Cymorth ariannol — swm
7.—(1) Wrth benderfynu ar unrhyw gymorth ariannol rhaid i'r awdurdod lleol ystyried —
(a)yr adnoddau ariannol sydd ar gael i'r gwarcheidwad arbennig neu'r darpar warcheidwad arbennig yn ôl y digwydd;
(b)y swm sy'n ofynnol gan y person a grybwyllwyd uchod o ran ei wariant a'i ymrwymiadau rhesymol (heb gynnwys gwariant mewn perthynas â'r plentyn perthnasol);
(c)anghenion ac adnoddau ariannol y plentyn perthnasol;
(ch)gwariant angenrheidiol ar gostau cyfreithiol (i gynnwys ffioedd llys) o ran rheithdrefnau sy'n ymwneud â gwarcheidiaeth arbennig neu gais am ddarpariaeth ariannol i'r plentyn perthnasol neu er ei les;
(d)gwariant angenrheidiol er mwyn hwyluso bod y plentyn perthnasol yn cael cartref gyda pherson sy'n dod o fewn is-baragraff (a) uchod, gan gynnwys unrhyw wariant dechreuol sy'n angenrheidiol at ddibenion lletya'r plentyn, i gynnwys unrhyw ddarpariaeth angenrheidiol o ddodrefn a chyfarpar domestig, newidiadau i'r cartref neu addasiadau iddo, darparu cyfrwng cludo a dillad, teganau ac eitemau eraill sy'n angenrheidiol er mwyn edrych ar ôl y plentyn;
(dd)gwariant angenrheidiol y person sy'n dod o fewn is-baragraff (a) uchod sy'n gysylltiedig ag unrhyw anghenion addysgol arbennig neu anawsterau ymddygiad arbennig y plentyn perthnasol, gan gynnwys—
(i)costau'r cyfarpar y mae ei angen at ddibenion diwallu unrhyw anghenion addysgol arbennig sydd gan y plentyn;
(ii)costau trwsio unrhyw ddifrod yn y cartref lle mae'r plentyn yn byw, os yw'r costau hynny'n codi oherwydd anawsterau ymddygiad y plentyn;
(iii)costau rhoi plentyn mewn ysgol fyrddio, os yw'r lleoliad hwnnw'n angenrheidiol i ddiwallu anghenion addysgol arbennig y plentyn; a
(iv)unrhyw gostau eraill i ddiwallu unrhyw anghenion arbennig gan y plentyn; ac
(e)gwariant ar deithio at ddibenion ymweld rhwng y plentyn perthnasol a'i riant neu bersonau perthynol.
(2) Rhaid peidio â thalu cymorth ariannol i fodloni unrhyw anghenion i'r graddau y gellir yn rhesymol fodloni'r anghenion hynny yn rhinwedd taliad unrhyw fudd-dâl (gan gynnwys credyd treth) neu lwfans.
(3) Ac eithrio pan fydd paragraff (4) yn gymwys, rhaid i'r cymorth ariannol beidio â chynnwys unrhyw elfen o gydnabyddiaeth ar gyfer gofal am blentyn perthnasol.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys—
(a)fel darpar warcheidwad arbennig, pan oedd person hefyd yn rhiant maeth plentyn perthnasol;
(b)os yw'r awdurdod lleol yn ystyried bod unrhyw lwfans maethu a delir i'r person hwnnw am faethu'r plentyn hwnnw yn dod i ben pan wneir y GGA; ac
(c)cyn i'r GGA gael ei wneud, pan fo'r awdurdod lleol yn penderfynu talu cymorth ariannol ac yn penderfynu y dylai hwnnw gael ei dalu'n rheolaidd.