xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio mewn cysylltiad â'r asiantaeth ddatganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y datganiad o ddiben”) a rhaid i hwnnw gynnwys datganiad ynglyn â'r materion a restrir yn Atodlen 1.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i'r awdurdod cofrestru.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig drefnu bod copi o'r datganiad o ddiben ar gael ar gais i'w arolygu gan —
(a)unrhyw berson sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth;
(b)unrhyw berson sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth neu sy'n gweithredu ar ran plentyn sy'n cael gwasanaethau o'r fath gan yr asiantaeth;
(c)unrhyw berson sy'n holi ar ei ran ei hun neu ar ran plentyn am gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth;
(ch)unrhyw awdurdod lleol.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig, o ran asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu i blant, gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r asiantaeth (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr arweiniad plant”) a rhaid iddo gynnwys —
(a)crynodeb o ddatganiad o ddiben yr asiantaeth;
(b)crynodeb o'r weithdrefn gwynion a sefydlwyd o dan reoliad 19(1); ac
(c)cyfeiriad a Rhif ffôn yr awdurdod cofrestru.
(5) Rhaid i'r arweiniad plant gael ei gynhyrchu ar ffurf sy'n briodol i oedran, dealltwriaeth ac anghenion cyfathrebu'r plant y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu iddynt.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r arweiniad plant i'r awdurdod cofrestru, i unrhyw oedolyn sy'n gweithredu ar ran plentyn y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu iddo ac (yn dibynnu ar ei oedran a'i ddealltwriaeth) i bob plentyn o'r fath.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yr asiantaeth yn cael ei rheoli bob amser mewn modd sy'n gyson â'i datganiad o ddiben.
(8) Ni fydd dim ym mharagraff (7) yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi'r person cofrestredig i fynd yn groes i, neu i beidio â chydymffurfio ag—
(a)unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn; neu
(b)unrhyw amodau sydd mewn grym am y tro o ran cofrestru'r darparydd cofrestredig o dan Ran 2 o Ddeddf 2000.