- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
10.—(1) Yr amgylchiadau a ragnodir at ddibenion adran 4(5)(b) o Ddeddf 2002 yw bod yr awdurdod lleol yn bwriadu darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu ar fwy nag un achlysur yn unig.
(2) Rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad o'r cynllun y cyfeirir ato yn adran 4(5) o Ddeddf 2002 (ac y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y cynllun”) i'r personau y cyfeirir atynt yn rheoliad 13(2).
(3) At ddibenion paratoi'r cynllun, rhaid i'r awdurdod lleol ymgynghori —
(a)ag unrhyw berson sydd i gael hysbysiad o dan reoliad 14;
(b)pan ymddengys i'r awdurdod lleol —
(i)y gall fod angen i fwrdd iechyd lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol ddarparu gwasanaethau ar gyfer y person hwnnw; neu
(ii)y gall fod angen darparu ar gyfer y person hwnnw wasanaethau sy'n dod o fewn swyddogaethau awdurdod addysg lleol,
ac â'r bwrdd iechyd lleol hwnnw, yr Ymddiriedolaeth GIG honno neu'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol honno, neu'r awdurdod addysg lleol hwnnw.
(4) Os yw'r awdurdod lleol, o dan reoliad 13, yn penderfynu darparu unrhyw wasanaethau cymorth mabwysiadu ar gyfer person, ac os yw'n ofynnol iddo o dan y rheoliad hwnnw roi hysbysiad o'r penderfyniad hwnnw, rhaid iddo—
(a)enwebu unigolyn y mae'n rhaid iddo fonitro darpariaeth y gwasanaethau sydd i'w darparu; a
(b)hysbysu'r person am yr enwebiad pan fydd yn ei hysbysu am ei benderfyniad o dan reoliad 13.
(5) Rhaid i'r awdurdod lleol roi copi o'r cynllun —
(a)yn unol â rheoliad 13;
(b)pan fydd paragraff (3)(b)(i) yn gymwys, i'r bwrdd iechyd lleol, yr Ymddiriedolaeth GIG neu i'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol;
(c)pan fydd paragraff (3)(b)(ii) yn gymwys, i'r awdurdod addysg lleol; ac
(ch)pan fydd y person y mae'r cynllun yn ymwneud ag ef yn byw mewn ardal awdurdod lleol arall, i'r awdurdod lleol hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: