- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
14 Mehefin 2005
Yn dod i rym
24 Mehefin 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 38, 78(1), 83A and 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2005.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Mehefin 2005.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2); ac
ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986(3).
2. Yn rheoliad 13(2)(l)(ii) o Reoliadau 1986 (profion llygaid — cymhwyster) yn lle “£14,600” rhodder “£15,050”.
3. Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau 1997 (enwi, cychwyn a dehongli) yn y diffiniad o “NHS sight test fee”—
(a)yn lle “£49.19” rhodder “£50.77”; a
(b)yn lle “£17.82” rhodder “£18.39”.
4. Yn rheoliad 8(3)(l)(ii) o Reoliadau 1997 (cymhwyster — cyflenwi teclynnau optegol) yn lle “£14,600” rhodder “£15,050”.
5. Yn rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) —
(a)ym mharagraff (1)(b), yn lle “£46.80” rhodder “£48.00”; a
(b)ym mharagraff (3), yn lle “£12.10” rhodder “£12.40”.
6.—(1) Yn Atodlen 1 i Reoliadau 1997 (codau llythrennau taleb a gwerthoedd ar yr wyneb — cyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) o'r tabl (gwerth taleb ar yr wyneb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn (1) o'r tabl isod rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (2) o'r tabl isod.
| (1) | (2) |
|---|---|
| Swm blaenorol | Swm newydd |
| £32.10 | £32.90 |
| £48.80 | £50.00 |
| £71.30 | £73.10 |
| £161.00 | £165.00 |
| £55.40 | £56.80 |
| £70.40 | £72.20 |
| £91.30 | £93.60 |
| £177.00 | £181.40 |
| £164.90 | £169.00 |
| £46.80 | £48.00 |
(2) Yn Atodlen 2 i Reoliadau 1997 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectol fach a sbectol arbennig, a theclynnau cymhleth) —
(a)ym mharagraff 1(1)(a), yn lle “£10.40” rhodder “£10.70”;
(b)ym mharagraff 1(1)(b) yn lle “£12.50” rhodder “£12.80”;
(c)ym mharagraff 1(1)(c), yn lle “£3.50” rhodder “£3.60”;
(ch)ym mharagraff 1(1)(d), yn lle “£4.00” rhodder “£4.10”;
(d)ym mharagraff 1(1)(e), yn lle “£52.80”, “£46.80” a “£25.40” rhodder “£54.10”, “£48.00” a “£26.00” yn eu trefn;
(dd)ym mharagraff 1(1)(g), yn lle “£52.80” rhodder “£54.10”;
(e)ym mharagraff 2(a), yn lle “£12.10” rhodder “£12.40”; ac
(f)ym mharagraff 2(b), yn lle “£30.50” rhodder “£31.30”.
(3) Yn lle Atodlen 3 i Reoliadau 1997 (gwerthoedd talebau — trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
7. Nid yw'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 5 a 6 yn gymwys ond mewn perthynas â thaleb a dderbyniwyd neu a ddefnyddiwyd yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o Reoliadau 1997 ar neu ar ôl 24 Mehefin 2005.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Mehefin 2005
Rheoliad 6(3)
Regulation 19(2) and (3)
| (1) | (2) | ||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Nature of Repair | Letter of Codes-Values | ||||||||
| A | B | C | D | E | F | G | H | I | |
| Repair or replacement of one lens | £10.25 | £18.80 | £30.35 | £76.30 | £22.20 | £29.90 | £40.60 | £84.50 | £78.30 |
| Repair or replacement of two lens | £20.50 | £37.60 | £60.70 | £152.60 | £44.40 | £59.80 | £81.20 | £169.00 | £156.60 |
| Repair or replacement of: | |||||||||
| The front of a frame | £10.50 | £10.50 | £10.50 | £10.50 | £10.50 | £10.50 | £10.50 | £10.50 | £10.50 |
| A side of a frame | £6.25 | £6.25 | £6.25 | £6.25 | £6.25 | £6.25 | £6.25 | £6.25 | £6.25 |
| The whole frame | £12.40 | £12.40 | £12.40 | £12.40 | £12.40 | £12.40 | £12.40 | £12.40 | £12.40” |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“Rheoliadau 1997”) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau 1986”).
Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefnu gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986 er mwyn cynyddu'r swm a ddefnyddir fel sail ar gyfer cyfrifo hawl i brawf golwg di-dâl o dan y Rheoliadau hynny.
Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun taliadau sydd i'w gwneud drwy gyfrwng system dalebau o ran costau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol.
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 1 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu ffi prawf golwg y GIG.
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu'r swm a ddefnyddir fel sail ar gyfer cyfrifo hawl am gyfraniad tuag at gost teclyn optegol o dan y Rheoliadau hynny.
Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth adbrynu taleb a ddyroddir tuag at y gost o ailosod un lens gyffwrdd, a chynyddu mwyafswm y cyfraniad drwy daleb at gost trwsio ffrâm sbectol.
Mae rheoliad 6 a'r Atodlen yn diwygio Atodlenni Rheoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth talebau a ddyroddir tuag at gostau cyflenwi ac ailosod sbectol a lensys cyffwrdd, cynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a chategorïau arbennig o declynnau a chynyddu gwerth y talebau a ddyroddir at drwsio ac ailosod teclynnau optegol. Tua 2.5% yw graddfa'r cynnydd yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
1977 p.49. Diwygiwyd Adran 38 gan adran 1 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) a pharagraff 51 o Atodlen 1 iddi, adran 1(3) o Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) (“y Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol”), erthygl 7(11) o O.S. 1985/39, adran 13(1) o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) (“y Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau”), paragraff 27 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) (“y Ddeddf Awdurdodau Iechyd”).
Diwygiwyd adran 78(1) gan adran 25 o'r Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau ac Atodlen 3 iddi.
Mewnosodwyd adran 83A gan adran 14(1) o Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 6 o Atodlen 2 i'r Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau, gan baragraff 18(5) o Atodlen 9 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p.19) (“Deddf 1990”) a chan baragraff 40 o Atodlen 1 i'r Ddeddf Awdurdodau Iechyd.
Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf 1990, a chan adran 65(1) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) a paragraffau 37(1) a (6) o Atodlen 4 iddi (“Deddf 1999”), gan adran 67(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15) a paragraffau 5 a 13 o Atodlen 5 iddi, gan adran 6(3)(c) a 37(1) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), a chan adrannau 184 a 196 o Ddeddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43) a pharagraffau 7 a 38 o Atodlen 11 iddi a Rhan 4 o Atodlen 14 iddi.
Amnewidiwyd paragraff 2(1) o Atodlen 12 gan baragraff 8 o Atodlen 2 i'r Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau.
Mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 12 gan Atodlen 1, paragraff 3 o'r Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol a'i ddiwygio gan adran 13(2) a (3) o'r Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y pwerau a grybwyllir uchod i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672), fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.
O.S. 1997/818; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/499, 1999/609 a 2841 (Cy.21), 2000/978 (Cy.48), 2001/1362 (Cy.90), 1423 (Cy.98) a 3323 (Cy.276), 2003/301 (Cy.43) a 955 (Cy.129), 2004/1014 (Cy.111), 1659 (Cy.171) a 1042 (Cy.124).
O.S. 1986/975; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/693 a 2841 (Cy.21), 2001/1362 (Cy.90), 1423 (Cy.98) a 3323 (Cy.276), 2002/1883 (Cy.192), 2003/955 (Cy.129) a 837 (Cy.106), 2004/1014 (Cy.111) a 1042 (Cy.124).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: