- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “awdurdod addysg lleol” yr un ystyr â “local education authority” yn Neddf Addysg 1996(1);
mae i “credyd treth plant” yr un ystyr â “child tax credit” yn Neddf Credydau Treth 2002(2);
ystyr “cymhorthdal incwm” (“income support”) yw cymhorthdal incwm o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(3);
dehonglir “cynllun” (“plan”) yn unol â rheoliad 10;
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
dehonglir “gwasanaethau cymorth mabwysiadu” (“adoption support services”) yn unol â rheoliad 3;
ystyr “hysbysu” (“notify”) yw hysbysu yn ysgrifenedig;
mae i “lwfans ceisio gwaith” yr un ystyr â “jobseeker’s allowance” yn Neddf Ceiswyr Gwaith 1995(4);
ystyr “person perthynol” (“related person”) yw—
perthynas o fewn yr ystyr sydd i “relative” yn adran 144(1) o Ddeddf 2002; neu
unrhyw berson y mae gan y plentyn mabwysiadol berthynas ag ef a honno'n berthynas, ym marn yr awdurdod lleol, sy'n llesol i'r plentyn o ystyried y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (i) i (iii) o adran 1(4)(f) o Ddeddf 2002;
ystyr “person sydd â'r hawl i gael ei asesu” (“person entitled to be assessed”) yw person a bennir yn adran 4(1)(a) o Ddeddf 2002 neu yn rheoliad 5(1);
ystyr “plentyn” (“child”), yn ddarostyngedig i baragraff (3), yw person nad yw wedi cyrraedd 18 mlwydd oed;
ystyr “plentyn mabwysiadol” (“adoptive child”) yw, yn ddarostyngedig i baragraff (3), plentyn sy'n blentyn mabwysiadol drwy asiantaeth neu'n blentyn mabwysiadol heb fod drwy asiantaeth;
ystyr “plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth” (“agency adoptive child”) yw plentyn—
y mae asiantaeth fabwysiadu, mewn perthynas ag ef, wedi penderfynu yn unol â rheoliad 34 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) y byddai person yn rhiant mabwysiadol addas i'r plentyn;
y mae asiantaeth fabwysiadu wedi'i leoli i'w fabwysiadu; neu
a fabwysiadwyd ar ôl cael ei leoli i'w fabwysiadu gan asiantaeth fabwysiadu;
ystyr “plentyn mabwysiadol heb fod drwy asiantaeth” (“non-agency adoptive child”) yw plentyn—
y mae person mewn perthynas ag ef—
wedi rhoi hysbysiad o dan adran 44 o Ddeddf 2002 o'i fwriad i wneud cais am orchymyn mabwysiadu; a
heb fod yn rhiant naturiol neu'n llys-riant i'r plentyn; neu
a fabwysiadwyd gan berson—
nad yw'n rhiant naturiol i'r plentyn; a
nad oedd yn llys-riant i'r plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn,
ond nid yw'n cynnwys plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth;
ystyr “plentyn rhiant mabwysiadol” (“child of an adoptive parent”), mewn unrhyw achos pan fydd y ddarpariaeth o wasanaethau cymorth mabwysiadu, neu unrhyw asesiad o ran gwasanaethau cymorth mabwysiadu, mewn perthynas â mabwysiadu neu ddarpar fabwysiadu plentyn mabwysiadol gan riant mabwysiadol, yw un o blant y rhiant mabwysiadol, ac eithrio'r plentyn mabwysiadol hwnnw;
ystyr “Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru)” (“the Adoption Agencies (Wales) Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(5);
ystyr “rhiant mabwysiadol” (“adoptive parent”) yw person—
y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu yn unol â rheoliad 34 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) y byddai'n rhiant mabwysiadol addas i blentyn penodol;
y mae asiantaeth fabwysiadu wedi lleoli plentyn gydag ef i'w fabwysiadu;
sydd wedi rhoi hysbysiad o dan adran 44 o Ddeddf 2002 am ei fwriad i wneud cais am orchymyn mabwysiadu ar gyfer plentyn; neu
sydd wedi mabwysiadu plentyn,
ond nid yw'n cynnwys person os yw'r plentyn y cyfeirir ato wedi peidio â bod yn blentyn, neu berson sy'n llys-riant neu'n rhiant naturiol i'r plentyn, neu berson a oedd yn llys-riant i'r plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn;
mae i “rhiant maeth” (“foster parent”) yr un ystyr ag sydd iddo yn Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(6);
ystyr “teulu mabwysiadol” (“adoptive family”) yw plentyn mabwysiadol, rhiant mabwysiadol y plentyn mabwysiadol, ac unrhyw un o blant y rhiant mabwysiadol, a dehonglir cyfeiriadau at deulu mabwysiadol person neu gyfeiriadau at deulu mabwysiadol mewn perthynas â pherson, fel y teulu mabwysiadol y mae'r person hwnnw yn aelod ohono.
(2) Yn y Rheoliadau hyn —
(a)mae i unrhyw gyfeiriad at blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yr un ystyr ag sydd iddo yn Neddf Plant 1989(7);
(b)mae unrhyw gyfeiriad at blentyn mabwysiadol person yn gyfeiriad at blentyn sy'n blentyn mabwysiadol mewn perthynas â'r person hwnnw;
(c)mae unrhyw gyfeiriad at riant mabwysiadol plentyn yn gyfeiriad at berson sy'n rhiant mabwysiadol mewn perthynas â'r plentyn hwnnw;
(ch)mae cyfeiriadau (heblaw cyfeiriadau yn yr is-baragraff hwn) at blentyn yn cael ei leoli, neu'n cael ei leoli i'w fabwysiadu—
(i)yn gyfeiriadau at y plentyn yn cael ei leoli i'w fabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd gan asiantaeth fabwysiadu;
(ii)os bydd plentyn sy'n derbyn gofal yn byw gyda pherson, yn cynnwys gadael y plentyn gyda'r person hwnnw fel darpar fabwysiadydd.
(3) Os mewn unrhyw achos—
(a)bydd person wedi cyrraedd 18 oed ac yn cael ei addysgu neu ei hyfforddi yn llawnamser; a
(b)yn union cyn iddo gyrraedd 18 oed—
(i)yr oedd y person hwnnw'n blentyn mabwysiadol; a
(ii)yr oedd cymorth ariannol yn daladwy mewn perthynas ag ef,
bydd y diffiniadau o “plentyn mabwysiadol” a “plentyn”, at ddibenion parhau i ddarparu cymorth ariannol ac at ddibenion unrhyw adolygiad o gymorth ariannol, yn effeithiol fel pe na bai'r person hwnnw wedi cyrraedd 18 oed.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: