- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
4.—(1) Gellir talu cymorth ariannol i warcheidwad arbennig neu i ddarpar warcheidwad arbennig dim ond yn yr achosion canlynol—
(a)pan fydd plentyn sy'n destun GGA yn byw gyda'i warcheidwad arbennig a bod yr awdurdod lleol yn ystyried bod cymorth ariannol yn angenrheidiol i sicrhau bod y gwarcheidwad yn gallu parhau i edrych ar ôl y plentyn;
(b)pan fydd plentyn y gwneir cais am GGA ar ei gyfer neu blentyn y mae'r llys wedi gofyn am adroddiad ar ei gyfer yn byw gyda darpar warcheidwad arbennig a bod yr awdurdod lleol yn ystyried —
(i)y byddai'n llesol i'r plentyn bod GGA yn cael ei wneud; a
(ii)bod cymorth ariannol yn angenrheidiol i sicrhau y gall y darpar warcheidwad arbennig barhau i edrych ar ôl y plentyn hyd nes bod y llys wedi penderfynu a fydd yn gwneud GGA;
(c)pan fydd yr awdurdod lleol yn ystyried —
(i)y byddai gwneud GGA, neu orchymyn am ddarpariaeth ariannol i blentyn neu er budd y plentyn, yn llesol i blentyn perthnasol; a
(ii)ei bod yn briodol i gyfrannu i warcheidwad arbennig neu ddarpar warcheidwad arbennig neu dalu unrhyw gostau cyfreithiol iddynt, gan gynnwys ffioedd llys, sy'n gysylltiedig â gwneud cais am GGA neu orchymyn am ddarpariaeth ariannol; neu
(ch)pan fydd plentyn perthnasol yn byw gyda'i ddarpar warcheidwad arbennig neu warcheidwad arbennig a bod yr awdurdod lleol yn ystyried bod angen gofal arbennig ar y plentyn sy'n gofyn am fwy o wariant adnoddau nag a fyddai eu hangen fel arall oherwydd ei afiechyd, anabledd, anawsterau emosiynol neu ymddygiadol neu ganlyniadau camdriniaeth neu esgeulustod yn y gorffennol.
(2) Rhaid peidio â thalu cymorth ariannol o dan y rheoliad hwn oni bai bod yr awdurdod lleol wedi ei gwneud yn ofynnol i'r gwarcheidwad arbennig neu'r darpar warcheidwad arbennig (“y gwarcheidwad”) ymgymryd â'r canlynol—
(a)hysbysu'r awdurdod lleol ar unwaith—
(i)os yw'r gwarcheidwad yn newid ei gyfeiriad;
(ii)os nad yw cartref y plentyn perthnasol bellach gyda'r gwarcheidwad;
(iii)os bydd y plentyn yn marw; neu
(iv)os oes newid yn amgylchiadau ariannol y gwarcheidwad, neu yn anghenion ariannol neu anghenion adnoddau'r plentyn perthnasol;
naill ai ar lafar neu yn ysgrifenedig, ar yr amod os rhoddir yr wybodaeth ar lafar rhaid ei chadarnhau yn ysgrifenedig o fewn 7 niwrnod; a
(b)darparu datganiad blynyddol i'r awdurdod (gan ddechrau o ddyddiad sydd i'w bennu gan yr awdurdod) o'i amgylchiadau ariannol ac anghenion ac adnoddau'r plentyn perthnasol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: