RHAN 9ARGYFYNGAU A PHERYGL DIFRIFOL
Dyletswyddau cyffredinol yr AsiantaethI163
1
Rhaid i'r Asiantaeth arfer ei swyddogaethau (p'un ai o dan y Rheoliadau hyn neu fel arall) fel y bydd yn cymryd pob cam rhesymol ymarferol sy'n angenrheidiol neu'n hwylus i osgoi neu liniaru argyfwng neu berygl difrifol.
2
Rhaid i berson awdurdodedig wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas ag argyfwng neu berygl difrifol arfer ei bwerau o dan adrannau 108 a 109 o Ddeddf 1995 er mwyn cymryd pob cam sy'n rhesymol ymarferol i osgoi neu liniaru'r argyfwng neu'r perygl difrifol.