- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
4.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi, at ddibenion adran 3(3)(a) o Ddeddf 2002, ddisgrifiad o'r personau y mae'n rhaid bod trefniadau yn eu lle i ddarparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu ar eu cyfer.
(2) Cyngor a gwybodaeth cwnsela—
(a)i blant y gellir eu mabwysiadu, eu rhieni mabwysiadol, eu rhieni naturiol a'u gwarcheidwaid;
(b)i bersonau sy'n dymuno mabwysiadu plentyn;
(c)i bersonau wedi'u mabwysiadu, eu rhieni mabwysiadol, eu rhieni naturiol a'u gwarcheidwaid blaenorol; ac
(ch)i blant sy'n frodyr a chwiorydd naturiol plentyn mabwysiadol (p'un ai o waed coch cyfan neu o hanner gwaed).
(3) Cymorth ariannol o dan reoliad 11 ar gyfer rhiant mabwysiadol plentyn mabwysiadol.
(4) Rhaid i'r gwasanaethau a grybwyllir yn rheoliad 3(b) (gwasanaethau i alluogi trafodaeth) fod yn eu lle ar gyfer—
(a)rhiant mabwysiadol plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth;
(b)plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth; ac
(c)rhiant naturiol y rhoddodd asiantaeth ei blentyn i'w fabwysiadu neu y mabwysiadwyd ei blentyn yn dilyn lleoliad o'r fath.
(5) Rhaid i'r gwasanaethau a grybwyllir yn rheoliad 3(c) (cyswllt) fod yn eu lle ar gyfer—
(a)rhiant mabwysiadol plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth;
(b)plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth;
(c)rhiant naturiol y rhoddodd asiantaeth ei blentyn i'w fabwysiadu neu y mabwysiadwyd ei blentyn yn dilyn lleoliad o'r fath; ac
(ch)person perthynol.
(6) Rhaid i'r gwasanaethau a grybwyllir yn rheoliad 3(ch) (gwasanaethau therapiwtig) fod yn eu lle ar gyfer—
(a)plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth; a
(b)plentyn mabwysiadol y mae'r cyfyngiadau yn adran 83 o Ddeddf 2002 (cyfyngiadau ar ddod â phlant i mewn) yn gymwys mewn perthynas ag ef; ac
(c)plentyn mabwysiadol yn achos gorchymyn mabwysiadu Confensiwn.
(7) Rhaid i'r gwasanaethau a grybwyllir yn rheoliad 3(d) ac (dd) (cymorth at ddibenion sicrhau bod unrhyw berthynas yn parhau a chymorth pan fydd tarfu wedi bod ar leoliad mabwysiadu) fod yn eu lle ar gyfer—
(a)plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth; a
(b)plentyn mabwysiadol y mae'r cyfyngiadau yn adran 83 o Ddeddf 2002 (cyfyngiadau ar ddod â phlant i mewn) yn gymwys mewn perthynas ag ef;
(c)plentyn mabwysiadol yn achos gorchymyn mabwysiadu Confensiwn;
(ch)rhiant mabwysiadol plentyn a grybwyllir yn (a) i (c); a
(d)plentyn y rhiant mabwysiadol hwnnw.
(8) Mae'n ofynnol gwneud y trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) o ran unrhyw wasanaeth p'un a yw'r awdurdod lleol wedi penderfynu darparu'r gwasanaeth ar gyfer unrhyw berson ai peidio.
(9) Caiff y gwasanaethau a bennir yn adran 2(6)(a) o Ddeddf 2002 neu a ragnodir yn rheoliad (3)(b) i (dd) gynnwys gwneud trefniadau gyda phersonau eraill at ddiben darparu'r gwasanaethau hynny.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: