- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
12.—(1) Os bydd awdurdod lleol yn darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig ar gyfer person nad ydynt yn cynnwys cymorth ariannol, rhaid i'r awdurdod adolygu'r ddarpariaeth o'r gwasanaethau hynny—
(a)os daw i'w sylw unrhyw newid yn amgylchiadau'r person, gan gynnwys unrhyw newid yn ei gyfeiriad; a
(b)beth bynnag, o dro i dro.
(2) Pan fydd awdurdod lleol yn darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig ar gyfer person a'r gwasanaethau'n golygu, neu'n cynnwys, cymorth ariannol, rhaid iddo adolygu darpariaeth o'r gwasanaethau hynny—
(a)os daw unrhyw newid perthnasol i'w sylw yn amgylchiadau'r person gan gynnwys unrhyw newid yn ei gyfeiriad; a
(b)pan ddaw'r datganiad blynyddol y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2)(b) i law.
(3) Mae rheoliadau 6 i 8 yn gymwys gydag unrhyw newidiadau angenrheidiol mewn perthynas ag adolygiad o dan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag asesiad o dan reoliad 5.
(4) Rhaid i'r awdurdod lleol, ar ôl rhoi sylw i'r adolygiad ac ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a gafwyd o fewn y cyfnod a bennir o dan reoliad 8—
(a)penderfynu a ddylid amrywio neu derfynu'r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig; a
(b)adolygu ac, os yw'n briodol, diwygio'r cynllun.
(5) Os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu amrywio neu derfynu'r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig, neu adolygu'r cynllun—
(a)rhaid iddo roi hysbysiad o'i benderfyniad yn unol â rheoliad 10, a rhaid i'r hysbysiad gynnwys y rhesymau dros y penderfyniad; a
(b)rhaid i baragraffau (3) i (10) o reoliad 9 fod yn gymwys i benderfyniad o dan baragraff (4) fel y maent yn gymwys i benderfyniad o dan baragraff (1) o reoliad 9.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os na chydymffurfir ag unrhyw amod a osodir yn unol â rheoliad 9(10), caiff awdurdod lleol—
(a)adolygu, atal, neu roi'r gorau i dalu'r cymorth ariannol; a
(b)ceisio adennill y cyfan neu ran o'r cymorth ariannol a dalodd.
(7) Os yr amod na chydymffurfiwyd ag ef yw'r un i ddarparu datganiad blynyddol yn unol â chytundeb y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2), rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chymryd unrhyw gamau o dan baragraff (6) hyd nes—
(a)ei fod wedi anfon at y person a ymrwymodd i'r cytundeb nodyn atgoffa ysgrifenedig o'r angen i ddarparu datganiad blynyddol; a
(b)bod 28 diwrnod wedi mynd heibio ers y dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad hwnnw.
(8) Os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu o dan baragraff (6), ar ôl cymryd y camau a bennir ym mharagraff (7), y dylid atal talu'r cymorth ariannol, caiff ddod â'r ataliad i ben pan ddaw'r datganiad blynyddol y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2)(b) i law.
(9) Rhaid i'r awdurdod lleol beidio â thalu cymorth ariannol a bydd hynny'n effeithiol o'r dyddiad y daw'n ymwybodol bod yr amgylchiadau ym mharagraff (10) yn gymwys.
(10) Dyma'r amgylchiadau—
(a)mae gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig wedi peidio â bod yn effeithiol, neu wedi'i ddirymu; neu
(b)mae'r plentyn y darperir y gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig ar ei gyfer—
(i)heb fod â'i gartref bellach gyda gwarcheidwad arbennig neu ddarpar warcheidwad arbennig;
(ii)yn cael cymhorthdal incwm o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(1) neu lwfans ceisio gwaith dan Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(2); neu
(iii)wedi dechrau gweithio mewn cyflogaeth lawnamser.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: