- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
9.—(1) Ar ôl cynnal asesiad o dan reoliad 8, rhaid i'r awdurdod lleol, yn unol â rheoliad 13—
(a)rhoi'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (2); a
(b)rhoi hysbysiad am yr hawl i gyflwyno sylwadau fel a bennir ym mharagraff (3).
(2) Yr wybodaeth a bennir yw —
(a)datganiad o anghenion y person yr aseswyd ei anghenion am wasanaethau cymorth mabwysiadu;
(b)y gwasanaethau, os oes rhai, y bwriedir eu darparu ar gyfer y person;
(c)os bydd yr asesiad yn ymwneud ag angen y person am gymorth ariannol—
(i)y sail a ddefnyddir i benderfynu'r cymorth ariannol hwnnw;
(ii)y swm arfaethedig a fyddai'n daladwy;
(ch)unrhyw amodau y mae'r awdurdod lleol yn bwriadu eu gosod ar ddarpariaeth y cymorth ariannol hwnnw yn unol â rheoliad 13(3); a
(d)manylion am yr hawl i gyflwyno sylwadau yn unol â pharagraff (3).
(3) Bydd gan y person a hysbysir yn unol â pharagraff (2) yr hawl i gyflwyno sylwadau i'r awdurdod lleol ynghylch y cynnig ym mharagraff (2)(b) o fewn cyfnod a bennir gan yr awdurdod lleol.
(4) Rhaid i'r awdurdod lleol beidio â gwneud penderfyniad o dan reoliad 13 hyd oni fydd naill ai —
(a)y person y cyfeirir ato ym mharagraff (3)—
(i)wedi cyflwyno sylwadau i'r awdurdod lleol; neu
(ii)wedi hysbysu'r awdurdod lleol ei fod yn fodlon ar y penderfyniad arfaethedig; neu
(b)y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (1)(b) ar gyfer cyflwyno sylwadau wedi dod i ben.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: