- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
6.—(1) Rhaid i'r awdurdod lleol benodi o leiaf un person (“cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu”) i gyflawni'r swyddogaethau a bennir ym mharagraff (2).
(2) Swyddogaethau cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu yw:
(a)rhoi cyngor a gwybodaeth i bersonau y mae'n bosibl y bydd mabwysiadu plentyn neu fwriad i fabwysiadu plentyn yn effeithio arnynt, gan gynnwys ynghylch —
(i)gwasanaethau a all fod yn briodol i'r personau hynny; a
(ii)sut y gellir darparu'r gwasanaethau hynny ar eu cyfer;
(b)rhoi cyngor, gwybodaeth a chymorth i'r awdurdod lleol a'i penododd, gan gynnwys ynghylch—
(i)asesu'r anghenion am wasanaethau cymorth mabwysiadu yn unol â rheoliad 8;
(ii)argaeledd gwasanaethau cymorth mabwysiadu a gwasanaethau lleol eraill; a
(iii)llunio cynlluniau yn unol â rheoliad 10; ac
(c)rhoi cyngor, gwybodaeth a chymorth i awdurdod lleol arall gan gynnwys ynghylch y materion a bennir yn is-baragraff (b) pan—
(i)bydd plentyn i'w leoli i'w fabwysiadu gan yr awdurdod lleol y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) yn ardal yr awdurdod lleol arall hwnnw; neu
(ii)bydd person y mae cynllun wedi'i baratoi mewn perthynas ag ef yn symud o ardal yr awdurdod lleol y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) i ardal yr awdurdod lleol arall hwnnw.
(3) Ni chaiff yr awdurdod lleol benodi person yn gynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu onid yw'n fodlon bod gwybodaeth y cynghorydd am y canlynol a'i brofiad ohonynt yn ddigonol at ddibenion y gwaith y mae ef wed'i gyflawni —
(a)y broses fabwysiadu; a
(b)effaith mabwysiadu plentyn ar bersonau y mae'n debygol yr effeithir arnynt gan y mabwysiadu.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: