- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
26.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys p'un a roddir hysbysiad gan neu ar ran y cynhyrchydd neu'r traddodwr.
(2) Gellir rhoi hysbysiad o'r fangre berthnasol yn ysgrifenedig neu dros y ffôn.
(3) Ni cheir rhoi hysbysiad heb gydsyniad yr Asiantaeth fwy nag un mis ymlaen llaw i'r amser y bydd yn effeithiol.
(4) Rhaid i'r person sy'n rhoi'r hysbysiad roi'r wybodaeth ganlynol i'r Asiantaeth—
(a)ei enw a'i gyfeiriad a manylion sut y gellir cysylltu ag ef, ac os yw'n hysbysu ar ran person arall, enw a chyfeiriad y person hwnnw a manylion sut y gellir cysylltu â'r person hwnnw;
(b)cyfeiriad y fangre sy'n cael ei hysbysu;
(c)dosbarthiad y fangre yn unol â'r SIC; ac
(ch)unrhyw wybodaeth arall y gall yr Asiantaeth yn rhesymol ofyn amdani mewn cysylltiad â'i swyddogaethau monitro symud gwastraff peryglus, neu arolygu yn unol â rheoliad 56 o'r Rheoliadau hyn neu baragraff 13 o Atodlen 4 i Reoliadau 1994.
(5) Os bydd unrhyw newidiadau yn yr wybodaeth sy'n cael ei darparu yn unol â pharagraff (4) yn ystod y cyfnod hysbysu, nid yw'r fangre i'w thrin fel mangre sydd wedi'i hysbysu tan fydd yr Asiantaeth wedi cael yr wybodaeth sydd wedi'i diweddaru yn y fath fodd ag i fodloni gofynion paragraff (4).
(6) Caiff yr Asiantaeth ragnodi model wedi ei fformadu i hysbysu mangre yn ysgrifenedig ac, os rhagnodir fformat am y tro yn unol â'r paragraff hwn—
(a)rhaid i'r Asiantaeth gyhoeddi'r model wedi'i fformadu ar ei gwefan ac mewn modd arall y mae'n ystyried sy'n briodol i hysbysu personau y mae'n ofynnol iddynt hysbysu'r fangre o'i gynnwys; a
(b)nid yw'r Asiantaeth yn gorfod ystyried unrhyw hysbysiad oni chafodd ei wneud yn y model hwnnw a fformadwyd, neu mewn fformat ag effaith sylweddol debyg.
(7) Rhaid i'r person sy'n hysbysu dalu i'r Asiantaeth y ffi berthnasol sy'n daladwy ar gyfer hysbysu'r fangre ar yr un pryd ag y rhoddir yr hysbysiad (ond nid oes unrhyw ffioedd yn daladwy mewn perthynas â gwybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (5)).
(8) Os gofynnir iddi wneud hynny, rhaid i'r Asiantaeth hysbysu person sy'n ddeiliad gwastraff peryglus neu sy'n cynnal busnes traddodi neu gasglu gwastraff peryglus p'un a yw unrhyw fangre lle mae'r person hwnnw yn bwriadu symud, peri symud neu gludo unrhyw wastraff peryglus yn fangre a hysbyswyd, ac os felly, y manylion sydd gan yr Asiantaeth ynghylch y person a hysbysodd y fangre ac amser effeithiol yr hysbysiad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: