- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2005.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Mehefin 2005.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(1); ac
ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986(2).
2. Yn rheoliad 13(2)(l)(ii) o Reoliadau 1986 (profion llygaid — cymhwyster) yn lle “£14,600” rhodder “£15,050”.
3. Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau 1997 (enwi, cychwyn a dehongli) yn y diffiniad o “NHS sight test fee”—
(a)yn lle “£49.19” rhodder “£50.77”; a
(b)yn lle “£17.82” rhodder “£18.39”.
4. Yn rheoliad 8(3)(l)(ii) o Reoliadau 1997 (cymhwyster — cyflenwi teclynnau optegol) yn lle “£14,600” rhodder “£15,050”.
5. Yn rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) —
(a)ym mharagraff (1)(b), yn lle “£46.80” rhodder “£48.00”; a
(b)ym mharagraff (3), yn lle “£12.10” rhodder “£12.40”.
6.—(1) Yn Atodlen 1 i Reoliadau 1997 (codau llythrennau taleb a gwerthoedd ar yr wyneb — cyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) o'r tabl (gwerth taleb ar yr wyneb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn (1) o'r tabl isod rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (2) o'r tabl isod.
| (1) | (2) |
|---|---|
| Swm blaenorol | Swm newydd |
| £32.10 | £32.90 |
| £48.80 | £50.00 |
| £71.30 | £73.10 |
| £161.00 | £165.00 |
| £55.40 | £56.80 |
| £70.40 | £72.20 |
| £91.30 | £93.60 |
| £177.00 | £181.40 |
| £164.90 | £169.00 |
| £46.80 | £48.00 |
(2) Yn Atodlen 2 i Reoliadau 1997 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectol fach a sbectol arbennig, a theclynnau cymhleth) —
(a)ym mharagraff 1(1)(a), yn lle “£10.40” rhodder “£10.70”;
(b)ym mharagraff 1(1)(b) yn lle “£12.50” rhodder “£12.80”;
(c)ym mharagraff 1(1)(c), yn lle “£3.50” rhodder “£3.60”;
(ch)ym mharagraff 1(1)(d), yn lle “£4.00” rhodder “£4.10”;
(d)ym mharagraff 1(1)(e), yn lle “£52.80”, “£46.80” a “£25.40” rhodder “£54.10”, “£48.00” a “£26.00” yn eu trefn;
(dd)ym mharagraff 1(1)(g), yn lle “£52.80” rhodder “£54.10”;
(e)ym mharagraff 2(a), yn lle “£12.10” rhodder “£12.40”; ac
(f)ym mharagraff 2(b), yn lle “£30.50” rhodder “£31.30”.
(3) Yn lle Atodlen 3 i Reoliadau 1997 (gwerthoedd talebau — trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
7. Nid yw'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 5 a 6 yn gymwys ond mewn perthynas â thaleb a dderbyniwyd neu a ddefnyddiwyd yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o Reoliadau 1997 ar neu ar ôl 24 Mehefin 2005.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Mehefin 2005
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: