ATODLEN 9Y FFIOEDD TROSIANNOL A GODIR GAN YR ASIANTAETH
I13
Mae'r ffi sydd i'w thalu gan draddodai mewn perthynas ag unrhyw atebion chwarterol traddodai a roddir yn unol â rheoliad 53 fel a ganlyn—
a
am unrhyw ateb a roddir yn ysgrifenedig, swm y meintiau canlynol ar gyfer pob llwyth a dderbyniwyd gan y traddodai yn ystod y chwarter—
i
£10 am bob llwyth sy'n ffurfio rhan o amlgasgliad; a
ii
£19 am unrhyw lwyth arall; a
b
am unrhyw ateb a roddir ar ffurf electronig, swm y meintiau canlynol ar gyfer pob llwyth a dderbyniwyd gan y traddodai yn ystod y chwarter—
i
£5 am bob llwyth sy'n ffurfio rhan o amlgasgliad; a
ii
£10 am unrhyw lwyth arall.