RHAN 7COFNODION AC ATEBION
Cofnodion cynhyrchydd a chofnodion cludo
Hawl deiliad blaenorol i gael gwybodaeth52
1
Mae dyletswydd gan sefydliad neu ymgymeriad y traddodir gwastraff peryglus iddo ar gyfer gwaredu neu adfer, yn ôl y digwydd, i unrhyw ddeiliad blaenorol y gwastraff, i roi i'r deiliad blaenorol hwnnw dystiolaeth ddogfennol pan ofynnir amdani bod y gweithrediad gwaredu neu adfer o dan sylw wedi'i gyflawni, sy'n dangos, pan fo'n gymwys, yr eitem berthnasol a restrir yn Atodiad IIA neu Atodiad IIB, yn ôl y digwydd, i'r Gyfarwyddeb Wastraff.
2
Rhaid i unrhyw gais am wybodaeth o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu o fewn pa gyfnod (na chaniateir iddo fod yn llai na saith niwrnod) y mae'r wybodaeth i'w darparu.