- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“Rheoliadau 1997”) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau 1986”).
Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefnu gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986 er mwyn cynyddu'r swm a ddefnyddir fel sail ar gyfer cyfrifo hawl i brawf golwg di-dâl o dan y Rheoliadau hynny.
Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun taliadau sydd i'w gwneud drwy gyfrwng system dalebau o ran costau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol.
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 1 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu ffi prawf golwg y GIG.
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu'r swm a ddefnyddir fel sail ar gyfer cyfrifo hawl am gyfraniad tuag at gost teclyn optegol o dan y Rheoliadau hynny.
Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth adbrynu taleb a ddyroddir tuag at y gost o ailosod un lens gyffwrdd, a chynyddu mwyafswm y cyfraniad drwy daleb at gost trwsio ffrâm sbectol.
Mae rheoliad 6 a'r Atodlen yn diwygio Atodlenni Rheoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth talebau a ddyroddir tuag at gostau cyflenwi ac ailosod sbectol a lensys cyffwrdd, cynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a chategorïau arbennig o declynnau a chynyddu gwerth y talebau a ddyroddir at drwsio ac ailosod teclynnau optegol. Tua 2.5% yw graddfa'r cynnydd yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: