf.
Gweler adran 119B(5) o'r Ddeddf.
Amnewidiwyd paragraff 1(3)(b) gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p.69), Atodlen 16, paragraff 6.
Amnewidiwyd paragraff 4(1)(a) gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, Atodlen 16, paragraff 8.
Gweler adran 26(1) o'r Ddeddf.
Gweler adran 119(1) o'r Ddeddf.
Gweler adran 119A(3) o'r Ddeddf.
Diwygiwyd adran 121(2) o'r Ddeddf gan Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p.42), Atodlen 2, paragraff 6 a chan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37), Atodlen 6, paragraff 14.