RHAN 5HYSBYSU'R FANGRE

Dehongli'n gyffredinol Ran 5I1I2I132

Yn y Rhan hon—

  • mae i “amser effeithiol” (“effective time”) yr ystyr a roddir gan reoliad 28;

  • ystyr “cludwr cofrestredig” (“registered carrier”) yw cludwr a gofrestrwyd yn unol â Deddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 198932;

  • mae i “cyfnod hysbysu” (“period of notification”) yr ystyr a roddir gan reoliad 21(2);

  • ystyr “Deddf 1963” (“the 1963 Act”) yw Deddf Swyddfeydd, Siopau a Mangreoedd Rheilffyrdd 196333;

  • ystyr “ffi berthnasol” (“relevant fee”) yw'r ffi sy'n daladwy yn ôl cynllun a wnaed yn unol ag adran 41 o Ddeddf 1995;

  • mae i “cyfarpar gwastraff trydanol ac electronig” yr ystyr a roddir i “waste electrical and electronic equipment” yng Nghyfarwyddeb 2002/96/EC34;

  • mae i “mangre a hysbyswyd” (“notified premises”) yr ystyr a roddir gan reoliad 21(2);

  • ystyr “mangre berthnasol” (“relevant premises”) yw'r fangre y mae'n ofynnol i'r cynhyrchydd neu'r traddodwr ei hysbysu;

  • mae i “mangre esempt” (“exempt premises”) yr ystyr a roddir gan reoliad 23;

  • mae i “mangre gwasanaeth” (“service premises”) yr ystyr a roddir gan reoliad 29(1);

  • ystyr “mangre gysylltiedig” (“related premises”) yw mangre safle lle mae gwasanaeth symudol yn cynhyrchu gwastraff y mae mangre safle yn fangre berthnasol ar ei gyfer yn unol â rheoliad 29;

  • ystyr “mangre safle” (“site premises”) yw mangre lle mae gwastraff peryglus yn cael ei gynhyrchu;

  • mae i “mangre siop” yr ystyr a roddir i “shop premises” gan adran 1(3) o Ddeddf 1963; a

  • mae i “mangre swyddfa” yr ystyr a roddir i “office premises” gan adran 1(2)(a) o Ddeddf 1963.