xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i awdurdodau lleol yng Nghymru ddarparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu fel rhan o'r gwasanaeth y maent yn ei gynnal o dan adran 3(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

Caiff gwasanaethau cymorth mabwysiadu eu diffinio gan adran 2(6) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 fel cwnsela, cyngor a gwybodaeth, a gwasanaethau eraill sy'n cael eu rhagnodi gan reoliadau, sy'n ymwneud â mabwysiadu. Caiff y gwasanaethau hynny eu rhagnodi yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn ac maent yn cynnwys cymorth ariannol (rheoliad 3(a)). Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol benodi cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu er mwyn rhoi cyngor a gwybodaeth i bersonau y mae'n bosibl y bydd mabwysiadu plentyn yn effeithio arnynt (rheoliad 6).

Mae rheoliad 5 yn rhagnodi'r personau hynny sy'n gallu darparu cymorth mabwysiadu.

Mae rheoliad 7 yn rhagnodi'r personau, ac eithrio'r sawl a grybwyllir yn adran 3(1) o'r Ddeddf, sydd â hawl i gael asesiad o'u hanghenion ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu. Mae rheoliad 8 yn pennu'r weithdrefn asesu. Ar ôl gwneud asesiad, rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad o dan reoliad 9 am y gwasanaethau cymorth mabwysiadu y mae'n bwriadu eu darparu. Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i gynllun gael ei baratoi y mae'n rhaid darparu gwasanaethau yn unol ag ef. Mae rheoliad 11 yn pennu'r personau y caniateir talu cymorth ariannol iddynt a'r amgylchiadau pryd y caniateir ei dalu iddynt. Mae rheoliad 12 yn darparu ar gyfer swm y cymorth ariannol sy'n daladwy. Mae rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol benderfynu, gan ystyried yr asesiad, ei fwriadau a hysbysir o dan reoliad 9, ynghyd ag unrhyw sylwadau a wneir am y bwriadau hyn, a phenderfynu pa wasanaethau y mae i'w darparu ac unrhyw amodau sydd i'w gosod, a rhoi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw.

Mae rheoliad 15 yn disgrifio cyfrifoldebau awdurdodau lleol dros leoli y tu allan i'w hardal ac mae'n galluogi awdurdod lleol i adennill cost darparu gwasanaethau oddi wrth yr awdurdod sydd wedi lleoli plentyn i'w fabwysiadu yn ei ardal.

Mae rheoliadau 16 a 17 yn darparu ar gyfer adolygu'r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth mabwysiadu a chymorth ariannol.

Drwy reoliad 18, mae Rheoliadau Lwfans Mabwysiadu 1991 a Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2004 yn cael eu dirymu, ac mae darpariaeth drosiannol yn cael ei gwneud.