- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
28 Mehefin 2005
Yn dod i rym
15 Gorffennaf 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 105, 108, 150 a 152 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(1):
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2003” (“2003 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003(2).
2. Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau 2003 rhodder y diffiniad a ganlyn lle bynnag y bo'n briodol —
“mae i “partner sifil” yr ystyr a roddir i “civil partner” yn adran 1(1) o Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004(3)”.
3. Mewnosodir y geiriau “yn bartner sifil,” ar ôl y geiriau “yn briod,” yn rheoliad 4(3)(c), (ch) a (d) o Reoliadau 2003.
4. Rhodder y testun a ganlyn yn lle rheoliad 4(5) o Reoliadau 2003 —
“(5) Y pedwerydd amod yw bod y person heb gyrraedd safon cymhwyster addysgol sy'n uwch na Lefel 2 neu ei chyfwerth fel a nodwyd yn y fframwaith cymwysterau cenedlaethol, oni bai bod y person hwnnw yn cael budd-daliadau neu lwfansau a restrir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, neu ei fod yn ddibynnydd person o'r fath.”
5. Yn Rheoliadau 2003 mewnosoder yr Atodlen fel a geir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mehefin 2005
Rheoliad 4
Rheoliad 4(5)
1. Budd-dal Treth Gyngor
2. Budd-dal Tai
3. Cymhorthdal Incwm
4. Lwfans Ceisio Gwaith (Ar Sail Incwm)
5. Credyd Pensiwn (Cynilion)
6. Credyd Pensiwn (Gwarant)
7. Credyd Treth Gwaith.”
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003 (“Rheoliadau 2003”) yn y ddwy ffordd ganlynol.
Mewnosodir y term “partner sifil” yn Rheoliadau 2003. O ganlyniad i hynny, mae partner sifil yn gyfartal â phriod, plentyn neu lysblentyn o ran cymhwyster o dan reoliad 4 o Reoliadau 2003. Diffinnir “civil partner” yn adran 1(1) o Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004.
Diwygir rheoliad 4(5) o Reoliadau 2003 i wneud personau sy'n cael budd-daliadau neu lwfansau penodedig, neu'u dibynyddion, yn gymwys i gael Cyfrif Dysgu Unigol Cymru, ni waeth pa lefel o addysg y maent wedi'i chyrraedd. Mewnosodir Atodlen yn Rheoliadau 2003 sy'n pennu pa fudd-daliadau a lwfansau sy'n gymwys.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: