RHAN 5MATERION AMRYWIOL — ASIANTAETHAU

Darpariaethau Trosiannol35

1

Mae'r Rheoliad hwn yn gymwys i asiantaethau cymorth mabwysiadu y mae'n ofynnol iddynt gael eu cofrestru o dan y Ddeddf yn rhinwedd darpariaethau Deddf 2000 a'r Rheoliadau hyn ond nad oedd yn ofynnol iddynt gael eu cofrestru felly yn union cyn 30 Rhagfyr 2005.

2

Er gwaethaf unrhyw un o'r darpariaethau hynny, caiff asiantaeth cymorth mabwysiadu a oedd yn union cyn 30 Rhagfyr 2005 yn rhedeg neu'n rheoli asiantaeth barhau i redeg neu reoli'r asiantaeth heb gael ei chofrestru o dan Ddeddf 2000

a

yn ystod y cyfnod o 3 mis sy'n dechrau ar y dyddiad hwnnw; a

b

os, o fewn y cyfnod hwnnw, y gwneir cais am gael cofrestru, hyd nes y gwaredir y cais hwnnw yn derfynol neu'i dynnu yn ôl.

3

Yn y rheoliad hwn ystyr 'gwaredu yn derfynol' yw'r dyddiad 28 o ddiwrnodau gwaith ar ôl caniatáu neu wrthod cofrestriad ac, os apelir, y dyddiad pan benderfynir ar yr apêl yn derfynol neu pan roddir y gorau iddo.