- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
62.—(1) Mewn achosion o argyfwng neu berygl difrifol, rhaid i ddeiliad gwastraff peryglus—
(a)cymryd pob cam cyfreithlon a rhesymol i osgoi argyfwng neu berygl difrifol; neu
(b)os nad yw'n rhesymol ymarferol i gydymffurfio â pharagraff (a), cymryd pob cam cyfreithlon a rhesymol i liniaru'r argyfwng neu berygl difrifol.
(2) At ddibenion paragraff (1), gellid ystyried gweithred neu anweithred yn gyfreithlon er y byddai, heblaw am y rheoliad hwn, yn ffurfio toriad yn y Rheoliadau hyn.
(3) Os yw deiliad gwastraff peryglus yn gwybod neu os oes ganddo sail resymol dros gredu bod argyfwng neu berygl difrifol wedi codi, rhaid iddo hysbysu'r Asiantaeth o'r amgylchiadau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(4) Os bydd y deiliad yn cymryd unrhyw gam sy'n cydymffurfio â pharagraff (1), rhaid iddo, oni fydd y cam hwnnw wedi llwyr osgoi'r argyfwng neu'r perygl difrifol heb dorri'r Rheoliadau hyn, hysbysu'r Asiantaeth cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(5) At ddibenion paragraff (4), bernir na fydd argyfwng neu berygl difrifol wedi cael ei osgoi'n llwyr os rhyddhawyd unrhyw sylwedd neu wrthrych sydd yn wastraff peryglus, neu os oes sail resymol dros gredu hynny, p'un a yw'r deiliad yn credu ai peidio ei fod wedi llwyr ddifetha'r sylwedd neu'r gwrthrych, eu hadennill neu beri nad oes dim niwed ynddynt.
(6) Os digwydd hysbysiad yn unol â pharagraff (3) neu (4) os hysbysir yn llafar, rhaid i'r deiliad gadarnhau yn ysgrifenedig i'r Asiantaeth y materion a hysbyswyd o fewn un wythnos ar ôl yr hysbysiad llafar.
(7) At ddibenion y rheoliad hwn nid yw person i'w ryddhau o unrhyw ofyniad a osodir gan y rheoliad hwn ddim ond am ei fod wedi peidio â bod yn ddeiliad oherwydd bod y gwastraff wedi mynd o'i feddiant neu ei reolaeth oherwydd y rhyddhad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: