3. Mae'r ffi sydd i'w thalu gan draddodai mewn perthynas ag unrhyw atebion chwarterol traddodai a roddir yn unol â rheoliad 53 fel a ganlyn—LL+C
(a)am unrhyw ateb a roddir yn ysgrifenedig, swm y meintiau canlynol ar gyfer pob llwyth a dderbyniwyd gan y traddodai yn ystod y chwarter—
(i)£10 am bob llwyth sy'n ffurfio rhan o amlgasgliad; a
(ii)£19 am unrhyw lwyth arall; a
(b)am unrhyw ateb a roddir ar ffurf electronig, swm y meintiau canlynol ar gyfer pob llwyth a dderbyniwyd gan y traddodai yn ystod y chwarter—
(i)£5 am bob llwyth sy'n ffurfio rhan o amlgasgliad; a
(ii)£10 am unrhyw lwyth arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 9 para. 3 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)