xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4DULL RHEOLI ASIANTAETHAU

Cwynion — gofynion pellach

20.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i unrhyw gŵyn a wneir o dan y weithdrefn gŵynion.

(2I'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, rhaid i'r person cofrestredig, o fewn cyfnod o 20 o ddiwrnodau gwaith gan ddechrau ar y dyddiad y mae'r asiantaeth yn cael y gŵyn, hysbysu'r achwynydd o'r camau (os oes rhai) sydd i'w cymryd mewn ymateb i'r gŵyn.

(3Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud o unrhyw gŵyn, gan gynnwys manylion yr ymchwiliad a gynhaliwyd, y canlyniad ac unrhyw gamau a gymerwyd o ganlyniad i hynny.

(4Rhaid i'r person cofrestredig gymryd pob cam rhesymol i sicrhau —

(a)bod plant yn cael eu galluogi i wneud cwyn; a

(b)na fydd unrhyw berson yn wrthrych unrhyw ddial gan yr asiantaeth am wneud cwyn.

(5Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i'r awdurdod cofrestru, os bydd yr awdurdod yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o unrhyw gwynion a wnaed yn ystod y 12 mis blaenorol a'r camau a gymerwyd mewn ymateb i hynny.