ATODLEN 7SYMUD TRAWSFFINIOL YN Y DU O WASTRAFF PERYGLUS

Adnabod nodiadau traddodi trawsffiniol y DUI11

Yn ddarostyngedig i baragraff 4 a pharagraff 7, os yw gwastraff peryglus yn cael ei symud o fangre yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu Gibraltar a'i gludo i Gymru (“nodyn traddodi trawsffiniol i Gymru”), ni fydd unrhyw ofyniad i nodyn traddodi fynd gyda'r gwastraff o dan Ran 6 yn gymwys—

a

os bydd nodyn traddodi sydd wedi'i gwblhau yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu Gibraltar yn mynd gyda'r gwastraff; a

b

os yw'r nodyn yn cynnwys yr wybodaeth sy'n ofynnol gan y nodyn traddodi safonol a welir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 94/774 dyddiedig 24 Tachwedd 199437 (“nodyn traddodi trawsffiniol”).