Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2005

Terfynau ymfudiad ar gyfer ffilm seliwlos a adfywiwyd gyda chaenen o blastigau

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb weithgynhyrchu na mewnforio unrhyw ddeunydd neu eitem a wnaed gyda ffilm seliwlos a adfywiwyd gyda chaenen o blastigau —

(a)y bwriedir iddi ddod i gysylltiad â bwyd; a

(b)sydd â'r gallu i drosglwyddo ei chyfansoddion i fwyd mewn mesurau sy'n fwy na therfyn ymfudiad cyffredinol o 10 miligram y decimetr sgwâr o wyneb y deunydd neu'r eitem mewn cysylltiad â bwyd.

(2Yn achos unrhyw ddeunydd neu eitem a wnaed gyda ffilm seliwlos a adfywiwyd gyda chaenen o blastigau —

(a)sy'n gynhwysydd neu'n gymharol â chynhwysydd y gellir ei lenwi ac iddo gynhwysedd nad yw'n llai na 500 mililitr a dim mwy na 10 litr; neu

(b)y gellir ei llenwi a'i bod yn anymarferol i amcangyfrif arwynebedd yr wyneb mewn cysylltiad â bwyd; neu

(c)sy'n gap, gasged, caead neu ddyfais debyg ar gyfer selio,

y terfyn ymfudiad cyffredinol fydd 60 miligram o gyfansoddion a drosglwyddir y cilogram o fwyd.

(3Ni chaiff neb weithgynhyrchu na mewnforio unrhyw ddeunydd neu eitem a wnaed o ffilm seliwlos a adfywiwyd gyda chaenen o blastigau a weithgynhyrchwyd gydag unrhyw sylweddau a restrir yn Rhan I o Atodlen 1 i Reoliadau 1998 (monomerau awdurdodedig) —

(a)y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd; a

(b)sydd â'r gallu i drosglwyddo eu cyfansoddion i fwyd mewn mesurau sy'n fwy na'r terfynau ymfudiad penodol a nodir yng ngholofn 4 o'r Rhan honno fel y'i darllenir gyda Rhan II o'r Atodlen honno.

(4Os mynegir y terfyn ymfudiad ar gyfer sylwedd a grybwyllir ym mharagraff (3) mewn miligramau y cilogram, yn achos ffilm seliwlos a adfywiwyd gyda chaenen o blastigau —

(a)sy'n gynhwysydd neu'n gymharol â chynhwysydd y gellir ei lenwi ac iddo gynhwysedd sy'n llai na 500 mililitr neu'n fwy na 10 litr; neu

(b)na ellir ei llenwi neu ei bod yn anymarferol i amcangyfrif y berthynas rhwng arwynebedd wyneb y ffilm a mesur y bwyd mewn cysylltiad â hi,

rhaid rhannu'r terfyn ymfudiad gan y ffactor trosi 6 er mwyn ei fynegi mewn miligramau o gyfansoddion a drosglwyddwyd fesul decimetr sgwâr o'r deunydd neu'r eitem mewn cysylltiad â bwyd.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid cynnal gwiriad cydymffurfio â therfynau ymfudiad yn unol â darpariaethau Atodlenni 3 a 4 o Reoliadau 1998 fel y'u darllenir gyda rheoliad 6 o'r Rheoliadau hynny ac at ddibenion y paragraff hwn dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at ddeunydd plastig neu eitem blastig fel cyfeiriad at ffilm seliwlos a adfywiwyd â chaenen blastig.

(6Ni fydd paragraff (5) yn gymwys mewn unrhyw amgylchiadau pan fydd rheoliad 7(1) neu (2) yn gymwys.