- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
7 Mehefin 2005
Yn dod i rym
1 Gorffennaf 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 112 a 210 o Ddeddf Addysg 2002(1), ac ar ôl gwneud y trefniadau y mae'n barnu eu bod yn briodol ar gyfer ymgynghori ynglŷn â'r cynigion a hynny yn unol ag adran 117 o'r Ddeddf a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Datgymhwyso'r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2005.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
3. Yn y Rheoliadau hyn —
mae i “canlyniadau dymunol” yr ystyr a roddir i “desirable outcomes” yn adran 104 o Ddeddf 2002;
mae “cyfnod allweddol cyntaf” i'w ddehongli yn unol â dehongliad “first key stage” yn adran 103(1) o Ddeddf 2002;
ystyr “cynllun treialu'r cyfnod sylfaen” (“foundation phase pilot”) yw cynllun treialu sy'n cael ei ariannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn profi neu ddatblygu'r meysydd dysgu, y canlyniadau dymunol, y rhaglenni addysgol a'r trefniadau asesu cyn bod adran 102 o Ddeddf 2002 yn cychwyn;
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
ystyr “disgybl cofrestredig (“registered pupil”) yw person sydd wedi'i gofrestru'n ddisgybl yn yr ysgol yn y gofrestr sy'n cael ei chadw o dan adran 434 o Ddeddf Addysg 1996(2);
mae i “rhaglenni addysgol” yr ystyr a roddir i “educational programmes” yn adran 104 o Ddeddf 2002;
mae i “ysgol a gynhelir” yr ystyr a roddir i “maintained school” yn adran 97 o Ddeddf 2002.
4. Nid yw darpariaethau Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru i fod yn gymwys mewn perthynas â disgybl cofrestredig yn y cyfnod allweddol cyntaf mewn ysgol a gynhelir pan fo'r disgybl hwnnw yn cymryd rhan yng nghynllun treialu'r cyfnod sylfaen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Mehefin 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n cael eu gwneud o dan Ddeddf Addysg 2002, yn darparu ar gyfer datgymhwyso Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ar gyfer disgyblion mewn ysgolion a gynhelir sydd yn y cyfnod allweddol cyntaf ac sy'n cymryd rhan yng nghynllun treialu'r cyfnod sylfaen, (a elwir y foundation stage yn Lloegr ond yn foundation phase yng Nghymru).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: