Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005

Hysbysu absenoldeb

29.—(1Pan fo'r rheolwr yn bwriadu bod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau neu ragor, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig o'r absenoldeb arfaethedig.

(2Ac eithrio pan fydd argyfwng, rhaid i'r hysbysiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) gael ei roi ddim hwyrach na mis cyn i'r absenoldeb arfaethedig ddechrau, neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y cytunir arno gyda'r awdurdod cofrestru, a rhaid i'r hysbysiad bennu —

(a)hyd neu hyd disgwyliedig yr absenoldeb arfaethedig;

(b)y rheswm dros yr absenoldeb arfaethedig;

(c)y trefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer rhedeg yr asiantaeth yn ystod yr absenoldeb hwnnw;

(ch)enw, cyfeiriad a chymwysterau'r person a fydd yn gyfrifol am reoli'r asiantaeth yn ystod yr absenoldeb; a

(d)y trefniadau sydd wedi'u gwneud neu y bwriedir eu gwneud ar gyfer penodi person arall i reoli'r asiantaeth yn ystod yr absenoldeb, gan gynnwys y dyddiad arfaethedig erbyn pryd y mae'r penodiad i ddechrau.

(3Pan fo'r absenoldeb yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu o'r absenoldeb o fewn wythnos i'r argyfwng ddigwydd, gan bennu'r materion a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(a) i (d).

(4Pan fo'r rheolwr cofrestredig wedi bod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau neu ragor, a bod yr awdurdod cofrestru heb gael ei hysbysu o'r absenoldeb, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'n ddi-oed yr awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig, gan bennu'r materion a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(a) i (d).

(5Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru bod y rheolwr cofrestredig wedi dychwelyd i'r gwaith ddim hwyrach na 5 niwrnod gwaith ar ôl dyddiad ei ddychweliad.