Diwygio Rhan I o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
6.—(1) Diwygier Rhan I o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (cyfrifo adnoddau) fel a ganlyn.
(2) Diwygier Tabl A (addasu darpariaethau Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 at ddibenion Rhan I o'r Atodlen hon) yn unol â darpariaethau canlynol y paragraff hwn—
(a)yn y cofnod sy'n addasu rheoliad 38 hepgorer y cofnod sy'n ymwneud â pharagraffau (5), (6), (7) ac (8);
(b)yn y cofnod sy'n addasu rheoliad 41 yn lle'r geiriau “subsequent review” rhodder “the date of that supersession”;
(c)yn y cofnod sy'n addasu rheoliad 44 yn lle'r geiriau “subsequent review” rhodder “the date of that supersession”;
(ch)yn y cofnod sy'n addasu rheoliad 45—
(i)yn lle “£20,000” rhodder “£21,000”, a
(ii)yn lle “£12,250” rhodder “ £14,750”;
(d)yn y cofnod sy'n addasu rheoliad 49 yn lle'r geiriau “subsequent review” rhodder “date of that supersession”;
(dd)Yn y cofnod sy'n addasu rheoliad 53—
(i)yn lle “£12,250” rhodder “£14,750”, a
(ii)yn lle “£20,000” rhodder “£21,000”;
(e)yn lle'r cofnod sy'n addasu rheoliad 61 rhodder—
“regulation 61 | In paragraph (1) in the definition of “academic year” after “September” insert “, or 1st August in the case of student attending a course in Scotland”.”; |
(f)hepgorer y cofnodion sy'n addasu rheoliadau 62(3A), 63(2) a 64(1)(c);
(ff)yn y cofnod sy'n addasu rheoliad 66A hepgorer y geiriau “As if in paragraph (3)” hyd at “the reference “(1) to (2C)”.”;
(g)yn y cofnod sy'n addasu Atodlen 8—
(i)hepgorer y cofnod sy'n dechrau “In paragraph 4(2)” ,
(ii)yn y man priodol yn nhrefn y Rhif au mewnosoder y cofnod canlynol—
““For paragraph 4(3) substitute the following paragraph—
(3) This paragraph applies where—
(a)the claimant is aged not less than 60 years; or
(b)the claimant is a member of a couple, where at least one partner is aged not less than 60 years”.”,
(iii)yn lle'r geiriau “As if sub-paragraphs (3), (4), (5), (6) and (7) of paragraph 4 were omitted” rhodder “ In paragraph 4 omit sub-paragraph (3)”. ” ,
(iv)hepgorer y cofnod sy'n addasu paragraff 5, a
(v)yn lle'r cofnod sy'n diwygio paragraff 7 rhodder—
“In paragraph 7 for the words “ 4 to 6B” substitute “none of paragraphs 4 or 5 or 6A or 6B”.”.