xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1647 (Cy.128)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

21 Mehefin 2005

Yn dod i rym

24 Mehefin 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(2), 17(1) a (2), 26(1)(a) a (3), 31a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2) ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2005, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 24 Mehefin 2005.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “Cyfarwyddeb 93/10/EEC” (“Directive 93/10/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 93/10/EEC sy'n ymwneud â deunyddiau ac eitemau wedi'u gwneud o ffilm seliwlos a adfywiwyd y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(4);

ystyr “y Ddeddf (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “ffilm seliwlos a adfywiwyd” (“regenerated cellulose film”) yw deunydd haenen denau a gafwyd o seliwlos a goethwyd sy'n deillio o bren neu gotwm nas ailgylchwyd, gydag ychwanegiad o sylweddau addas neu beidio, naill ai yn y màs neu ar un arwyneb neu'r ddau arwyneb, ond nad yw'n cynnwys casinau synthetig o seliwlos a adfywiwyd;

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig neu ddangos rhywbeth i'w werthu ac mae'n cynnwys cael rhywbeth yn eich meddiant i'w werthu, a rhaid deall “sale” a “sold” yn unol â hynny;

ystyr “mewnforio” (“import”) yw mewnforio wrth gynnal busnes o le heblaw o Aelod-wladwriaeth;

mae “paratoi” (“preparation”) o ran bwyd yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw fath o brosesu neu drin;

ystyr “plastigau” (“plastics”) yw'r deunyddiau a'r eitemau hynny y mae Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC sy'n ymwneud â deunyddiau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd yn gymwys iddynt(5);

ystyr “Rheoliad 1935/2004” (“Regulation 1935/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac sy'n diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 89/109/EEC(6); ac

ystyr “Rheoliadau 1998” (“the 1998 Regulations”) yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998(7);

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Erthygl â Rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn Rheoliad 1935/2004.

(3Mae i ymadroddion Saesneg eraill a'r ymadroddion Cymraeg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 1935/2004 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Rheoliad hwnnw.

Cwmpas

3.  Nid yw darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r deunyddiau ac eitemau hynny a bennir yn is-baragraffau (a), (b) ac (c) o Erthygl 1(3).

RHAN 2Gofynion Cyffredinol ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau

Gorfodi Rheoliad 1935/2004

4.  Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Erthygl 27 (trefniadau trosiannol), bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Rheoliad 1935/2004 yn euog o dramgwydd —

(a)Erthygl 3 (gofynion cyffredinol);

(b)Erthygl 4 (gofynion penodedig ar gyfer deunyddiau ac eitemau adweithiol a deallus);

(c)Erthygl 11(4) a (5) (darpariaethau sy'n ymwneud ag awdurdodiad y Gymuned);

(ch)Erthygl 15(1), (2), (3), (4), (7) ac (8) (labelu);

(d)Erthygl 16(1) (datganiad o gydymffurfio);

(dd)ar neu ar ôl 27 Hydref 2006, Erthygl 17(2) (gallu olrhain).

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1935/2004

5.  Dynodir y cyrff canlynol fel awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau Rheoliad 1935/2004 fel a bennir isod —

(a)o ran Eitemau 9 a 13, yr Asiantaeth;

(b)o ran Eitemau 16(1) a 17(2), yr Asiantaeth a'r awdurdod sy'n gyfrifol am orfodi yn unol â rheoliad 12(1).

RHAN 3Y gofynion ar gyfer Finyl Clorid

Terfynau a therfynau ymfudiad

6.—(1O ran deunyddiau ac eitemau a weithgynhyrchir gan bolymerau finyl clorid neu gopolymerau —

(a)rhaid iddynt beidio â chynnwys monomer finyl clorid mewn mesur sy'n fwy nag 1 miligram y cilogram o'r deunydd neu eitem fel y'i mesurir drwy'r dull dadansoddi a bennir yn rheoliad 7(1); a

(b)rhaid iddynt gael eu gweithgynhyrchu yn y fath fodd nad ydynt yn trosglwyddo i fwydydd y maent mewn cysylltiad â hwy unrhyw fesur o finyl clorid sy'n fwy na 0.01 miligram o finyl clorid y cilogram o fwyd fel y'i mesurir drwy'r dull dadansoddi a bennir yn rheoliad 7(2).

(2Ni chaiff neb —

(a)gwerthu;

(b)mewnforio; neu

(c)defnyddio wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd,

unrhyw ddeunydd neu eitem o'r fath nad yw'n cydymffurfio â'r rheoliad hwn.

Dulliau Dadansoddi

7.—(1Y dull i'w ddefnyddio wrth ddadansoddi unrhyw sampl at ddibenion sefydlu mesur y monomer finyl clorid sy'n bresennol yn y deunydd neu'r eitem er mwyn penderfynu a yw'n cydymffurfio â rheoliad 6(1)(a) fydd y dull a bennir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn Rhif 80/766/EEC (sy'n gosod dull dadansoddi'r Gymuned ar gyfer rheolaeth swyddogol lefel monomer finyl clorid mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd)(8).

(2Y dull i'w ddefnyddio wrth ddadansoddi unrhyw fwyd at ddibenion sefydlu mesur y finyl clorid sy'n bresennol yn y bwyd er mwyn penderfynu a yw deunydd neu eitem sydd neu a fu mewn cysylltiad â'r bwyd yn cydymffurfio â rheoliad 6(1)(b) fydd y dull a bennir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn Rhif 81/432/EEC (sy'n gosod dull dadansoddi'r Gymuned ar gyfer rheolaeth swyddogol finyl clorid a ryddhawyd gan ddeunydd ac eitemau i fwydydd)(9).

RHAN 4Y Gofynion ar gyfer Ffilm Seliwlos a Adfywiwyd

Rheolaethau a therfynau

8.—(1Mae'r Rhan hon yn gymwys i ffilm seliwlos a adfywiwyd —

(a)sydd ynddo'i hun yn ffurfio cynnyrch gorffenedig; neu

(b)sy'n rhan o gynnyrch gorffenedig sy'n cynnwys deunyddiau eraill,

ac y bwriedir iddi ddod i gysylltiad â bwyd, neu wrth ei defnyddio i'r diben hwnnw ei bod yn dod i gysylltiad â bwyd.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y rheoliad hwn at Atodiad II yn gyfeiriad at Atodiad II i Gyfarwyddeb 93/10/EEC.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ni chaiff unrhyw berson weithgynhyrchu unrhyw ffilm seliwlos a adfywiwyd y bwriedir iddi ddod i gysylltiad â bwyd sy'n defnyddio unrhyw sylwedd neu grwp o sylweddau heblaw'r sylweddau a enwir neu a ddisgrifir —

(a)yng ngholofn gyntaf (enwau) Atodiad II yn yr achos —

(i)ffilm heb gaenen; neu

(ii)ffilm â chaenen os yw'r gaenen yn deillio o seliwlos;

(b)yng ngholofn gyntaf Rhan Gyntaf Atodiad II yn achos ffilm sydd i gael caenen, os ffurfir y gaenen o blastigau;

onid yw'n unol â'r amodau a'r cyfyngiadau a bennir yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn o'r Rhan briodol o Atodiad II, fel y'i darllenir gyda'r rhaglith i'r Atodiad hwnnw.

(4Ni chaiff neb weithgynhyrchu unrhyw gaenen sydd i'w rhoi ar ffilm y cyfeirir ati ym mharagraff (3)(b) sy'n defnyddio unrhyw sylwedd neu grwp o sylweddau heblaw'r sylweddau a restrir yn Atodlen 1, 2 neu 2A i Reoliadau 1998 onid yw'n unol â'r gofynion, cyfyngiadau a manylebau priodol a geir yn y Rheoliadau hynny ac yn yr Atodlenni iddynt.

(5Caniateir defnyddio sylweddau heblaw'r rhai a restrir yn Atodiad II fel lliwyddion neu ludyddion wrth weithgynhyrchu ffilm y mae paragraff (3)(a) yn gymwys iddi, ar yr amod y gweithgynhyrchir y ffilm honno yn y fath fodd nad yw'n trosglwyddo unrhyw liwydd neu ludydd i fwyd mewn unrhyw fesur y gellir ei ganfod.

(6Yn ddarostyngedig i reoliad 10 ni chaiff neb —

(a)gwerthu;

(b)mewnforio; neu

(c)defnyddio wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd,

unrhyw ffilm seliwlos a adfywiwyd a weithgynhyrchwyd yn groes i ofynion paragraff (3) neu (4), neu sy'n methu cydymffurfio â pharagraff (8).

(7Ni chaiff neb ddefnyddio wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd —

(a)os yw'r bwyd yn cynnwys dwr sy'n gorfforol rydd ar yr wyneb, unrhyw ffilm seliwlos a adfywiwyd sy'n cynnwys bis(2-hydrocsyethyl) ether, ethanediol neu'r ddau sylwedd hyn;

(b)unrhyw ffilm seliwlos a adfywiwyd yn y fath fodd y bydd unrhyw wyneb printiedig o'r ffilm honno'n dod i gysylltiad â'r bwyd.

(8Rhaid i ddatganiad ysgrifenedig sy'n tystio ei fod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth sy'n gymwys ar ei gyfer fynd gydag unrhyw ddeunydd neu eitem a wnaed o ffilm seliwlos a adfywiwyd yn y cyfnod marchnata ac eithrio'r cyfnod adwerthu, onis bwriedir iddo yn amlwg yn ôl ei natur ddod i gysylltiad â bwyd.

Terfynau ymfudiad ar gyfer ffilm seliwlos a adfywiwyd gyda chaenen o blastigau

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb weithgynhyrchu na mewnforio unrhyw ddeunydd neu eitem a wnaed gyda ffilm seliwlos a adfywiwyd gyda chaenen o blastigau —

(a)y bwriedir iddi ddod i gysylltiad â bwyd; a

(b)sydd â'r gallu i drosglwyddo ei chyfansoddion i fwyd mewn mesurau sy'n fwy na therfyn ymfudiad cyffredinol o 10 miligram y decimetr sgwâr o wyneb y deunydd neu'r eitem mewn cysylltiad â bwyd.

(2Yn achos unrhyw ddeunydd neu eitem a wnaed gyda ffilm seliwlos a adfywiwyd gyda chaenen o blastigau —

(a)sy'n gynhwysydd neu'n gymharol â chynhwysydd y gellir ei lenwi ac iddo gynhwysedd nad yw'n llai na 500 mililitr a dim mwy na 10 litr; neu

(b)y gellir ei llenwi a'i bod yn anymarferol i amcangyfrif arwynebedd yr wyneb mewn cysylltiad â bwyd; neu

(c)sy'n gap, gasged, caead neu ddyfais debyg ar gyfer selio,

y terfyn ymfudiad cyffredinol fydd 60 miligram o gyfansoddion a drosglwyddir y cilogram o fwyd.

(3Ni chaiff neb weithgynhyrchu na mewnforio unrhyw ddeunydd neu eitem a wnaed o ffilm seliwlos a adfywiwyd gyda chaenen o blastigau a weithgynhyrchwyd gydag unrhyw sylweddau a restrir yn Rhan I o Atodlen 1 i Reoliadau 1998 (monomerau awdurdodedig) —

(a)y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd; a

(b)sydd â'r gallu i drosglwyddo eu cyfansoddion i fwyd mewn mesurau sy'n fwy na'r terfynau ymfudiad penodol a nodir yng ngholofn 4 o'r Rhan honno fel y'i darllenir gyda Rhan II o'r Atodlen honno.

(4Os mynegir y terfyn ymfudiad ar gyfer sylwedd a grybwyllir ym mharagraff (3) mewn miligramau y cilogram, yn achos ffilm seliwlos a adfywiwyd gyda chaenen o blastigau —

(a)sy'n gynhwysydd neu'n gymharol â chynhwysydd y gellir ei lenwi ac iddo gynhwysedd sy'n llai na 500 mililitr neu'n fwy na 10 litr; neu

(b)na ellir ei llenwi neu ei bod yn anymarferol i amcangyfrif y berthynas rhwng arwynebedd wyneb y ffilm a mesur y bwyd mewn cysylltiad â hi,

rhaid rhannu'r terfyn ymfudiad gan y ffactor trosi 6 er mwyn ei fynegi mewn miligramau o gyfansoddion a drosglwyddwyd fesul decimetr sgwâr o'r deunydd neu'r eitem mewn cysylltiad â bwyd.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid cynnal gwiriad cydymffurfio â therfynau ymfudiad yn unol â darpariaethau Atodlenni 3 a 4 o Reoliadau 1998 fel y'u darllenir gyda rheoliad 6 o'r Rheoliadau hynny ac at ddibenion y paragraff hwn dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at ddeunydd plastig neu eitem blastig fel cyfeiriad at ffilm seliwlos a adfywiwyd â chaenen blastig.

(6Ni fydd paragraff (5) yn gymwys mewn unrhyw amgylchiadau pan fydd rheoliad 7(1) neu (2) yn gymwys.

Arbed a darpariaethau trosiannol ac amddiffyniadau

10.—(1Er gwaethaf y dirymiadau yn rheoliad 16, o ran ffilm seliwlos a adfywiwyd a weithgynhyrchwyd cyn 29 Ebrill 1994 bydd yr amddiffyniadau yn rheoliad 6A o Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd 1987(10) yn gymwys o ran tramgwyddau o dan y Rheoliadau hyn yn yr un modd ac yr oeddent yn gymwys i dramgwyddau o dan y darpariaethau cyfatebol yn y Rheoliadau hynny.

(2Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan reoliad 8(3), (4), (6) neu (7), neu reoliad 9(1) neu (3) bydd yn amddiffyniad i brofi —

(a)y cyflawnwyd y weithred sy'n gwneud y tramgwydd ynghylch deunydd neu eitem a wnaed gyda ffilm seliwlos a adfywiwyd a weithgynhyrchwyd yn y Gymuned Ewropeaidd neu a fewnforiwyd iddi cyn 29 Ionawr 2006; a

(b)na fyddai'r weithred sy'n gwneud y tramgwydd wedi gwneud tramgwydd o dan Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd 1987 yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(3Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i brofi y bwriadwyd y deunydd neu'r eitem yr honnir bod tramgwydd wedi'i gyflawni yn ei gylch neu yn ei chylch ar gyfer ei allforio neu ei hallforio i wlad y mae ganddi ddeddfwriaeth gydweddol i'r Rheoliadau hyn a bod y deunydd neu'r eitem yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno.

RHAN 5Cyffredinol

Tramgwyddau a chosbau

11.—(1Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau rheoliad 6(2), 8(3), (4), (6) neu (7), neu 9(1) neu (3) yn euog o dramgwydd.

(2Bydd unrhyw berson sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) neu o dan reoliad 4 yn agored —

(a)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu'r ddau;

(b)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na chwe mis, neu'r ddau.

Gorfodi

12.—(1Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth weithredu a gorfodi —

(a)darpariaethau Rheoliad 1935/2004 a grybwyllir yn rheoliad 4, a

(b)y Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i'r Asiantaeth hefyd weithredu a gorfodi darpariaethau Erthyglau 16(1) a 17(2).

Dadansoddi gan Fferyllydd y Llywodraeth

13.—(1Caiff y llys lle dygir unrhyw achosion ger ei fron o dan y Rheoliadau hyn, os yw o'r farn bod hynny'n briodol at ddibenion yr achosion, beri —

(a)bod unrhyw ddeunydd neu eitem sy'n destun yr achosion, ac os cawsant brofion eisoes y gellir rhoi profion pellach iddynt, neu

(b)bod unrhyw fwyd a fu mewn cysylltiad ag unrhyw ddeunydd neu eitem o'r fath,

yn cael eu hanfon at Fferyllydd y Llywodraeth a fydd yn cyflawni'r profion hynny y mae'n barnu eu bod yn briodol a throsglwyddo tystysgrif o'r canlyniad i'r llys, a thelir costau'r profion hynny gan yr erlynydd neu gan y person a gyhuddwyd yn ôl gorchmyniad y llys.

(2Os ceir achos pan ddygir apêl ond na chymerwyd camau o dan baragraff (1), bydd darpariaethau'r paragraff hwnnw'n gymwys o ran y llys sy'n gwrando ar yr apêl.

(3Rhaid i unrhyw dystysgrif o'r canlyniad i'r profion a drosglwyddir gan Fferyllydd y Llywodraeth o dan y rheoliad hwn gael ei llofnodi gan Fferyllydd y Llywodraeth neu ar ei ran, ond gellir gwneud y profion gan unrhyw berson o dan gyfarwyddyd y person sy'n llofnodi'r dystysgrif.

(4Rhaid ystyried bod unrhyw dystysgrif a drosglwyddir gan Fferyllydd y Llywodraeth yn unol â pharagraff (3) yn dystiolaeth o'r ffeithiau a nodir ynddi oni fydd unrhyw barti i'r achos yn gofyn i'r person a lofnododd y dystysgrif gael ei alw yn dyst.

(5Yn y rheoliad hwn mae'r term “profion” yn cynnwys archwiliad a dadansoddiad, a dehonglir “profi” yn unol â hynny.

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf

14.—(1Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);

(b)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(c)adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy) gyda'r addasiad y bernir yn is-adran (4) bod y cyfeiriadau at “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placing on the market”;

(ch)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(d)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3) isod;

(dd)adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3) isod;

(e)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(f)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Sgotaidd).

(2Wrth gymhwyso adran 32 o'r Ddeddf (pwerau mynediad) at ddibenion y Rheoliadau hyn, dehonglir y cyfeiriadau yn is-adran (1) i'r Ddeddf fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at Reoliad 1935/2004.

(3Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf fel cyfeiriad at Reoliad 1935/2004 a'r Rheoliadau hyn —

(a)adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta) gyda'r addasiadau y bernir bod cyfeiriadau at “sold” a “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placed on the market” a “placing on the market” yn eu trefn;

(b)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(c)adran 33(2) gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath ag a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (b);

(ch)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n ymddwyn yn ddidwyll).

(4Mae adran 34 o'r Ddeddf (terfyn amser ar gyfer erlyn) yn gymwys i dramgwyddau o dan y Rheoliadau hyn fel y mae'n gymwys i dramgwyddau y gellir eu cosbi o dan adran 35(2) o'r Ddeddf.

Diwygiadau i Reoliadau 1998

15.—(1Diwygir Rheoliadau 1998 o ran Cymru yn unol â pharagraffau (2) i (6).

(2Yn rheoliad 2 (dehongli) —

(a)hepgorer y diffiniad o “the 1987 Regulations”;

(b) ar ôl y diffiniad o “the 1992 Regulations” mewnosoder y diffiniad canlynol —

“the 2005 Regulations” means the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2005(11);.

(3Ym mharagraff (1)(b) o reoliad 6 (dull o brofi gallu deunyddiau neu eitemau plastig i drosglwyddo cyfansoddion a dulliau dadansoddi) yn lle “regulation 14(2) of the 1987 Regulations” rhodder “regulation 7(2) of the 2005 Regulations”.

(4ym mharagraff (1) o reoliad 9 (gorfodi) yn lle “the 1987 Regulations” rhodder “the 2005 Regulations”.

(5Yn rheoliad 11 (rhagdybiaeth o ran bwyd sydd i ddod i gysylltiad â deunydd plastig neu eitem blastig, gludydd neu ddeunydd neu eitem a orchuddiwyd â chaenen wyneb) yn lle “the 1987 Regulations” rhodder “Regulation (EC) No. 1935/2004 of the European Parliament and of the Council(12)”.

(6Yn lle rheoliad 12 (cymhwyso darpariaethau eraill) rhodder y canlynol —

Application of other provisions

12.(1) The following provisions of the Act shall apply for the purposes of these Regulations as they apply for the purposes of the Act —

(a)section 3 (presumption that food is intended for human consumption);

(b)section 30(8) (relating to documentary evidence);

(c)section 44 (protection of officers acting in good faith).

(2) Regulation 13 of the 2005 Regulations shall apply in relation to proceedings taken under these Regulations as it does to proceedings taken under those Regulations..

Dirymiadau

16.  Dirymir y Rheoliadau canlynol neu rannau ohonynt i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru —

(a)Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd 1987(13);

(b)Rheoliad 3 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Allforio) 1991(14);

(c)Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) 1994(15).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(16)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd 1987 (O.S. 1987/1523, fel y'i diwygiwyd) (“Rheoliadau 1987”) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, ac yn ailddeddfu neu'n ailddeddfu gyda diwygiadau ddarpariaethau penodol a geir yn y Rheoliadau hynny. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac yn diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 89/109/EEC (“Rheoliad 1935/2004”).

2.  Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddeunyddiau neu eitemau y tu allan i gwmpas Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 3). Y deunyddiau a ddynodir yn y Rheoliad hwnnw fel rhai sydd y tu allan i'w gwmpas yw deunyddiau ac eitemau a gyflenwir fel hynafolion, deunyddiau sy'n orchudd neu'n gaenen ac sy'n ffurfio rhan o'r bwyd ac y gellir eu bwyta gyda'r bwyd, a chyfarpar sefydlog cyhoeddus neu breifat i gyflenwi dŵr.

3.  Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaeth ar gyfer gorfodi Rheoliad 1935/2004, (rheoliad 4). Mae Rheoliad 1935/2004 yn Rheoliad fframwaith ar ddeunyddiau ac eitemau mewn cysylltiad â bwyd, ac mae'n disodli Cyfarwyddebau 80/590/EEC ac 89/109/EEC, a weithredwyd gan Reoliadau 1987. Mae'r Rhan hon hefyd yn darparu ar gyfer dynodi'r awdurdodau cymwys at yr amrywiol ddibenion a ddynodir yn Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 5).

4.  Mae Rhan 3 yn cynnwys rheoliadau sy'n ailddeddfu, heb ddiwygio'n sylweddol, ddarpariaethau Rheoliadau 1987 sy'n ymwneud â finyl clorid (rheoliadau 6 & 7).

5.  Mae Rhan 4 yn cynnwys rheoliadau sy'n ailddeddfu darpariaethau Rheoliadau 1987 sy'n ymwneud â ffilm seliwlos a adfywiwyd (“RCF”), fel y'i diwygiwyd yn ôl yr angen i weithredu gofynion Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 93/10/EC (rheoliadau 8 & 9).

6.  Yn benodol mae rheoliad 8 o'r Rheoliadau hyn —

(a)yn rheoli pa sylweddau y ceir eu defnyddio wrth weithgynhyrchu RCF, a all amrywio yn ôl a chafodd gaenen o blastigau ai peidio (paragraff (3));

(b)yn rheoleiddio pa sylweddau y ceir eu defnyddio i weithgynhyrchu caenennau plastig ar gyfer RCF, ac o dan ba amodau (paragraff (4));

(c)yn creu rhanddirymiad amodol o baragraff (3) o ran sylweddau y ceir eu defnyddio fel lliwyddion neu ludyddion wrth weithgynhyrchu RCF heb gaenen blastig (paragraff (5));

(ch)yn creu tramgwyddau o ran gwerthu, mewnforio neu ddefnydd busnes o RCF nad yw'n cydymffurfio â'r rheoliadau (paragraffau (6) & (7)); a

(d)yn creu gofyniad amodol bod datganiad o gydymffurfedd deddfwriaethol gyda'r RCF pan gaiff ei marchnata cyn y cyfnod adwerthu (paragraff (8)).

7.  Mae rheoliad 9 yn cymhwyso i RCF â chaenen blastig y rheolaethau sy'n bodoli (sy'n deillio o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72 ac a weithredwyd gan Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998, O.S. 1998/1376 fel y'i diwygiwyd) ar ymfudiad o gyfansoddion o ddeunyddiau ac eitemau plastig i fwyd, yn benodol drwy —

(a)pennu terfynau ymfudiad cyffredinol ar gyfer RCF â chaenen blastig (paragraffau (1) & (2));

(b)cymhwyso i RCF â chaenen blastig y terfynau ymfudiad penodedig sy'n gymwys i sylweddau penodol a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu deunyddiau ac eitemau plastig (paragraffau (3) & (4)); ac

(c)cymhwyso'r dulliau a'r gweithdrefnau a ragnodwyd ar gyfer archwilio cydymffurfedd â therfynau ymfudiad (paragraffau (5) & (6)).

8.  Mae rheoliad 10 yn cynnwys arbedion a darpariaethau trosiannol —

(a)sy'n cadw'r amddiffyniadau sydd ar gael o dan Reoliadau 1987 ar gyfer unrhyw RCF a weithgynhyrchwyd cyn 29 Ebrill 1994 a allai fod yn parhau mewn cylchrediad;

(b)sy'n creu amddiffyniad o ran RCF a weithgynhyrchwyd yn y Gymuned Ewropeaidd neu a fewnforiwyd iddi cyn 29 Ionawr 2006;

(c)sy'n darparu amddiffyniad o ran allforion.

9.  Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau gweinyddol a gorfodi cyffredinol —

(a)sy'n cosbi mynd yn groes i'r Rheoliadau hyn neu Reoliad 1935/2004 (rheoliad 11);

(b)sy'n dynodi awdurdodau gorfodi (rheoliad 12);

(c)sy'n darparu y caiff y llysoedd gyfarwyddo y dylid cyflwyno sylweddau i Fferyllydd y Llywodraeth er mwyn eu dadansoddi (rheoliad 13);

(ch)sy'n cymhwyso darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 14).

(d)sy'n gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998 (O.S. 1998/1376, fel y'i diwygiwyd) (rheoliad 15);

(dd)sy'n dirymu Rheoliadau 1987 a deddfwriaeth ddiwygio ddilynol (rheoliad 16).

10.  Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC wedi cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Southgate House, Stryd Wood, Caerdydd CF10 1EW.

(1)

1990 p. 16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990.

(2)

Mae'r swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” (sef, o ran Cymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwladol a oedd yn eu trefn yn ymwneud ag iechyd yn Lloegr a bwyd a iechyd yng Nghymru ac, o ran yr Alban, yr Ysgrifennydd Gwladol) bellach yn arferadwy o ran Lloegr gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28) ac mae paragraffau 12 a 21 o'r Atodlen honno yn diwygio yn eu trefn adrannau 17(2) a 48 o Ddeddf 1990. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan Reoliadau Deddf Diogelwch Bwyd (Diwygio) 2004 (O.S. 2004/2990). Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999 a throsglwyddwyd y swyddogaethau hynny, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran yr Alban, i Weinidogion yr Alban gan adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (1998 p. 46) fel y'i darllenir gydag adran 40(2) o Ddeddf 1999.

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).

(4)

OJ Rhif L93, 17.4.93, t.27, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC (OJ Rhif L27, 30.1.2004, t.48).

(5)

OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/19/EC (OJ Rhif L71, 10.3.2004, t.8).

(6)

OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4.

(7)

O.S. 1998/1376, fel y'i diwygiwyd o ran Cymru gan O.S. 2000/3162, O.S. 2002/2364, O.S. 2004/3113 ac O.S. 2005/325.

(8)

OJ Rhif L213, 16.8.90, t.42.

(9)

OJ Rhif L167, 24.6.81, t.6.

(10)

O.S. 1987/1523, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/1476 ac O.S. 1994/979.

(12)

OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4.

(16)

1998 p.38.