- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
15.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae adran 4 o Ddeddf 2002 yn gymwys i awdurdod lleol o ran y personau canlynol sydd y tu allan i ardal yr awdurdod lleol —
(a)plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth y mae'r awdurdod wedi'i leoli i'w fabwysiadu neu a fabwysiadwyd ar ôl iddo gael ei leoli i'w fabwysiadu gan yr awdurdod;
(b)rhiant mabwysiadol plentyn o'r fath; ac
(c)plentyn rhiant mabwysiadol o'r fath.
(2) Bydd adran 4 o Ddeddf 2002 yn peidio â bod yn gymwys yn yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (1) ar ddiwedd y cyfnod o dair blynedd yn cychwyn ar y dyddiad mabwysiadu, ac eithrio pan fydd yr awdurdod lleol yn darparu cymorth ariannol a bod y penderfyniad i ddarparu'r cymorth hwnnw wedi'i wneud cyn y dyddiad mabwysiadu, a bydd rheoliad 17(9) yn gymwys o dan yr amgylchiadau hynny.
(3) Pan —
(a)bydd awdurdod lleol (“yr awdurdod lleoli”) wedi lleoli plentyn i'w fabwysiadu;
(b)bydd llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers y dyddiad mabwysiadu;
(c)bydd yr awdurdod lleoli wedi ceisio cymorth awdurdod lleol arall (“yr awdurdod adennill”) yn unol ag adran 4(10) o Ddeddf 2002; ac
(ch)bydd yr awdurdod adennill wedi cydymffurfio â'r cais hwnnw yn unol ag adran 4(11) o Ddeddf 2002,
caiff yr awdurdod adennill adennill oddi wrth yr awdurdod lleoli unrhyw dreuliau sy'n codi o ddarparu cymorth o'r fath.
(4) Nid yw paragraff (3) yn gymwys os cyngor a gwybodaeth o dan adran 2(6)(a) o Ddeddf 2002 yw'r gwasanaeth a ddarperir gan yr awdurdod adennill.
(5) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn rhwystro awdurdod lleol rhag darparu gwasanaethau mabwysiadu ar gyfer person y tu allan i'w ardal pan fydd yn ystyried ei bod yn briodol iddo wneud hynny.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: