xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
22.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig beidio â gwneud y canlynol —
(a)cyflogi person i weithio at ddibenion yr asiantaeth oni bai bod y person hwnnw yn ffit i weithio at ddibenion yr asiantaeth; neu
(b)caniatáu i berson sy'n cael ei gyflogi gan berson heblaw'r darparydd cofrestredig weithio at ddibenion yr asiantaeth oni bai bod y person hwnnw yn ffit i weithio at ddibenion yr asiantaeth.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio at ddibenion asiantaeth oni bai —
(a)bod y person yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da;
(b)bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd a'r profiad sy'n angenrheidiol i'r gwaith y mae i'w gyflawni;
(c)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i wneud y gwaith y mae i'w gyflawni; ac
(ch)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ynglŷn â'r person ar gael o ran pob un o'r materion a bennir yn Atodlen 2.