Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005

Dirymiadau a darpariaeth drosiannol

18.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir Rheoliadau Lwfans Mabwysiadu 1991(1) a Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2004(2) (“Rheoliadau 2004”).

(2Mae unrhyw asesiad, cynllun neu wasanaeth cymorth mabwysiadu sy'n cael ei baratoi neu sydd wedi'i baratoi, neu, yn ôl y digwydd, sy'n cael ei ddarparu (mae “cael ei ddarparu” yn cyfeirio at wasanaeth) o dan Reoliadau 2004 yn union cyn y dyddiad pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym, i'w drin fel asesiad, cynllun neu wasanaeth o dan y Rheoliadau hyn yn effeithiol o'r dyddiad hwnnw.